Alert Section

Cymorth gydag arbed ynni


Mae’r gwasanaethau sydd gan Dîm Effeithlonrwydd Ynni Domestig Cyngor Sir y Fflint i’w cynnig fel a ganlyn: 

  • Cyngor ar ynni
  • Cymorth a chyngor ar ymdrin â’ch cyflenwr ynni
  • Cyngor a chyfeiriadau at ffrydiau cyllid amrywiol ar gyfer uwchraddio gwres a mesurau effeithlonrwydd ynni.
  • Cefnogaeth ac atgyfeiriadau er mwyn cynyddu incwm
  • Atgyfeiriadau a chyfeiriadau i helpu gydag anghenion sylfaenol er mwyn cefnogi iechyd a lles unigolion (gan gynnwys pecynnau/talebau bwyd, ychwanegu nwy a thrydan ar eich mesurydd mewn argyfwng)  
  • Atgyfeiriadau a chyfeiriadau at gefnogaeth gyda phroblemau iechyd meddwl
  • Atgyfeiriadau a chyfeiriadau mewn perthynas â phroblemau cartref a phersonol (gan gynnwys synwyryddion carbon monocsid, larymau mwg, larymau diogelwch)
  • Atgyfeiriadau at gymorth â rheoli dyledion a chyllidebu
  • Atgyfeiriadau a chyfeiriadau at y gofrestr gwasanaethau Blaenoriaeth

Mynnwch air gyda Tim Prosiect Effeithlonrwydd Ynni Domestig gan ffonio 01267 224923 neu ebost: deepadmin@siryfflint.gov.uk

Am ragor o gymorth ar sut i wella effeithlonrwydd ynni eich eiddo: https://www.gov.uk/improve-energy-efficiency


 

Nyth

Cynllun gan Lywodraeth Cymru yw Nyth sy’n cynnig cyngor a gwelliannau am ddim i’r cartref i’ch helpu i arbed ynni ac arian.

Ers 2011, mae Nyth wedi darparu gwelliannau ynni i’r cartref am ddim i dros 60,000 o gartrefi.

Cyngor arbed ynni

Mae eu cynghorwyr cyfeillgar yn cynnig cyngor diduedd am ddim i’ch helpu i leihau eich biliau ynni a gwella eich iechyd a’ch lles. Mae hyn yn cynnwys:

  • dod o hyd i’r tariff ynni a dŵr gorau ar gyfer eich cartref
  • budd-daliadau i roi hwb i incwm eich cartref
  • helpu i leihau’ch ôl troed carbon
  • cyngor ar osod eich technoleg carbon isel eich hunan

Cymorth gyda gwelliannau effeithlonrwydd ynni i’r cartref

Mae cynllun Nyth hefyd yn darparu cymorth gyda gosod gwelliannau effeithlonrwydd ynni am ddim ar gyfer eich cartref, a allai gynnwys system wresogi newydd, paneli solar neu inswleiddio.

Gallech fod yn gymwys ar gyfer gwelliannau ynni am ddim i’r cartref os ydych yn bodloni’r tri amod yma:

  • rydych chi’n berchen ar eich cartref neu’n ei rentu’n breifat
  • rydych chi’n derbyn budd-dal sy’n dibynnu ar brawf modd neu’n byw mewn cartref incwm isel
  • mae gan eich cartref sgôr tystysgrif perfformiad ynni (EPC) o 54 (E) neu lai; neu sgôr EPC o 68 (D) neu lai ac mae  gan rywun yn eich cartref gyflwr iechyd cymwys.

Os nad oes gwres neu ddŵr poeth yn eich cartref, gall y cynllun ddarparu atgyweiriad ar gyfer eich boeler neu gyfnewid eich boeler heb unrhyw gost i chi.

Dysgu mwy

Rhagor o wybodaeth: