Alert Section

Arbed Ynni

Gwybodaeth am y gefnogaeth sydd ar gael i breswylwyr Sir y Fflint ar hyn o bryd i helpu i leihau'r defnydd o ynni / biliau cyfleustodau, gan gynnwys manylion cyswllt ar gyfer y tîm Ynni Domestig

Cymorth gydag arbed ynni

Mae Tîm Effeithlonrwydd Ynni Cyngor Sir y Fflint yn darparu cyngor a gwybodaeth broffesiynol i breswylwyr Sir y Fflint gan roi pwyslais arbennig ar fynd i'r afael â thlodi tanwydd yn y sir.

Cynllun Cymorth Cartref Clyd

Mae Cyngor Sir y Fflint yn gweithio gyda Wales & West Utilities ar Gynllun Cymorth Cartref Clyd; rydym yn nodi aelwydydd a allai elwa o gysylltiad â'r rhwydwaith nwy ac yn asesu eu cymhwysedd ar gyfer grant tuag at y gost.

ECO-Flex: Grant Tuag At Wella Effeithlonrwydd Ynni

Cynllun grant sy'n caniatáu gwelliannau effeithlonrwydd ynni mewn aelwydydd incwm isel a diamddiffyn yw'r Rhwymedigaeth Cwmni Ynni (ECO). Ymwadiad - Nodwch os gwelwch yn dda, ni ddylai cwmnïau sy'n cael mynediad at ECO4 dan feini prawf Hyblyg yr ALl alw yn ddi-wahoddiad ac ni ddylent honni eu bod yn gweithio ar ran neu gyda Chyngor Sir y Fflint.