Amrywiaeth a Chydraddoldeb
Mae Cyngor Sir y Fflint wedi ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb a dileu gwahaniaethu. Mae polisi Amrywiaeth a Chydraddoldeb y Cyngor yn nodi sut y byddwn yn dileu gwahaniaethu, datblygu cyfleoedd cyfartal a meithrin perthnasau da rhwng cymunedau. Rydym hefyd wedi datblygu Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2020-2024 i ddiwallu dyletswyddau cydraddoldeb sector cyhoeddus, mae'r cynllun yn cynnwys ein hamcanion cydraddoldeb a'r camau y byddwn yn eu cymryd i'w cyflawni.
Rydym yn aelodau balch o Raglen Cefnogwyr Amrywiaeth Stonewall. Mae rhaglen Cefnogwyr Amrywiaeth Stonewall yn fforwm arfer da lle gall cyflogwyr weithio gyda Stonewall, a'i gilydd, i hyrwyddo cydraddoldeb lesbiaid, pobl hoyw, deurywiol a thrawsrywiol* yn y gweithle.
Drwy ymuno â Chefnogwyr Amrywiaeth gobeithiwn y byddwn yn cyflwyno neges glir i'n gweithwyr LGBT a'r gymuned am ein hymrwymiad i gydraddoldeb.
Cynllun Setliad y DU – cyngor i ddinasyddion yr UE:
Gwasanaeth Hawliau Dinasyddion yr UE
Gwasanaeth Hawliau Dinasyddion yr UE Czech - Služba ochrany práv pro občany EU
Gwasanaeth Hawliau Dinasyddion yr UE Polish - Biuro ds. praw obywateli UE
Gwasanaeth Hawliau Dinasyddion yr UE Portuguese - Serviço de Direitos dos Cidadãos da UE
Gwasanaeth Hawliau Dinasyddion yr UE Romanian - Serviciul privind drepturile cetățenilor Uniunii Europene
Gwasanaeth Hawliau Dinasyddion yr UE Slovak - Služba zameraná na práva občanov EÚ