Prif bwrpas y Bwrdd yw gwarchod, cynnal a gwella lles economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Sir y Fflint drwy gydweithio fel un gwasanaeth cyhoeddus.
Mae gan Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir y Fflint bum prif rôl:
- Cyflawni dyletswyddau Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus gan gynnwys cynhyrchu a gweithio yn unol â Chynllun Lles Lleol;
- Nodi a blaenoriaethu'r heriau cyfoes lle gelwir am arweiniad a datrys problemau ar y cyd, a materion cyffredin ar gyfer darparwyr neu wasanaethau ac fel cyflogwyr lle gelwir am gamau gweithredu ar y cyd;
- Sicrhau llywodraethu a pherfformiad cyson ac effeithiol ar draws y bartneriaeth strategol sy’n cefnogi’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.
- Hyrwyddo cydweithio wrth gynllunio a darparu gwasanaethau cyhoeddus lleol ac i wneud y defnydd economaidd gorau o bartneriaid ac adnoddau lleol wrth gyflawni nodau a blaenoriaethau cyffredin; a
- Hyrwyddo a chynnal perthnasau partneriaeth effeithiol a llawn ymddiriedaeth ymhlith arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus lleol i gefnogi’r rolau uchod
Mae prif weithgareddau'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus fel a ganlyn:
- Paratoi a chyhoeddi asesiad o gyflwr lles economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Sir y Fflint;
- Paratoi a chyhoeddi Cynllun Lles Lleol ar gyfer Sir y Fflint, yn nodi amcanion lleol a'r camau y mae’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn bwriadu eu cymryd i’w bodloni;
- Parhau i reoli perfformiad ffrydiau gwaith blaenoriaeth mabwysiedig y Bwrdd wrth fynd ar drywydd y canlyniadau maent yn anelu atynt;
- Goruchwylio perfformiad a chyfraniad cyflenwol y partneriaethau strategol lleol; a
- Pharatoi a chyhoeddi adroddiad blynyddol sy'n nodi cynnydd y Bwrdd o ran bodloni eu nodau a'u hamcanion
Wrth gyflawni ei swyddogaethau a’i weithgareddau, bydd y Bwrdd yn cyfrannu at y saith nod 'Lles' cenedlaethol:
- Cymru ffyniannus
- Cymru wydn
- Cymru iachach
- Cymru fwy cyfartal
- Cymru â chymunedau cydlynol
- Cymru gyda diwylliant bywiog a iaith sy’n ffynnu
- Cymru fydol ymatebol
Mae datblygu cynaliadwy yn egwyddor sy'n sail i'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. Mae hyn yn golygu meddwl, cynllunio a gweithredu mewn ffordd lle caiff anghenion y presennol eu diwallu heb beryglu’r dyfodol a chyfyngu’r.
cyfleoedd ar gyfer y cenedlaethau fydd yn dilyn. Wrth wneud penderfyniadau, bydd y Bwrdd yn meddwl, cynllunio a gweithredu ar gyfer yr hirdymor, yn atal problemau rhag codi, drwy integreiddio a chydweithio, a thrwy fod yn gynhwysol.