Alert Section

Cynllun sgorio hylendid bwyd - gwybodaeth i defnyddwyr


Bwyta allan? Prynu bwyd i mewn? Cofiwch edrych ar y sgôr hylendid bwyd

Mae’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd yn eich helpu i ddewis ble i fwyta allan neu siopa am fwyd. Mae’r cynllun yn rhoi gwybodaeth i chi am y safonau hylendid mewn bwytai, tafarndai, caffis, siopau tecawê, gwestai a lleoedd eraill yr ydych chi’n hoffi bwyta allan ynddynt, yn ogystal ag archfarchnadoedd a siopau bwyd eraill.

Sut mae’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd yn gweithio?

Mae Cyngor Sir y Fflint yn gweithredu’r cynllun yn unol â gofynion Deddf Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 2013. Datblygwyd y cynllun gorfodol hwn gan Lywodraeth Cymru mewn cydweithrediad â’r Asiantaeth Safonau Bwyd ac awdurdodau lleol. Mae’n seiliedig ar y cynllun anstatudol sydd wedi bod ar waith yn Cyngor Sir y Fflint ers mis Hydref 2010, ac nid yw’r ffordd y caiff busnesau eu sgorio wedi newid. Bydd yn rhoi gwybodaeth i chi am safonau hylendid safleoedd bwyd ar yr adeg y cânt eu harolygu gan un o’n swyddogion diogelwch bwyd i wirio eu bod yn cydymffurfio â’r gofynion hylendid bwyd cyfreithiol. Mae’r sgôr hylendid a roddir yn adlewyrchu beth mae’r swyddog yn ei ganfod ar y pryd. 

Nid yw’n hawdd pwyso a mesur safonau hylendid yn ôl ymddangosiad busnes yn unig, felly mae’r sgôr yn rhoi syniad i chi o beth sy’n mynd ymlaen yn y gegin, neu du ôl i ddrysau caeedig. Gallwch chwilio am sgoriau a defnyddio’r wybodaeth i ddewis rhywle gyda safonau uwch. Mae hefyd yn syniad da rhannu’r wybodaeth hon â theulu a ffrindiau. 

Pam fod y cynllun yn bwysig?

Mae rhoi gwybodaeth am safonau hylendid mewn safleoedd bwyd yn helpu pobl i wneud dewisiadau wrth fwyta. Mae hefyd yn cydnabod y busnesau hynny gyda’r safonau uchaf ac yn annog eraill i wella. Y nod ar y cyfan yw lleihau nifer yr achosion o wenwyn bwyd sydd, ar hyn o bryd, yn effeithio ar oddeutu miliwn o bobl bob blwyddyn yn y DU.

Mae’r cynllun yng Nghymru yn cael ei weithredu yn unol â Deddf Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) ond mae’r cynllun hefyd ar waith yn Lloegr a Gogledd Iwerddon, ac mae’r sgoriau yn seiliedig ar yr un wybodaeth. Felly mae’r cynllun yn helpu pobl leol ac ymwelwyr wrth benderfynu ble i fwyta a phrynu bwyd, ac mae’n golygu y gall pobl gymharu busnesau o fewn yr un ardal.

Pa fusnesau sy’n cael eu sgorio?

Mae bwytai, siopau tecawê, caffis, siopau brechdanau, tafarndai, gwestai, archfarchnadoedd a safleoedd eraill sy’n gwerthu bwyd, yn ogystal â busnesau eraill lle gall defnyddwyr brynu neu fwyta bwyd, oll yn cael sgôr o dan y cynllun.

Sut mae’r sgôr yn cael ei chyfrifo?

Mae pob busnes yn cael sgôr yn dilyn arolygiad gan swyddog diogelwch bwyd. Mae’r sgôr hon yn seiliedig ar ba mor dda y mae’r busnes yn bodloni gofynion cyfraith hylendid bwyd yn yr arolygiad. Mae’r asesiad yn seiliedig ar y tair elfen ganlynol -

  • pa mor hylan y caiff bwyd ei drin – paratoi, coginio, ail-gynhesu, oeri a storio bwyd yn ddiogel
  • cyflwr strwythur y safle – glanweithdra, atgyweiriad, cynllun, golau, awyru, a chyfleusterau eraill
  • sut mae’r busnes yn rheoli’r hyn y mae’n ei wneud i sicrhau bod bwyd yn ddiogel fel y gall y swyddog fod yn hyderus bod y safonau yn cael eu cynnal yn y dyfodol.

