Alert Section

Strategaeth Adfer COVID-19


New together logo black text 650 pixels wide

Rhagarweiniad

Ar 17 Mawrth 2020 cyhoeddodd Cyngor Sir y Fflint ei ddatganiad cyhoeddus cyntaf mewn ymateb i bandemig coronafeirws Covid-19 ac i gynnydd cynlluniau wrth gefn Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.

Dyma ddechrau cam ymateb i argyfwng y Cyngor. I arwain, cefnogi a diogelu'r bobl y mae’n eu gwasanaethu. Fe barhaodd hyn tan ddiwedd mis Gorffennaf 2020.

Yn dilyn yr argyfwng mae yna rŵan gyfnod pontio i adfer a chefnogi, a chynorthwyo cymunedau, busnesau ac unigolion i baratoi ar gyfer normalrwydd. 

Mae strwythur Strategaeth Adfer COVID-19 y Cyngor ar gael isod.

  • Llinell amser o’r ymateb i’r argyfwng i adfer.
  • Trefniadau trosglwyddo o’r ymateb i’r cam adfer.
  • Adfer y Cyngor fel sefydliad.
  • Adferiad y cymunedau rydym ni’n eu gwasanaethu.
  • Blaenoriaethau strategol y Cyngor a’i berfformiad ar gyfer gweddill 2020/21.
  • Rôl y Cyngor yn yr adferiad rhanbarthol.
  • Adfer trefniadau llywodraethu democrataidd y Cyngor.

Ein dull ar gyfer adfer

Cliciwch ar y ddelwedd i’w wneud yn fwy

Ein dull ar gyfer adfer

Crynodeb o'n hymateb

Llinell amser yr ymateb i COVID-19

Dyfyniad o ddatganiad cyhoeddus cyntaf y Cyngor ar 17 Mawrth 2020. 

“Mae hon yn sefyllfa genedlaethol a rhyngwladol sy'n datblygu'n gyflym. Cewch fod yn dawel eich meddwl fod gennym gynllun parhad busnes llawn ar waith ar draws ein gwasanaethau yn barod.

Arweinir y gwaith cynllunio a'r ymateb rhanbarthol ar gyfer Gogledd Cymru gan y Grŵp Cydlynu Strategol, grŵp sy'n cynnwys uwch weithwyr proffesiynol o bartneriaid gwasanaethau iechyd, brys a chyhoeddus. Rydym yn aelod gweithredol iawn o’r Grŵp Cydlynu Strategol drwy’r Prif Weithredwr a swyddogion arweiniol eraill.

Er ein bod ni (fel Cyngor) yn chwarae rhan bwysig iawn, nid ni yw'r arweinydd yn llygad y cyhoedd a rhaid i ni weithio drwy ddilyn cyngor a chyfarwyddyd cenedlaethol a rhanbarthol.

Bydd y sefyllfa’n datblygu’n gyflym a byddwn yn gwneud penderfyniadau am flaenoriaethu ein hadnoddau ar gyfer y gwasanaethau mwyaf hanfodol fel bo angen.

Rydym yn apelio ar bawb i’n helpu i gynnal ymdeimlad o dawelwch, i ddangos cyfrifoldeb personol wrth ddilyn cyngor cenedlaethol, ac i gyfrannu at weithredoedd cymunedol a theuluol i gefnogi’r rhai mwyaf diamddiffyn lle bynnag y gallwch."

Amcanion ein hymateb oedd:

  • sicrhau parhad busnes gwasanaethau hanfodol y Cyngor;
  • diogelu  cadernid y Cyngor fel sefydliad;
  • diogelu iechyd a lles ein gweithlu;
  • diogelu ein cleientiaid mwyaf diamddiffyn a’r rheiny mewn angen;
  • cyd-reoli’r ymateb i’r pandemig gydag ymatebwyr categori un eraill (fel Heddlu Gogledd Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr) i ddatblygu a gweithredu strategaethau rhanbarthol effeithiol.
Parhad gwasanaethau hanfodol a gweithwyr allweddol

Mae gwasanaethau hanfodol yn wasanaethau sy’n diogelu bywydau, yn diogelu pobl ddiamddiffyn, yn sicrhau diogelwch y cyhoedd, yn cadw isadeiledd cludiant ar agor ac yn helpu gweithwyr allweddol i wneud eu gwaith. Mae’r brif restr o wasanaethau hanfodol yn destun adolygiad parhaus, ac yn ystod y cam ymateb cafodd ei chyhoeddi ar wefan y Cyngor.  

