Yn 2019, fe gysylltodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru gyda phob Cyngor i dynnu sylw at fethiant to fflat a adeiladwyd gan ddefnyddio concrit awyredig wedi'i awtoclafio (RAAC).
Mae’r Cyngor yn rheoli portffolio eiddo o dros 600 yn rhagweithiol, gan gynnwys ystod amrywiol o adeiladau, o ysgolion i unedau diwydiannol. Caiff y rhain eu harolygu/ail arolygu gan syrfewyr siartredig annibynnol ar raglen barhaus i sicrhau bod y Cyngor yn llwyr gydymffurfio gyda’r ddeddfwriaeth gyfredol. Canlyniad y rhaglen barhaus o arolygon cyflwr ar adeiladau sy’n perthyn i’r cyngor, yw nad adroddwyd RAAC.