Alert Section

Cyflenwadau dŵr preifat yn Sir y Fflint


Rydym i gyd angen yfed digon o ddŵr ac yfed dŵr diogel - yn arbennig pan mae’n boeth.

Oherwydd y cyfnod maith o dywydd sych, cynnes, mae’n bosibl y bydd cyflenwadau dŵr yfed preifat yn Sir y Fflint yn dechrau rhedeg yn isel.

Os yw eich cyflenwad dŵr preifat yn sychu i fyny, rhedeg yn isel neu’n cynnwys gwaddod, gall arwain at effeithiau iechyd difrifol yn arbennig i’r diamddiffyn.

Am gyngor a chymorth gallwch anfon e-bost at water@flintshire.gov.uk

water

Mae cyflenwad dŵr preifat yn unrhyw gyflenwad dŵr nad yw’n cael ei ddarparu gan gwmni dŵr ac na fyddai’n cael ei ystyried yn “brif” gyflenwad. Cyfrifoldeb y perchennog neu’r cyd berchnogion yw cynnal unrhyw gyflenwad preifat (gellir nodi hyn mewn cytundeb ffurfiol, neu efallai bod trefniant anffurfiol yn bodoli). 

Mae gan Sir y Fflint dros 160 o eiddo sydd â ffynhonnell dŵr yfed o gyflenwad preifat yn unig. 

Mae Adran Iechyd yr Amgylchedd, Cyngor Sir y Fflint yn cadw cofrestr o holl gyflenwadau dŵr preifat.

Cysylltwch â ni i wybod a yw eich cyflenwad dŵr preifat wedi’i gofrestru. Gall man cyflenwi unigol wasanaethu dim ond un eiddo neu amryw ohonynt.

Mae cyflenwadau dŵr preifat ar gael o amrywiol ffynonellau gan gynnwys: 

Ffynonellau tanddaearol (e.e. tyllau turio a ffynhonnau)

Bydd y mathau hyn o gyflenwadau dŵr preifat yn tynnu eu dŵr o rywle’n ddwfn dan ddaear ac maent yn llai tebygol o gael eu halogi â micro-organebau, er y gallant gynnwys mwynau a chemegion eraill. Fodd bynnag, mae ffynonellau tanddaearol yn agored i halogiad yn y man tynnu ar y wyneb lle gall dŵr arwyneb gasglu yn y cyflenwad neu lifo iddo. Gall ffynhonnau bas hefyd fod yn agored i halogiad sy’n cael i gludo gan ddŵr arwyneb neu weithgareddau ar y tir fel taenu gwrtaith.

Ffynonellau ar y wyneb (afonydd, ffosydd, llynnoedd a phyllau)

Gall y mathau hyn o gyflenwad dŵr preifat fod yn agored i halogiad arwyneb ac, yn arbennig, i ficro-organebau yn enwedig yn ystod cyfnodau o law trwm. Gall ddŵr glaw lifo ar draws y tir gan gasglu halogiad o amrywiol ffynonellau (e.e. o’r pridd, baw anifeiliaid) sydd wedyn yn gallu mynd i’r ffynhonnell ddŵr. Gall ffynonellau arwyneb hefyd fynd yn sych yn ystod cyfnodau maith heb law.

Dosbarthiad arall

Mae math arall o gyflenwad dŵr preifat a elwir un ai yn rhwydwaith ‘dosbarthu ymlaen’ neu ‘ddosbarthu preifat’. Yn y sefyllfa hon, mae cwmni dŵr yn gwerthu dŵr i unigolyn sydd wedyn yn ei ddosbarthu ymhellach drwy eu rhwydwaith pibellau eu hunain i eiddo eraill nad ydynt yn berchen arnynt. 

Bydd yr unigolyn sy’n talu’r cwmni dŵr fel arfer yn dosbarthu’r dŵr am gost i’r defnyddiwr.  Mae rhwydweithiau o’r fath hefyd yn cael eu hystyried fel cyflenwadau dŵr preifat o dan y Rheoliadau Cyflenwad Dŵr Preifat (Cymru) 2017. 