Mae gwasanaethau hanfodol yn dibynnu ar weithwyr allweddol i’w cynnal. Pobl sy’n darparu gwasanaethau yn uniongyrchol, pobl sy’n rheoli’r gwasanaethau a phobl sy’n darparu gwasanaethau cefnogi er mwyn eu cynnal. Pan nad yw gweithwyr allweddol yn gallu gweithio o bell neu weithio gartref, mae modd iddyn nhw deithio i’r gweithle e.e. gofalwyr, gweithwyr gwastraff ac ailgylchu ac athrawon. 

Rheoli ymateb y Cyngor

Ar 17 Mawrth trefnodd y Cyngor bod y Tîm Ymateb a Rheoli Argyfwng yn cwrdd ddwywaith yr wythnos, a gweithredwyd y strwythur rheoli tair haen ar unwaith.

Strwythur gorchymyn Aur, Arian, Efydd

Crëwyd sawl grŵp arbenigol i weithredu ar lefelau arian ac efydd y strwythur rheoli.

 Strwythur Tîm Ymateb Rheoli Argyfyngau

Rheoli cyllid y Cyngor

Cafodd pob penderfyniad ariannol ei reoli o fewn y strwythur rheoli.

  • Cafodd traciwr manwl o’r holl risgiau refeniw a chyfalaf ei ddiweddaru’n wythnosol.
  • Cafodd traciwr llif arian ei ddiweddaru’n wythnosol i sicrhau hylifedd.
  • Cafodd gwariant dianghenraid ei reoli.
  • Defnyddiwyd y cynllun ffyrlo ar gyfer gwasanaethau masnachu.
  • Ymgeisiwyd am gyllid cenedlaethol a grantiau. 
  • Ar gais, darparwyd cymorth brys i Fodelau Darparu Amgen a Throsglwyddiadau Asedau Cymunedol. 
  • Defnyddiwyd cronfeydd wrth gefn y Cyngor i sefydlu cronfa gadw £3 miliwn.
  • Cafodd risgiau ariannol eu proffilio gyda chymorth Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Llywodraeth Cymru. 
Rheoli, cefnogi a diogelu ein gweithlu

Fel cyflogwr moesegol rydym ni wedi:

  • cadw at yr holl ganllawiau cenedlaethol a dilyn arfer orau sefydliadau cenedlaethol fel ACAS;
  • gweithio’n agos gydag UNSAIN ac undebau llafur lleol, gan gynnwys undebau'r athrawon, i gynllunio a gwneud penderfyniadau;
  • adolygu ein cyngor ar drefniadau gweithio diogel yn rheolaidd, yn unol â chyngor iechyd a diogelwch galwedigaethol sy’n newid yn barhaus;
  • darparu cymorth Gwasanaeth Iechyd Galwedigaethol i wasanaethau ac unigolion;
  • darparu diweddariadau i’n gweithwyr a’n rheolwyr;
  • gweithio’n agos gyda CLlLC a Llywodraeth Cymru ar gyngor yn ymwneud â pholisi cyflogaeth.
Cyfathrebu

Cyhoeddus

Enghreifftiau Cyfathrebu Cyhoeddus

Gweithlu

Enghreifftiau cyfathrebu'r gweithlu

Aelodau Etholedig

  • Bwletinau gwybodaeth rheolaidd.
  • Diweddaru a chyhoeddi Cwestiynau Cyffredin yn wythnosol.
  • Cyswllt uniongyrchol â rheolwr gwasanaethau gweithredol, cyflymu atgyfeiriadau achosion ac ymatebion.
  • Briffiau Cabinet ddwywaith yr wythnos dros y ffôn.
  • Briffiau wythnosol dros y ffôn ar gyfer arweinwyr grwpiau.
  • Adfer rhai swyddogaethau democrataidd megis penderfyniadau gweithredol brys a chynllunio. 

