Alert Section

Canllaw Cyngor Sir y Fflint i Wybodaeth


Mae Cyngor Sir y Fflint wedi’i ymrwymo i wneud gwybodaeth ar gael i’r cyhoedd fel rhan o’i weithgareddau busnes arferol, ac mae’n defnyddio ei wefan er mwyn gwneud y wybodaeth yma’n hygyrch pan fo’n ymarferol gwneud. Os ydy hi’n anymarferol, neu os nad ydy unigolyn eisiau defnyddio’r wefan i gael mynediad at y wybodaeth, mae’r canllaw yma’n rhoi manylion cyswllt ynghylch sut i gael y wybodaeth ar bapur neu mewn ffurf arall. Mewn amgylchiadau eithriadol gall gwybodaeth fod ar gael drwy gael golwg bersonol arni’n unig; er enghraifft, archwilio cofrestr gyhoeddus sy’n cael ei chynnal gan y Cyngor. Pan fo’r dull yma wedi’i ragnodi, caiff manylion cyswllt eu darparu yn y Canllaw, ac mi fydd apwyntiad i weld y wybodaeth yn cael ei drefnu o fewn amserlen resymol. Drwy ddarparu’r wybodaeth mi fydd y Cyngor yn cydymffurfio â’i Gynllun Iaith Gymraeg a chyda’i ymrwymiadau o dan ddeddfwriaeth Cydraddoldeb.

Mae’r mathau canlynol o wybodaeth yn bodoli:

  1. Pwy ydyn ni a beth ydyn ni’n ei wneud

    Gwybodaeth gyfundrefnol, lleoliadau a chysylltiadau, trefnau llywodraethol cyfansoddiadol a chyfreithiol.

  2. Beth ydyn ni’n ei wario a sut ydyn ni’n ei gwario

    Gwybodaeth ariannol yn berthnasol at incwm a gwariant wedi’i amcangyfrifo a gwir, tendro, caffael a chontractau.

  3. Beth yw’n blaenoriaethau a sut ydyn ni’n perfformio

    Strategaeth a gwybodaeth ar berfformiad, cynlluniau, asesiadau, arolygiadau ac adolygiadau.

  4. Sut ydyn ni’n dod at benderfyniadau

    Cynigion polisi a phenderfyniadau.Prosesau dod at benderfyniad, meini prawf a gweithdrefnau mewnol, ymgynghoriadau. Cofnodion o bob cyfarfod cyngor, cabinet, pwyllgor ac is-bwyllgor.

  5. Ein polisïau a gweithdrefnau

    Protocolau ysgrifenedig presennol ar gyfer gweithredu ein swyddogaethau a chyfrifoldebau.  

  6. Rhestrau a Chofrestrau

    Gwybodaeth a ddelir mewn cofrestrau sy’n ofynnol gan y gyfraith a rhestrau a chofrestrau eraill yn ymwneud â swyddogaethau'r awdurdod.

  7. Y Gwasanaethau rydym ni’n eu Cynnig

    Cyngor a chanllawiau, llyfrynnau a thaflenni, trafodion a datganiadau i’r cyfryngau.Disgrifiad o’r gwasanaethau a gynigir.

  8. Setiau Data

    Gellir canfod setiau data mewn ffurfiau y gellir eu hailddefnyddio drwy’r ddolen yma i’r wefan.

Mae Adran 11 (5) o’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn diffinio set ddata fel “gwybodaeth wedi’i ffurfio o gasgliad o wybodaeth a ddelir mewn ffurf electronig lle bod mwyafrif y wybodaeth neu’r wybodaeth i gyd—

(a) wedi'i gael neu ei recordio at bwrpas darparu awdurdod cyhoeddus â gwybodaeth ynghylch darpariaeth gwasanaeth gan yr awdurdod neu weithredu unrhyw swyddogaeth arall sydd gan yr awdurdod,

(b) sy’n wybodaeth ffeithiol—

(i) nad yw’n gynnyrch dadansoddi neu ddehongli ar wahân i gyfrifiad, a

(ii) nad yw’n ystadegyn swyddogol (o fewn yr ystyr a roddir gan adran 6(1) o Ddeddf y Gwasanaeth Ystadegau a Chofrestru 2007), a

(c) sy’n aros yn gyflwynedig mewn ffordd sydd (heblaw at bwrpas ffurfio rhan o’r casgliad) heb ei drefnu, addasu neu ei newid yn faterol ers iddi gael ei ddarganfod neu gofnodi.” 

Mi fydd gwybodaeth sy’n cael ei wneud yn hygyrch yn rheolaidd yn cael ei adolygu a’i ddiweddaru’n gyson.

Yn gyffredinol, ni fydd dosbarthiadau gwybodaeth yn cynnwys:

Gwybodaeth y mae’i datgelu wedi’i rwystro gan y gyfraith, neu sydd wedi’i eithrio o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, neu sydd fel arall yn cael ei ystyried wedi’i ddiogelu rhag datgelu;gwybodaeth ar ffurf drafft;gwybodaeth nad yw bellach ar gael yn hygyrch gan ei bod wedi’i storio mewn archif, neu sy’n anodd cael mynediad ati am resymau tebyg.

Taliadau

Mae gan y Cyngor yr hawl i godi tâl am wybodaeth sy’n cael ei wneud yn hygyrch, ond mae'r cyngor wedi penderfynu na fydd tâl fel arfer. Mae llyfrgelloedd y Cyngor yn cynnig mynediad rhyngrwyd am ddim at y wybodaeth sydd ar gael drwy wefan y Cyngor.

Mae’r amgylchiadau eithriadol y gellid codi tâl ynddynt wedi’u manylu yn yr Atodlen Ffioedd, hefyd mi all Taliadau Swyddfa Cofnodion Sir y Fflint  fod yn berthnasol.

Mi all taliadau gael eu codi am wneud setiau data (neu rannau ohonynt) sy’n weithiau perthnasol â hawlfraint ar gael i’w hailddefnyddio. Caiff y taliadau yma eu gwneud i gydymffurfio â naill ai rheoliadau a wnaethpwyd o dan adran 11b o’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth neu ddeddfiadau eraill.

Os ydy tâl yn daladwy, caiff cadarnhad o’r taliad sy’n ddyledus ei roi cyn i'r wybodaeth cael ei ddarparu. Gellir gofyn am daliad cyn darparu’r wybodaeth.

Ceisiadau Ysgrifenedig

Gellir gofyn am wybodaeth a ddelir gan y Cyngor nad yw’n cael ei chyfeirio ati yn y canllaw yma drwy ysgrifennu at foi@siryfflint.gov.uk, neu at y Swyddog Deddf Rhyddid Gwybodaeth, Gwasanaethau Democrataidd, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug, CH7 6NR (gweler hefyd dudalen we’r Cyngor ar Rhyddid Gwybodaeth sy’n rhoi mwy o fanylion)

Hawlfraint

Nid yw mynediad at wybodaeth o reidrwydd yn dod â’r hawl i’w ailddefnyddio. Mi all gwybodaeth fod o dan hawlfraint ac efallai bydd angen trwydded i’w ailddefnyddio. Os ydych chi'n dymuno ailddefnyddio gwybodaeth yna ysgrifennwch at Y Rheolwr Cofnodion, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug, CH7 6NB neu e-bostiwch RheolaethCofnodion@siryfflint.gov.uk.  Mae mwy o wybodaeth ar gael yn y ddogfen hon:Hawlfraint - ailddefnyddio gwybodaeth sector cyhoeddus.