Alert Section

Rheoli plâu


Caiff y cyfan o’n gwaith ei wneud ynglŷn ag iechyd a diogelwch a diogelu anifeiliaid nad ydynt yn darged.

Defnyddiwn blaleiddiaid, trapiau, a mesurau ataliol i sicrhau bod y plâu’n cael eu canfod a’u cywiro mor gyflym a thrugarog â phosib. Byddwn yn eich cyflenwi â gwybodaeth am y dulliau gorau o atal y plâu rhag dychwelyd hefyd.


Byddwn yn trin ar gyfer y canlynol:

  • Llygod mawr
    Fe wnawn ni drin y tu mewn neu’r tu allan.
    Mae baw llygod mawr yn ddu/frown tywyll ei liw ac yn tua ½ modfedd o hyd.
  • Llygod
    Rydym yn trin yn y tŷ yn unig, ni fyddwn yn rhoi triniaeth y tu allan neu mewn gerddi ayb.
    Mae baw llygod yn tueddu i edrych yn debyg i ronynnau du o reis.
  • Chwain
    Os ydych yn cael eich brathu o gwmpas gwaelod eich coes a’ch fferau a bod gennych gathod/gŵn yn eich cartref yna fe allech fod â phla o Chwain, y peth cyntaf i’w wneud ydi cael yr anifail anwes wedi’i drin gan filfeddyg am chwain, yna cysylltu â ni i drefnu i Swyddog drin y tŷ os bydd angen. Bydd mwy o gyngor yn cael ei roi pan wnewch chi’r alwad.  Codir tâl am y driniaeth ar bawb gan fod modd osgoi chwain anifeiliaid anwes trwy fod yn berchen cyfrifol ar anifail anwes h.y. cael trin yr anifail anwes rhag chwain yn rheolaidd gan filfeddyg / y perchennog.
  • Wasp
    Byddwn ond yn trin y tu allan (gan gynnwys adeiladau allanol).  Mae triniaeth yn drethadwy , bydd consesiwn yn cael eu cymhwyso os ydych yn derbyn Cymhorthdal ​​Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith Lwfans Byw i'r Anabl ( DLA ) neu Bensiwn y Wladwriaeth. Rhaid darparu prawf o fudd-daliadau yn cael eu dangos i Swyddog Rheoli Pla neu fel arall bydd rhaid i chi dalu . Rhaid i'r budd-dal fod yn daladwy i'r perchennog tŷ / Tenant ac nid i ddibynyddion / plant ac ati.
  • Morgrug ymlusgol
    Rydym yn trin yn y tŷ yn unig, ni fyddwn yn rhoi triniaeth y tu allan neu mewn gerddi ayb.  Mae triniaeth yn drethadwy , bydd consesiwn yn cael eu cymhwyso os ydych yn derbyn Cymhorthdal ​​Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith Lwfans Byw i'r Anabl ( DLA ) neu Bensiwn y Wladwriaeth. Rhaid darparu prawf o fudd-daliadau yn cael eu dangos i Swyddog Rheoli Pla neu fel arall bydd rhaid i chi dalu. Rhaid i'r budd-dal fod yn daladwy i'r perchennog tŷ / Tenant ac nid i ddibynyddion / plant ac ati.

Nid ydym yn trin ar gyfer y canlynol:

  • Ystlumod 
    Mae’r rhain wedi’u gwarchod, cysylltwch â Chyngor Cefn Gwlad Cymru 01248 385500 am gyngor
  • Gwenyn
    Efallai y bydd gwenynwr lleol yn gallu helpu er efallai y bydd yn codi tâl (gweler Yellow Pages).
  • Llwynogod 
    Ewch i RHS website am wybodaeth ddefnyddiol ynghylch sut i ddelio â llwynogod yn eich gardd.

Gallech gyfeirio at Yellow Pages i gael rheolwr plâu preifat ar gyfer y canlynol

  • Pycs
  • Tyrchod
  • Morgrug hedegog
  • Pryfed heidiog
  • Gwiwerod
  • Adar
  • Pryf pren
  • Chwilod
  • Gwrachod y coed
  • Cacwn meirch
  • Psosidiaid
  • Gwiddon
  • Pryfed arian
  • Gwyfynod
  • Euddon
  • Llwynogod
  • Cwningod

Ffioedd A Taliad

Some treatments are chargeable as identified above. You can pay the operative when they visit to carry out treatment. We welcome payment by cheque (made payable to 'Flintshire County Council'), cash and most credit or debit cards. Or we can invoice you (an additional charge is made for invoicing).

Taliadau Rheoli Plâu o 1 Hydref 2021 - Aelwyd Breifat
    Ffi  TAW   Gyfan 
Llygod Mawr a Llygod   £55.55  £11.11  £66.66
Chwain  £58.08  £11.62  £69.69
Wasp  £50.50  £10.10  £60.60
Morgrug ymlusgol  £45.45  £9.09  £54.54
Cacwn (cyngor yn unig)    £32.83  £6.57  £39.39
Cyfradd Rhatach  £31.98  £6.40  £38.38
Galwad a Gollwyd / preswylydd ddim ar gael adeg apwyntiad   £32.83  £6.57  £39.39

 

Taliadau Rheoli Plâu o 1 Hydref 2021 - Masnachol a Busnes
   Ffi  TAW   Gyfan
Llygod Mawr, Llygod, Wasps, Morgrug ymlusgol, Chwain    £53.03  £10.61  £63.63

Gofyn am Ymweliad / Cyngor Pellach

Ffurflen Rheoli Plâu - Ymholiad Cyffredinol

Neu cysylltwch â Gwarchod y Cyhoedd ar 01352 703440 a siarad â chynghorydd.


Beth sy’n digwydd nesaf?

Bydd yr Adran Rheoli Plâu yn ceisio ymateb i geisiadau i drin plâu o fewn 3 diwrnod gwaith. Yn yr haf mae’n llwyth gwaith yn cynyddu’n fawr, felly ni allwn addo cwrdd â’r amseroedd ymateb uchod.