Yn ystod mis Mehefin a mis Gorffennaf, yn unol â chanllawiau a chaniatâd y llywodraeth, dechreuwyd ailagor gwasanaethau a effeithiwyd arnyn nhw e.e. canolfannau ailgylchu.

Ddiwedd mis Gorffennaf 2020 tynnwyd Grŵp Ymateb Strategol Gogledd Cymru a Thîm Rheoli ac Ymateb i Argyfwng y Cyngor oddi ar ddyletswydd. 

Cafodd y strwythur rheoli a ddatblygwyd ac a weithredwyd gan y Cyngor yn ystod y cam ymateb i’r pandemig ei adolygu yn rheolaidd, a derbyniodd lefel uchel o sicrwydd gan Archwilio Mewnol, Archwilio Cymru a Phwyllgor Archwilio’r Cyngor. 

Rheoli adnoddau’r Cyngor

Rheoli ein haddnoddau -  enghreifftiau o waith yn ystod COVID-19

Cefnogi ein Cymunedau

Cefnogi ein cymunedau - enghreifftiau o waith yn ystod COVID-19

Cefnogi’r Rhanbarth

 Cefnogi'r rhanbarth - enghreifftiau o waith yn ystod COVID-19

O ymateb i adfer

Wedi tynnu’r Grŵp Cydlynu Strategol Rhanbarthol oddi ar ddyletswydd, camodd y Grŵp Cydlynu Arferiad i'r adwy dan gadeiryddiaeth Prif Weithredwr Cyngor Sir y Fflint.  

Strwythur y Grŵp Cydlynu Adferiad Rhanbarthol

Yn yr un modd sefydlwyd dau grŵp adfer yn lle Tîm Rheoli Argyfwng y Cyngor - Grŵp Adfer Sefydliadol a Grŵp Adfer Cymunedol.  

Bu i’r grwpiau ymateb tactegol arian ac efydd naill ai ddod i ben neu newid yn grwpiau adfer tactegol. Cynhyrchwyd adroddiadau trosglwyddo ffurfiol ynghyd â chofrestrau risg cynhwysfawr a chamau lliniaru.  

Adolygodd bob gwasanaeth yn y Cyngor eu Cynlluniau Parhad Busnes a lluniwyd cynlluniau adfer busnes gweithredol. 

Sefydlwyd Bwrdd Adfer ar gyfer Aelodau, a oedd yn cynnwys cynghorwyr o bob plaid, i oruchwylio diwedd y cam ymateb a threfniadau pontio’r Cyngor ar gyfer adfer. 

Strwythur Adferiad Cyngor Sir y Fflint

Daeth Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus Sir y Fflint a Wrecsam ynghyd i gynllunio strategaeth adfer is-ranbarthol ar gyfer y dwyrain.

Strategaeth Adfer

Adfer y Cyngor fel sefydliad

Yr amcanion adfer ar gyfer y sefydliad a’r gwasanaethau yw:

  • sefydlogi cyllid y Cyngor;
  • sicrhau cadernid ariannol y Cyngor drwy gynllunio ariannol tymor canolig;
  • newid i ddulliau gweithio newydd fel gwasanaethau digidol ac estyn y trefniadau gweithio gartref a gweithio o bell;
  • diogelu gweithlu’r Cyngor wrth i wasanaethau ailddechrau;
  • ailddechrau pob gwasanaeth yn ddiogel;
  • sicrhau parhad busnes ymhob gwasanaeth;
  • cynllunio trefniadau cynllunio rhag argyfwng yn effeithiol rhag ofn i ni orfod cychwyn ail gam ymateb.

Byddwn yn cyflawni’r rhain drwy:

  • rheoli a lliniaru risgiau;
  • gweithredu cynlluniau adfer fesul portffolio;
  • ailddechrau gwaith cynllunio strategol i’r dyfodol ar gyfer gweddill 2020/21 a thu hwnt;
  • ailbennu a chyrraedd targedau perfformiad 2020/21;
  • ailddechrau ein gwaith gyda rheoleiddwyr allanol; 
  • dadansoddi’r galw a'r cyflenwad o gyfarpar diogelu personol ar gyfer y gweithlu, ysgolion a chartrefi gofal annibynnol, a chaffael a dosbarthu’r cyfarpar yn unol â’r canllawiau iechyd a diogelwch galwedigaethol.