Mae pob un o’r elfennau hyn yn hanfodol er mwyn sicrhau bod safonau hylendid bwyd yn bodloni’r gofynion a bod y bwyd sy’n cael ei weini i chi yn ddiogel i’w fwyta. 

Mae’r sgôr yn ymwneud â safonau hylendid y busnes bwyd yn unig. Nid yw’n ymwneud â safon y bwyd na safon y gwasanaeth a roddir i gwsmeriaid.

Beth yw’r gwahanol sgoriau?
Mae’r sgôr hylendid bwyd yn adlewyrchu’r safonau hylendid a welwyd pan arolygwyd y busnes gan swyddog diogelwch bwyd. Mae’r swyddogion hyn wedi’u hyfforddi’n arbennig ac yn gymwys i asesu safonau hylendid bwyd.

Mae busnes yn cael un o’r sgoriau hyn 

Mae’r sgôr uchaf o 5 o fewn cyrraedd pob busnes. 

Mae’r sgôr sy’n cael ei rhoi yn dangos pa mor dda mae’r busnes yn ei wneud ar y cyfan, ond mae hefyd yn ystyried y pethau sydd angen eu newid fwyaf a lefel y risg y mae’r materion hyn yn ei pheri i iechyd pobl. Bydd rhai busnesau yn gwneud yn dda mewn rhai meysydd ond ddim cystal mewn rhai eraill, ond mae pob un o’r tair elfen sy’n cael eu gwirio yn hanfodol er mwyn gwneud yn siŵr bod safonau hylendid bwyd yn bodloni gofynion a bod y bwyd sy’n cael ei weini neu ei werthu i chi yn ddiogel i’w fwyta.

I gael y sgôr uchaf o ‘5’, mae’n rhaid i fusnesau wneud yn dda yn y tair elfen.

Mae’r rheiny sydd â sgôr o ‘0’ yn debygol iawn o fod yn perfformio’n wael ym mhob un o’r elfennau ac yn debygol o fod â hanes o broblemau difrifol. Er enghraifft, mae’n bosibl bod diffyg prosesau glanhau a diheintio, ac efallai nad yw’r system reoli sydd ar waith yn ddigonol i sicrhau bod bwyd yn cael ei gadw’n ddiogel bob amser. 

Lle nad yw busnes yn cael y sgôr uchaf, bydd y swyddog diogelwch bwyd yn egluro i’r sawl sy’n rheoli’r busnes neu sy’n berchen arno pa welliannau sydd eu hangen. 

Beth all busnesau wneud i wella os oes gofyn iddynt wneud hynny?
Gall perchnogion a rheolwyr busnesau dod o hyd i ragor o wybodaeth am beth sydd angen iddynt ei wneud i gael y sgôr uchaf bosibl drwy glicio yma.  Arolygiadau a sgoriau hylendid – gwybodaeth i fusnesau

Ble fydd y sgôr hylendid yn cael ei harddangos?

Cael hyd i sgôr safle bwyd ar-lein 

Gallwch chwilio am sgoriau busnesau lleol ac am fusnesau ledled Cymru. Gallwch hefyd chwilio am sgoriau yn Lloegr a Gogledd Iwerddon. Mae cynllun tebyg – y Cynllun Gwybodaeth am Hylendid Bwyd – yn cael ei weithredu yn yr Alban ac mae rhagor o fanylion ar gael ar y wefan hon.

Mae busnesau yn cael sticer i ddangos eu sgôr. O 28 Tachwedd 2013, bydd yn rhaid i’r busnesau hynny sy’n cael sticer ‘newydd’ y CSHB sy’n cynnwys logo Llywodraeth Cymru ei arddangos mewn lle amlwg – megis prif ddrws, fynedfa neu ffenestr y busnes, a rhoi gwybodaeth am eu sgôr ar lafar os bydd rhywun yn holi.

A oes rhagor o wybodaeth ar gael?
Cewch ragor o wybodaeth am y sgoriau, am yr hyn sy’n cael ei archwilio a rhagor ar dudalen Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd Cenedlaethol yr Asiantaeth Safonau Bwyd - cwestiynau cyffredin