Alert Section

Coroni'r Brenin - Partïon Stryd


Telerau ac Amodau Cymeradwyo

Parti stryd yw digwyddiad bychan sy’n cael ei fynychu gan breswylwyr lleol a’u teuluoedd; ac nid yw’n cael ei hysbysebu i’r gymuned ehangach.

Er mwyn cau ffordd ar gyfer parti stryd, rhaid gwneud cais am Orchymyn Traffig Dros Dro.  Dim ond ar gyfer ffyrdd preswyl bychan y cymeradwyir cais am Orchymyn Rheoli Traffig Dros Dro a fydd yn cael effaith bach iawn ar draffig trwodd. Nid yw ffyrdd sydd yn rhan o’r llwybr bysiau neu’n cael eu defnyddio i gael mynediad at fusnesau neu nifer uchel o ffyrdd preswylwyr eraill fel rheol yn cael eu hystyried yn addas. 

Rhaid i ymgeiswyr neu’r unigolyn enwebedig sydd yng ngofal cyffredinol am y digwyddiad:

  • ddarparu rhif ffôn argyfwng er mwyn gallu cysylltu â nhw yn ystod y digwyddiad
  • ymgynghori a thrafod gyda’r rhai sy’n debygol o gael eu heffeithio gan unrhyw gyfyngiadau traffig
  • rhaid iddynt drefnu o leiaf un arwydd ‘ffordd ar gau’ i’w osod ym mhob man lle bydd y ffordd/ffyrdd yn cau.
  • gosod hysbysiad cyhoeddus y bydd Cyngor Sir y Fflint yn ei gyhoeddi ym mhob pen y ffordd ar gau o leiaf saith niwrnod cyn y parti stryd
  • sicrhau bod yr holl offer, deunyddiau a sbwriel sy’n gysylltiedig â’r digwyddiad yn cael eu clirio, bod y ffordd yn cael ei dychwelyd i’w chyflwr gwreiddiol fel yr oedd cyn y digwyddiad a chyn i’r ffordd ail agor erbyn yr amser y daw’r drwydded i ben (ni all hyn aros tan y bore canlynol)
  • sicrhau bod sŵn o’r digwyddiad yn cael ei gadw ar lefelau derbyniol drwy’r amser ac mor isel â phosibl ar ôl 9pm

Rhaid i drefnwyr parti stryd ymgynghori â’r holl fudd-ddeiliad a fydd yn cael eu heffeithio gan y cyfyngiad. Mae faint o ymgysylltu y mae angen i chi ei wneud yn dibynnu ar raddfa ac effaith posibl eich digwyddiad. Os hoffech chi drafod ymgysylltu ar gyfer eich digwyddiad, cysylltwch â’r Tîm Gofod ar y Ffordd: streetworks@flintshire.gov.uk 

Os derbynnir unrhyw sylwadau andwyol mewn cysylltiad â’r cynigion rheoli traffig, dylai trefnydd y digwyddiad geisio datrys y rhain. Os na fydd ymgeisydd yn gallu datrys unrhyw anghydfod gwirioneddol trwy gamau lliniaru, mae’n rhaid i’r ymgeisydd roi gwybod i Gyngor Sir y Fflint.  Os ydi’r Cyngor yn credu nad oes ymgysylltu digonol wedi bod, neu os oes yna wrthwynebiad i gau’r ffordd nad oes modd ei liniaru ac felly’n cael ei gefnogi, mae gennym ni’r hawl i newid y cynigion rheoli traffig neu wrthod cais.

Bydd Cyngor Sir y Fflint yn darparu dau arwydd ‘ffordd ar gau’, a 12 côn traffig cyn y digwyddiad yn rhad ac am ddim.  Os byddwch chi angen rhagor o arwyddion i hwyluso eich parti, bydd angen i chi gysylltu â’ch darparwr rheoli traffig yn annibynnol.  Bydd yr offer yn cael ei anfon i gyfeiriad cartref yr ymgeisydd, ac yn cael ei gasglu yn ystod yr wythnos waith ganlynol.  Bydd costau a ysgwyddir i ailosod offer sydd wedi’i ddifrodi neu ei golli yn cael eu talu gan yr ymgeisydd..

Er nad yw’n ormodol, fe argymhellir bod gan drefnwyr partïon stryd yswiriant atebolrwydd cyhoeddus ar gyfer y math yma o ddigwyddiad.

Mae’n rhaid i’ch parti gydymffurfio gydag unrhyw gyfyngiadau a chanllawiau Covid-19 sydd yn eu lle ar adeg y digwyddiad.

Sicrhewch fod gennych chi gofnod o risgiau a sut rydych chi’n bwriadu eu rheoli.  Mae enghreifftiau asesiad risg Gweithgor Iechyd a Diogelwch yn cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol ac enghreifftiau o dempledi y gallwch chi eu defnyddio.

CLICIWCH YMA i wneud cais erbyn dydd Gwener 31 Mawrth 2023 fan bellaf.