Llifogydd
Dylai unrhyw un sy’n bryderus am lifogydd yn eu hardal gysylltu â
Llinell Lifogydd Cyfoeth Naturiol Cymru ar 03000 65 3000
Yn ystod argyfwng llifogydd:
- Peidiwch â chyffroi a chadwch lygad ar gymdogion neu unrhyw aelodau o’ch cymuned sy’n agored i niwed.
- Gwrandewch ar y radio leol i gael y newyddion diweddaraf ar y llifogydd.
- Peidiwch â thaflu sbwriel i’r dyfrgyrsiau na gadael sbwriel ar y glannau – gall ychwanegu at y broblem o lifogydd.
- Gofalwch eich bod yn gwisgo menig plastig/rwber wrth ddelio ag eitemau sydd wedi eu heffeithio gan y gall dŵr llif gynnwys carthion.
- Trowch y nwy, y dŵr a’r trydan i ffwrdd os bydd yna lif yn eich tŷ.
- Os bydd cyflwr y ffyrdd yn caniatáu ac mae’n ddiogel gwneud hynny, symudwch gerbydau i ardal sydd heb ei heffeithio gan y llifogydd; gofynnwch i ffrindiau a pherthnasau a allwch chi ddefnyddio eu cyfleusterau parcio nhw.
- Storiwch eich meddiannau i fyny’r grisiau neu mewn lle uchel i lawr y grisiau.
- Os ydych chi’n byw mewn byngalo, carafán, ‘prefab’ neu unrhyw annedd arall sydd heb gyrchiad i ail lawr ac rydych chi mewn trafferth, rhybuddiwch y gwasanaethau brys er mwyn iddyn nhw eich ymgilio oddi yno. Os gallwch hunan-ymgilio ac aros efo teulu neu ffrindiau, rhowch wybod i’r gwasanaethau brys fel eu bod yn gwybod ym mhle’r ydych chi.
- Os bydd y llifogydd yn eich trapio, arhoswch wrth ffenest a cheisio tynnu sylw.
- Dylech ufuddhau i hysbysiadau o gau ffyrdd neu hysbysiadau cynghorol fydd wedi eu rhoi er mwyn eich diogelwch.
- Dylech osgoi dŵr sy’n symud. Gall dŵr sy’n symud ac sydd ond 6 modfedd o ddyfnder ysgubo oedolion i ffwrdd.
- Peidiwch â chael gwared â nwyddau fydd wedi eu difrodi nes bydd eich yswirwyr wedi cael cyfle i’w harchwilio.
- Peidiwch â defnyddio cylchedau nac offer trydanol fydd wedi eu hamlygu i lifddwr nes byddan nhw wedi eu gwirio gan drydanwr cymwys.
Pecynnau cyngor