Asesiadau O Effaith ar Gydraddoldeb
Mae gan Gyngor Sir y Fflint ddyletswydd benodol, fel pob awdurdod cyhoeddus arall, i wneud asesiadau, a chyhoeddi’r canlyniadau, o effaith ein gwasanaethau, ein polisïau newydd a'n polisïau diwygiedig ar gydraddoldeb. Nod Asesiadau o Effaith ar Gydraddoldeb yw sicrhau nad yw’n gwasanaethau a’n polisïau’n cael effaith negyddol ar wahanol grwpiau o bobl.
Rhestrir isod pob Cyfarwyddiaeth sydd eisoes wedi gwneud Asesiadau o Effaith ar Gydraddoldeb.
- Gwasanaethau Cymunedol
- Gwasanaethau Corfforaethol
- Amgylchedd
- Dysgu Gydol Oes
Gwasanaethau Cymunedol
- Crynodeb o Asesiad o Effaith Cydraddoldeb - Polisi Cwynion
- Cynllun gweithredu Cefnogi Pobl 2009 - 2010
- Crynodeb o Asesiad Effaith Cydraddoldeb - Gwasanaethau Gofal Ychwanegol Shotton
- Crynodeb o Asesiad Effaith Cydraddoldeb - Gwasanaethau Yr Hen Fragdy
- Crynodeb o Asesiad Effaith Cydraddoldeb Gwasanaethau - Cefnogi Pobl, Y Meini Prawf
Amgylchedd
Gwasanaethau Corfforaethol
- Crynodeb o Asesiad Effaith Cynllun Cydraddoldeb - Canolfan Orffwys Cyfunol Sir y Fflint a Sir Ddinbych
Asesu Effaith ar Gydraddoldeb
Pennodd y Cyngor ei gyllideb flynyddol ar 1 Mawrth 2012 ac roedd yn cynnwys yr angen i arbed tua £4.7m drwy weithio’n fwy effeithlon yn ystod 2012-2013. Ymgynghorwyd â’r cyhoedd a’r aelodau etholedig ynghylch cynigion y gyllideb. I’n helpu ni i ddeall effaith posibl y cynigion ar gydraddoldeb mewn gwahanol rannau o’r gymdeithas, cafodd pob cynnig ei sgrinio’n unigol. Mae crynodeb o’r asesiad o effaith y gyllideb flynyddol ar gydraddoldeb i’w weld . Cwblhawyd asesiadau llawn o effaith y cynigion ar gydraddoldeb lle bo hynny’n briodol.
Cysylltwch â
Swyddog Polisi - Cydraddoldeb
Gwasanaethau Corfforaethol
Cyngor Sir y Fflint
Neuadd y Sir
Yr Wyddgrug
Sir y Fflint
CH7 6NG
Ffôn 01352 702122