Alert Section

Rhyddid Gwybodaeth / Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol


Rhyddid Gwybodaeth (RhG)

Mae ceisiadau ysgrifenedig am wybodaeth nad ydynt yn gofyn am eich gwybodaeth bersonol (a lywodraethir gan y Ddeddf Diogelu Data) neu wybodaeth amgylcheddol (a lywodraethir gan y Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol) yn cael eu llywodraethu gan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000.  

Cyn i chi wneud cais, gwiriwch a yw'r wybodaeth ar gael yn ein cynllun cyhoeddi.

Gellir gwneud y ceisiadau hyn am wybodaeth i unrhyw ran o'r Cyngor neu drwy e-bost at foi@siryfflint.gov.uk  Os oes angen cymorth arnoch i wneud cais, gallwch ffonio 01267 224923.


Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol (RhGA)

Mae Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 yn rhoi i aelodau’r cyhoedd hawliau tebyg i’r rheiny yn y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth wrth wneud cais am wybodaeth amgylcheddol.  Er bo raid i geisiadau fod yn ysgrifenedig ar gyfer y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, mae ceisiadau llafar yn dderbyniol o dan y Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol.

Mae gwybodaeth amgylcheddol yn cynnwys gwybodaeth a gofnodwyd gan y Cyngor ynglŷn â:-

  • Chyflwr elfennau amgylcheddol megis aer, dŵr, pridd a thir.
  • Allyriadau a gollyngiadau, sŵn, ynni, ymbelydredd, gwastraff ac unrhyw sylweddau eraill. 
  • Mesurau a gweithgareddau megis polisïau, cynlluniau a chytundebau sy’n effeithio neu sy’n debygol o effeithio ar gyflwr elfennau amgylcheddol.
  • Adroddiadau, cost a budd a dadansoddiadau economaidd a ddefnyddir yn y polisïau, y cynlluniau a’r cytundebau hyn.
  • Cyflwr iechyd a diogelwch dynol, halogi’r gadwyn fwyd a safleoedd diwylliannol a strwythurau adeiledig.  

Cysylltwch â’r e-bost eir@siryfflint.gov.uk neu ffoniwch 01267 224923.

 

Gweithdrefn ar gyfer ymdrin â cheisiadau Rhyddid Gwybodaeth a Rhyddid Gwybodaeth Amgylcheddol

Ar ôl derbyn cais bydd y swyddog cyswllt RhG/RhGA yn anfon cydnabyddiaeth ysgrifenedig ac yna’n prosesu’ch cais yn brydlon cyn pen 20 diwrnod gwaith fel arfer. 

Ambell waith mae’n bosibl na fydd yn eglur pa wybodaeth sydd ei hangen arnoch.  Mewn amgylchiadau felly mae’n bosibl y bydd y Cyngor yn cysylltu â chi i’ch cynorthwyo i egluro natur y wybodaeth sydd ei heisiau arnoch.

Wrth ymdrin â cheisadau am wybodaeth mae’n bosibl y bydd angen i’r Cyngor ymgynghori â thrydydd partïon neu gyrff er mwyn penderfynu a oes modd darparu’r wybodaeth a geisiwyd.  Os hoffech gael eich hysbysu cyn i ymgynghoriad tebyg ddigwydd, dylech nodi hynny yn eich cais/

Mae’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth a’r Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol yn cynnwys categorïau o eithriadau / esemptiadau, ac mae’n bosibl y bydd hyn yn golygu na fydd modd i’r Cyngor roi’r wybodaeth i chi, er bod y wybodaeth ganddo, gan na fyddai hynny’n briodol. Mewn sefyllfa felly bydd y Cyngor, yn ei ymateb ysgrifenedig, yn esbonio pam fod yr eithriad yn berthnasol i’ch cais. 

Taliadau

Fel arfer mae'r Cyngor yn darparu gwybodaeth y mae'n ei chadw yn rhad ac am ddim yn dilyn cais o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth neu'r Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol.  Nodir ym mha amgylchiadau y caiff taliadau eu codi yn yr atodlen daliadau, hefyd mae'n bosibl y codir Taliadau Archifdy Sir y Fflint arnoch.  Cewch wybod os bydd tâl yn cael ei godi arnoch a gofynnir i chi dalu os ydych yn dymuno parhau â’ch cais.

Os nad yw’r Cyngor yn cadw’r wybodaeth yr ydych wedi’i cheisio ond yn meddwl fod awdurdod arall yn ei chadw, bydd yn esbonio hyn wrthych ac yn rhoi manylion cyswllt yr awdurdod arall i chi.  

Gweithdrefn Gwyno

Os ydych yn anfodlon â’r modd y mae’r Cyngor wedi ymdrin eich cais am wybodaeth, gallwch ofyn am adolygiad mewnol o fewn 2 fis o dyddiad yr ymateb hwn.  Lle mae’ch cwyn yn un cymhleth efallai na fydd yn bosib delio ag ef o fewn yr amserlen uchod. Mewn sefyllfa o’r fath, bydd adroddiad cynnydd yn cael ei anfon o fewn yr amserlen.

Dylech anfon cais am adolygiad mewnol i’r Rheolwr Llywodraethu Gwybodaeth y Cyngor:
Team Llywodraethu Gwybodaeth
Neuadd y Sir
Yr Wyddgrug
Sir Y Fflint
CH7 6NB
Ney drwy e-bostio: RhyddidGwybodaeth@siryfflint.gov.uk

Cofiwch ddyfynnu rhif cyfeirnod eich cais gwreiddiol.

Mae gennych hawl hefyd i gwyno wrth y Comisiynydd Gwybodaeth.  Gallwch gysylltu â’r Comisiynydd Gwybodaeth yn y cyfeiriad canlynol:
Information Commissioner’s Office
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Fodd bynnag, dylech nodi nad yw’r Comisiynydd fel arfer yn ymchwilio i gŵyn nes ei fod wedi bod drwy ein proses adolygu fewnol.