Mae dyletswydd gofal arnoch os ydych yn rhedeg busnes sydd yn defnyddio cyflenwad dŵr preifat.  Mae’n ofynnol bod eich cyflenwad yn cael ei asesu’n flynyddol, a dylech gysylltu ag Adran Iechyd yr Amgylchedd Sir y Fflint i drafod hyn.

Mae ansawdd dŵr da yn hanfodol ar gyfer iechyd da. Y modd mwyaf effeithiol o sicrhau diogelwch cyflenwad dŵr yfed yw drwy’r defnydd o asesiad risg cynhwysfawr.  Mae hyn yn cynnwys yr holl gamau o’r dalgylch i’r defnyddiwr.

Mae gan bob Awdurdod Lleol ddyletswydd i gynnal asesiadau risg i fonitro ansawdd holl gyflenwadau dŵr masnachol a rhai mathau eraill preifat i sicrhau nad yw y dŵr yfed yn y sir yn achosi unrhyw risg i iechyd.

Mae amlder y monitro yn cael ei benderfynu ar sail y risg. 

Os mai ond nifer fechan o bobl sy’n defnyddio’r cyflenwad, mae’n bosibl y byddwch ond angen monitro unwaith bob 5 mlynedd.

Cysylltwch â ni yn water@flintshire.gov.uk os hoffech gael pris neu wybodaeth bellach ar yr hyn fydd yn ei gynnwys os ydych yn dymuno cynnal asesiad risg o’ch cyflenwad dŵr preifat.

Os oes gennych gyflenwad dŵr preifat ac yr hoffech i’r Cyngor ymweld â’ch eiddo a chymryd samplau o’r cyflenwad ar gyfer dadansoddi gan labordy, gallwch gysylltu â ni i drafod eich gofynion a’r ffioedd fydd yn berthnasol.

  • Rhif ffôn: 01352 703440
  • E-bost: water@flintshire.gov.uk
  • Neu ysgrifennwch at:

    Adran Iechyd yr Amgylchedd,
    Cyngor Sir y Fflint,
    Neuadd y Sir,
    Yr Wyddgrug,
    Sir y Fflint
    CH7 6NB

Problemau gyda’ch cyflenwad dŵr preifat

Os ydych yn ddeiliad tŷ, (perchen-feddiannydd neu rhentu preifat), eiddo masnachol neu fusnes bwyd a bod gennych bryderon am eich cyflenwad dŵr yfed preifat, anfonwch e-bost at y Cyngor water@flintshire.gov.uk am gyngor.   Hefyd, dylech ystyried berwi dŵr cyn ei yfed, golchi eich dannedd a’i ddefnyddio ar gyfer paratoi bwyd neu brynu poteli dŵr yn y cyfamser, nes bydd y mater wedi’i ddatrys. 

Cyfrifoldeb y perchennog neu’r cydberchnogion yw sicrhau bod y cyflenwad dŵr yn cael ei gynnal a’i gadw.

Dylai defnyddwyr y cyflenwad fod yn ymwybodol o’r hyn sy’n gallu dylanwadu ar y cyflenwad dŵr a dylent wybod yr atebion i’r cwestiynau canlynol i sicrhau bod y cyflenwad dŵr yn ddiogel i’w yfed: 

  • Pwy sy’n gyfrifol am gynnal a chadw’r cyflenwad, yn enwedig o ran unrhyw offer trin? (un person neu rhannu rhwng sawl perchennog yn gyfartal)
  • Pwy yw’r cyswllt enwebedig ar gyfer y cyflenwad os bydd yna broblem? 
  • O ble daw’r dŵr ac a oes angen unrhyw beth i ddiogelu’r ffynhonnell hon?
  • A oes unrhyw hawliau mynediad sydd angen eglurhad ar gyfer yr holl ddefnyddwyr? 
  • Sut mae’r dŵr yn dod i’ch eiddo, a oes angen cynnal y pibelli?
  • A yw’r dŵr yn cael ei drin ac yw’r offer mewn cyflwr da ac yn cael ei gynnal yn rheolaidd?
  • Pwy sy’n talu am unrhyw atgyweiriadau?
  • Beth yw’r cynllun wrth gefn rhag ofn nad yw'r dŵr ar gael neu’n anaddas i’w yfed?

