ECO-Flex: Grant Tuag At Wella Effeithlonrwydd Ynni
Cynllun grant yw’r Rhwymedigaeth Cwmnïau Ynni (ECO) sy’n galluogi cwsmeriaid sy'n profi tlodi tanwydd i wella effeithlonrwydd ynni eu cartrefi.
Mae’r Cyngor wedi cyhoeddi Datganiad o Fwriad er mwyn galluogi rhoi’r cynllun hwn ar waith yn Sir y Fflint.
Os yw eich cartref chi (boed wedi’i rentu neu’n eiddo i chi) yn aneffeithlon o ran ei ddefnydd o ynni a'ch bod yn gwario dros 10% o'ch incwm ar danwydd (neu os ydych yn derbyn budd-daliadau) fe allech fod yn gymwys i dderbyn grant ar gyfer mesurau gwella effeithlonrwydd ynni eich cartref gan gynnwys uwchraddio systemau gwresogi ac insiwleiddio.
Gweinyddir y grantiau gan asiantau sy’n gweithio ar ran cwmnïau ynni. Bydd yr asiantau’n casglu manylion cwsmeriaid, yn cynnal arolygon o ynni cartrefi ac yn trefnu bod gwaith yn cael ei wneud yng nghartrefi’r ymgeiswyr llwyddiannus.
Rhan Cyngor Sir y Fflint yn hyn yn syml iawn yw edrych ar geisiadau er mwyn sicrhau bod y meini prawf i fod yn gymwys ar gyfer grantiau yn cael eu cyrraedd.
Landlordiaid ac aelodau’r cyhoedd - os gwelwch yn dda peidiwch ag anfon eich ffurflenni cais atom yn uniongyrchol, rhaid gwneud hynny mewn partneriaeth â chwmni ynni neu eu hasiant.
Sylwer O 7th Awst 2018 - rhaid defnyddio Fersiwn 2 o'r Datganiad o Fwriad (dyddiedig 19/07/2018). Bydd y fersiwn flaenorol yn parhau i fod yn ddilys ar gyfer unrhyw ddatganiadau a lofnodir cyn 7th Awst 2018.
O 1st Tachwedd 2018 - rhaid defnyddio Fersiwn 3 o'r Datganiad o Fwriad (dyddiedig 01/11/2018) Bydd y fersiwn flaenorol yn parhau i fod yn ddilys ar gyfer unrhyw ddatganiadau a lofnodir cyn 1st Tachwedd 2018.
O 12 Rhagfyr 2018 - rhaid defnyddio Fersiwn 4 o'r Datganiad o Fwriad (dyddiedig 12/12/2018) Bydd y fersiwn flaenorol yn parhau i fod yn ddilys ar gyfer unrhyw ddatganiadau a lofnodir cyn 12 Rhagfyr 2018.
O 14 Chwefror 2020 - rhaid defnyddio Fersiwn 5 o'r Datganiad o Fwriad (dyddiedig 13/02/2020) Bydd y fersiwn flaenorol yn parhau i fod yn ddilys ar gyfer unrhyw ddatganiadau a lofnodir cyn 14 Chwefror 2020.
O 2 Mawrch 2020 - rhaid defnyddio Fersiwn 6 o'r Datganiad o Fwriad (dyddiedig 02/03/2020).