Alert Section

Niwsans Sŵn


Mae NIWSANS yn weithred neu anweithred afresymol sy’n effeithio arnoch yn hanfodol neu’n sylweddol yn eich eiddo, mewn ffordd sy’n tarfu ar eich mwynhad a’ch cysur yn rheolaidd. Gellir galw digwyddiadau anaml yn niwsans os yw’r effaith yn arbennig o ddifrifol.

Mathau cyffredin o Niwsans Sŵn yw:
Cerddoriaeth neu sŵn teledu uchel
Cŵn yn cyfarth
Sŵn o safleoedd diwydiannol neu fasnachol

Synau na allwn ymdrin â nhw yw:
Plant neu bobl ifanc yn achosi annifyrrwch
Clecian drysauSŵn traffig
Sŵn awyrennau (sifil neu filwrol)

Cofrestru’ch pryderon.
Os ydych chi’n gwybod pwy sy’n gyfrifol am achosi’r broblem, yn aml gall helpu i gysylltu â nhw’n uniongyrchol mewn ffordd gyfeillgar ac egluro wrthynt sut mae’r sefyllfa’n effeithio arnoch chi.  Os nad ydych chi’n teimlo bod hyn yn bosibl neu os ydych chi eisoes wedi rhoi cynnig ar hyn heb lwyddiant, cofrestrwch eich pryderon gyda’r Tîm Rheoli Llygredd.

Y dull a ffefrir er mwyn i’ch cwyn gael ei ymchwilio’n ffurfiol yw darparu cofnodion sain trwy’r Ap Noise. Gofynnwn i chi ddarparu cyfeiriad e-bost i ni trwy anfon e-bost at PPAdmin@flintshire.gov.uk. Byddwn yn eich gwahodd chi i’r Ap Noise; yna byddwch yn derbyn e-bost a chyfarwyddiadau sut i lawrlwytho’r Ap Noise a sut i uwchlwytho cofnodion sain fel eich tystiolaeth ar eich cyfrif.

PWYSIG: Cofiwch gynnwys cyfeiriad lle mae'r niwsans sŵn yn digwydd:

Manylion cyswllt:
E-bost: pollution.control@flintshire.gov.uk
Ffon: 01352 703440