Dylid archwilio pob rhan o’r cyflenwad yn rheolaidd, gan gynnwys y dalgylch. Dylai’r archwiliad gynnwys gwirio am unrhyw ddifrod, neu bresenoldeb unrhyw beth a all effeithio ar ansawdd y dŵr.

Halogi eich cyflenwad dŵr

Gall cyflenwadau dŵr preifat gael eu halogi gydag amrywiaeth o ficro-organebau, a elwir hefyd yn bacteriolegol a chemegion.

Mae pawb sy’n yfed y dŵr halogedig hwn mewn perygl o haint sy’n gallu peri nifer o afiechydon difrifol.  Mae’r perygl yn arbennig o uchel i bobl nad ydynt wedi arfer â’ch dŵr. Os yw eich anifeiliaid anwes yn yfed y dŵr gallent ddal haint a gall yr haint drosglwyddo i fodau dynol.

Er enghraifft, mae Escherichia coli (E.coli) ac Enterococci yn facteria a all gael ei ganfod ym mherfedd anifeiliaid gwaed cynnes. Ni ddylent fod yn bresennol mewn dŵr yfed a pe gaiff ei ddarganfod, dylid gweithredu ar unwaith i ganfod a thynnu unrhyw ffynhonnell o halogiad ysgarthol. Y safon yw 0 fesul 100ml.

Gall cyflenwadau dŵr preifat gael eu halogi o ganlyniad i gemegion:

  • sy’n cael eu defnyddio ar gyfer amaeth neu reoli tir (e.e. plaladdwyr)
  • sy’n digwydd yn naturiol yn y tir (mwynau yn bennaf, e.e. haearn) a all effeithio ar ymddangosiad/blas y dŵr a gall leihau effeithiolrwydd yr offer trin;
  • sy’n cael eu defnyddio mewn prosesau diwydiannol neu fasnachol (e.e. toddyddion)
Halogiad plwm

Gall plwm fod yn bresennol yn eich dŵr o ganlyniad i’r plymio yn yr eiddo (lle mae pibelli plwm neu danciau cadw hŷn, neu pe ddefnyddiwyd sodr plwm ar bibelli copr). Tra bo dulliau trin ar gael i ddelio â phlwm, yn aml mae’n well disodli unrhyw blymwaith plwm. Os yw dŵr wedi bod yn sefyll mewn pibelli plwm am gyfnodau hir (er enghraifft dros nos), dylid rhedeg y tap am ryw funud i glirio’r pibelli cyn yfed y dŵr. 

Os byddwch angen cyngor pellach neu os hoffech brofi eich dŵr am blwm, gallwch gysylltu â water@flintshire.gov.uk

Triniaeth i’ch cyflenwad dŵr preifat

Mae holl gyflenwadau dŵr preifat yn gallu bod yn fygythiad i iechyd oni bai eu bod yn cael eu diogelu a’u trin yn gywir.   Mae’n bosibl na fyddwch yn gallu dweud pa un a yw eich dŵr yn ddiogel gan na fydd halogiad o bosibl yn ymddangos fel arogl, blas neu liw’r dŵr.  

Mae’r dŵr yfed o brif gyflenwad yn mynd drwy amryw brosesau puro dwys yn y gwaith trin cyn cyrraedd tap y defnyddiwr. Nid yw hyn yn bosibl yn aml gyda chyflenwadau dŵr preifat, fodd bynnag, dylai perchnogion ystyried gosod system trin dŵr ar y cyflenwad gan y gall y systemau hyn sicrhau bod y cyflenwad yn ddiogel i’w yfed.   Gall halogiad micro-organeb gael ei drin drwy hidlo’r amhurdebau mawr; ac yna sterileiddio uwchfioled. 

