Alert Section

Wcráin

Gwybodaeth am sut y gallwch chi helpu pobl yr Wcráin

Sut y gallwch chi helpu pobl yr Wcráin

I gael unrhyw wybodaeth leol am Sir y Fflint, anfonwch e-bost at ukraineresettlement@flintshire.gov.uk

Mae rhagor o wybodaeth ar gael gan Lywodraeth Cymru yn https://llyw.cymru/wcrain.

Cael help os ydych chi'n dod i Gymru o Wcráin.

Mae Cymru'n barod i'ch croesawu. Mae gennym hanes balch o roi croeso cynnes i bobl yr effeithir arnynt gan wrthdaro ac adfyd: Get help if you are a Ukrainian coming to Wales | GOV.WALES

Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf, bydd cwrs ESOL yng Ngholeg Cambria yn berffaith i chi. Byddan nhw'n eich helpu chi i wella eich sgiliau siarad, darllen, gwrando ac ysgrifennu Saesneg.

Bydd y cyrsiau yn eich helpu chi yn eich bywyd a’ch gwaith bob dydd, ac yn dangos rhagor i chi am fywyd Prydeinig a diwylliant Cymru, gan ehangu eich profiad o fyw yn y DU.

Coleg Cambria - ESOL

Llinell gymorth i noddwyr a phobl yn Wcráin

Gall noddwyr yng Nghymru ffonio'r llinell gymorth ar 0808 175 1508 am gyngor.

Ar gyfer pobl o Wcráin a'u teuluoedd, mae cymorth am setlo yn y Deyrnas Unedig a chymorth am fisas ar gael ar GOV UK.

I gael help i wneud cais i ddod i'r Deyrnas Unedig, ffoniwch y rhif hwn am ddim +44 808 164 8810.

Ffoniwch 0808 164 8810 os ydych yn y DU. Os na allwch gysylltu â rhifau 0808 y DU ffoniwch +44 (0)175 390 7510.