Trefniadau Llywodraethu Democrataidd

Mae’r Bwrdd Adfer ar gyfer yr Aelodau wedi’i dynnu oddi ar ddyletswydd ac mae’r Cabinet a’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu wedi ailddechrau.

Yr amcanion ar gyfer adfer trefniadau llywodraethu democrataidd yw:

  • adfer y trefniadau llywodraethu democrataidd llawn, gyda dyddiadur llawn o gyfarfodydd Cyngor;
  • ailddechrau cynllunio strategol i’r dyfodol e.e. Cynllun y Cyngor a’r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig. 

Byddwn yn gwneud hyn drwy:

  • adfer rhaglenni gwaith i’r dyfodol y Cabinet a’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu;
  • ailddechrau gwaith cynllunio strategol drwy Gynllun y Cyngor o fis Rhagfyr tan 2022/23;
  • ailddechrau ein gwaith cynllunio ariannol drwy’r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig o fis Hydref 2020;
  • adrodd yn rheolaidd ar gyfraniad Sir y Fflint at themâu’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ar y cyd, y pedair blaenoriaeth ranbarthol a’r strategaethau adfer rhanbarthol a chenedlaethol cyffredinol. 

Blaenoriaethau Strategol a Pherfformiad

Cynllun y Cyngor a’n perfformiad

Mae adferiad ariannol y Cyngor wedi’i nodi drwy waith y Cynllun Ariannol Tymor Canolig. 

Mae Cynllun y Cyngor yn ymdrin â’r cyfnod hyd at 2022/23. Mae’r cynllun yn cael ei adolygu’n flynyddol ac yn darparu strwythur ar gyfer cynllunio blaenoriaethau’r Cyngor i’r dyfodol.  

Mae’n bwysig ein bod ni’n edrych y tu hwnt i’r cyfnod adfer presennol ac i’r tymor canolig a’r hirdymor. 

Oherwydd COVID-19 cafodd yr adolygiad blynyddol yng ngwanwyn/haf 2020/21 ei ohirio.  

Mae’r adolygiad bellach wedi’i gynnal ac ar 15 Medi cafodd yr elfennau a amlygwyd fel rhai allweddol i’n hadferiad eu cefnogi gan y Cabinet.  Cliciwch yma i weld y blaenoriaethau dewisolto view the selected priorities. 

Mae pob gwasanaeth wedi mabwysiadu cynllun adfer busnes i gefnogi Cynllun y Cyngor.

Mae’r dangosyddion perfformiad wedi’u hadolygu a’u hailosod ar gyfer 2020/21, a’u dosbarthu yn dair thema, sef y rheiny sy'n:

  • allweddol i’n hadferiad;
  • darparu parhad gweithredol;
  • wed’u hatal ar gyfer eleni oherwydd y pandemig a/neu oherwydd nad oes data / data dilys ar gael.

Cliciwch yma i weld y dangosyddion perfformiad. 

Adfer Cymunedol - Sir y Fflint

Amcanion Adfer Cymunedol Sir y Fflint yw:

  • diogelu iechyd a lles cymunedau;
  • cefnogi a diogelu’r bobl fwyaf diamddiffyn;
  • cefnogi adferiad cymdeithasol ein cymunedau;
  • cefnogi adferiad economaidd ein cymunedau a’n sector busnes lleol. 

Strwythur Adfer Cymunedol Cyngor Sir y Fflint

Adferiad Cymunedol Is-ranbarthol

Mae Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus Sir y Fflint a Wrecsam yn cydweithio ar nifer o flaenoriaethau is-ranbarthol cymhleth sydd angen sylw llawer o asiantaethau partner gwahanol er mwyn mynd i'r afael â nhw.

Mae’r Grŵp Adfer Cymunedol Is-ranbarthol yn blaenoriaethu ei waith dan bedair thema gyffredin:

  • Yr Amgylchedd a Lleihau Carbon
  • Tlodi ac Anghydraddoldebau 
  • Plant a Phobl Ifanc
  • Iechyd Meddyliol a Lles

Mae Cyngor Sir y Fflint a Chyfoeth Naturiol Cymru yn arwain y gwaith dan thema yr Amgylchedd a Lleihau Carbon gyda’i gilydd. Amcanion y thema hon yw: 

Environment and Carbon Reduction objectives

Adferiad Rhanbarthol

Mewn partneriaeth â chynghorau eraill a chyrff sector cyhoeddus ar draws y gogledd, mae Cyngor Sir y Fflint yn cynllunio’n weithredol ar gyfer adferiad y rhanbarth.  