Mae systemau hidlo a sterileiddio uwchfioled angen eu cynnal a chadw yn rheolaidd er mwyn bod yn effeithiol. 

Os ydych yn rhannu eich cyflenwad gydag eiddo arall mae modd cael y driniaeth yn y dalgylch yn hytrach nag ymhob tŷ. 

Os ydych wedi byw yn eich eiddo ers sawl blwyddyn gallwch fod wedi datblygu rhywfaint o imiwnedd i rai o’r halogwyr bacteriolegol yn eich cyflenwad.  Fodd bynnag, dylid trin y dŵr yr un fath, gan na fydd gan ymwelwyr imiwnedd, yn arbennig plant ifanc iawn.

Gall cyflenwr offer trin dŵr drafod y dewisiadau trin gyda chi, er efallai bydd angen iddynt drin y cyflenwad er mwyn darparu cyngor cywir.

Mae’r Cyngor yn gallu darparu enghreifftiau o gwmnïau sy’n gallu rhoi prisiau, os bydd angen.  

Os oes yna driniaeth ar eich cyflenwad dŵr preifat eisoes, argymhellir bod defnyddwyr ac unigolion perthnasol eraill yn derbyn y wybodaeth ddiweddaraf o ran gwiriadau gweithredol a sicrhau bod gwaith cynnal a chadw yn cael ei wneud (e.e. disodli lampau UV, newid hidlyddion yn rheolaidd neu fonitro dos clorin).  Hefyd, mae’n arfer da i gadw digon o stoc o offer hanfodol dros ben, i sicrhau bod y cyflenwad yn parhau’n ffres bob amser.  

Heb roi eich hun mewn perygl, os gallwch gael mynediad diogel i’ch ffynhonnell dŵr, mae’n ddoeth gwirio bod y ffynhonnell wedi’i ddiogelu’n ddigonol ac yn ddiogel rhag halogiad, rhag llifogydd, pwll o ddŵr o amgylch pen y siambr ac yn ddiogel rhag mynediad i anifeiliaid.

Dylai eiddo masnachol a landlordiaid ar gyfer eiddo rhentu preifat gofnodi unrhyw gamau a gymerwyd, ac os oes angen, cyflwyno’r rhain i’r Awdurdod Lleol i gadarnhau nad oedd y cyflenwad yn risg i iechyd yn ystod unrhyw amgylchiadau eithriadol. 


Gwybodaeth bellach:

Mae mwy o wybodaeth am gadw eich eich cyflenwad yn ddiogel drwy’r flwyddyn a thrin eich cyflenwad dŵr preifat hefyd ar gael ar y wefan isod:

Arolygiaeth Dŵr Yfed: Cyflenwadau dŵr preifat
Rhif ffôn: 0330 041 6501
E-bost: dwi.enquiries@defra.gov.uk

Cyfoeth Naturiol Cymru - cyngor ar sychder i gyflenwadau dŵr preifat

Iechyd Cyhoeddus Cymru - Ymdopi heb gyflenwad dŵr preifat


Cysylltu â phrif gyflenwad dŵr

Os penderfynwch nad ydych eisiau defnyddio eich cyflenwad dŵr preifat mwyach, gallwch gysylltu â’ch cwmni dŵr lleol ynghylch cysylltu â’r prif gyflenwad, os yw’n bosibl.   Bydd yn rhaid i chi dalu’r holl gostau a byddech yn trefnu hyn yn uniongyrchol gyda nhw. 

Yn dibynnu ar eich union leoliad, mae Sir y Fflint yn cael ei wasanaethu gan y cwmnïau prif gyflenwad dŵr canlynol

Hafren Ddyfrdwy

Dwr Cymru / Welsh Water