Amcanion y Strategaeth Adfer Rhanbarthol

Wedi’i gadeirio gan Brif Weithredwr Cyngor Sir y Fflint mae’r Grŵp Rheoli Adferiad Rhanbarthol wedi mabwysiadu pedair thema adfer ranbarthol:

Themâu Adfer Rhanbarthol

 

Mae arweinyddion cynghorau yn goruchwylio’r gwaith adfer rhanbarthol drwy'r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol a phartneriaethau eraill.

Gwasanaeth Profi, Olrhain a Diogelu Gogledd Cymru

Cyngor Sir y Fflint yw cyflogwr y timau Profi, Olrhain a Diogelu sydd wedi’u halinio â bob un o chwe chyngor y gogledd. 

Mae’r dull rhanbarthol hwn yn hyblyg iawn ac yn darparu cyfleoedd i drefnu gweithwyr yn gyflym ac effeithiol i ddelio ag ardaloedd ar draws y gogledd lle ceir y galw mwyaf. 

Yn ogystal ag olrhain cysylltiadau, mae’r gwasanaeth hefyd yn darparu cefnogaeth i’r bobl fwyaf diamddiffyn yn ein cymunedau gan eu ‘diogelu’ rhag effeithiau’r cyfyngiadau sy’n berthnasol pan fyddant wedi’u hadnabod fel cyswllt, e.e. hunan-ynysu. 

Cynllun Atal ac Ymateb

Mae Cynllun Atal ac Ymateb Lleol COVID-19 Gogledd Cymru yn nodi sut mae sefydliadau’r gogledd yn bwriadu cydweithio i atal a rheoli lledaeniad y feirws ac ymateb petai achosion pellach.

Mae’r cynllun yn ymdrin â:

  • dyrannu rolau, cyfrifoldebau a phwerau lleol
  • gwaith atal lleol
  • gwaith ataliol cychwynnol lleol (mesurau i leihau’r risgiau o drosglwyddo’r feirws)
  • gwaith ataliol eilaidd lleol (gwyliadwriaeth, samplu a phrofi)
  • gwaith ataliol trydyddol lleol (rheoli clystyrau, digwyddiadau ac achosion; lliniaru a rheoli)
  • cyfathrebiadau lleol
  • gweithredu, adolygu a dysgu lleol.

Byw gyda COVID-19

Mae Prif Weinidog Llywodraeth Cymru wedi galw Cyfnod Atal Byr i helpu i arafu lledaeniad feirws COVID-19.

Bydd y Cyfnod Atal hwn yn para o 18:00 ddydd Gwener 23 Hydref tan ddydd Llun 9 Tachwedd.

Mae’r mesurau “cyfnod clo” lleol, a rŵan y mesurau “cyfnod atal” cenedlaethol yn golygu ein bod wedi symud yn ôl i’r cam ymateb ac mae rhai o’r strwythurau y soniwyd amdanynt yn flaenorol wedi cael eu hail weithredu eto, er enghraifft y Grŵp Cydlynu Strategol (GCS). 

Rydym yn byw mewn amgylchedd sy’n symud yn gyflym a dros y misoedd nesaf, nes ein bod yn cyrraedd amser lle bydd y feirws o dan reolaeth, mae’n anochel y byddwn yn parhau i fynd i mewn ac allan o’r cyfnod adfer.  Mae cyfrifoldeb personol ar bob un ohonom i helpu cadw COVID-19 o dan reolaeth a gyda hyblygrwydd a synnwyr cyffredin gyda’n gilydd gallwn wneud iddo ddigwydd.  

Rydym wedi ymrwymo i barhau gyda’r gwaith wedi’i amlygu yn ein Strategaeth Adfer a gyda chefnogaeth preswylwyr a chymunedau gallwn edrych ymlaen at ddychwelyd i ryw fath o normalrwydd.   

Rectangle 650