Alert Section

Hysbysiad Preifatrwydd y Gwasanaeth Blynyddoedd Cynnar a Theuluoedd

Mae Gwasanaeth y Blynyddoedd Cynnar a Theuluoedd Sir y Fflint yn darparu ystod o wasanaethau gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth i deuluoedd gyda phlant sy’n byw yn Sir y Fflint a’r cyffiniau (e.e. cynnig gofal plant 3-4 oed Sir Ddinbych, Wrecsam). Mae’r gwasanaeth yn cynnwys rhaglenni cefnogaeth gynnar a chanolfannau i deuluoedd (gan gynnwys gwybodaeth i deuluoedd a gwasanaethau - gwasanaeth gwybodaeth i deuluoedd; rhianta cymunedol, gwasanaethau iechyd, cefnogaeth gyda datblygiad iaith, lleferydd a chyfathrebu, magu plant a’u datblygiad) yn ogystal â gofal plant a ariennir gan Lywodraeth Cymru a digonolrwydd y sector gofal plant. Gellir canfod rhestr gynhwysfawr o’r gwasanaethau rydym yn eu cynnig ar ein gwefan yma.

Yn Sir y Fflint, mae’r Gwasanaeth yn gweithio’n agos gyda staff o Fwrdd Iechyd Prifysgol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a darparwyr gwasanaethau y Blynyddoedd Cynnar eraill, yn ogystal â budd-ddeiliaid. Er mwyn darparu’r gwasanaethau hyn yn effeithiol, efallai y bydd angen i ni rannu gwybodaeth bersonol amdanoch chi gyda thrydydd partïon cofrestredig. 

Mae’r Hysbysiad Preifatrwydd hwn yn amlinellu sut rydym yn casglu, defnyddio a rhannu eich data personol pan rydych yn cofrestru ar gyfer gwasanaethau a ddarperir gan y Gwasanaeth Blynyddoedd Cynnar a Theuluoedd.


Diogelu Data a’ch Hawliau

Dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gofyn i’r Gwasanaeth y Blynyddoedd Cynnar a Theuluoedd Sir y Fflint (y Gwasanaeth) eich hysbysu chi o’r data personol rydym yn ei gasglu, ei gadw a’i rannu mewn perthynas â chi a’ch teulu. Mae’r hysbysiad hwn yn ategu at hysbysiadau preifatrwydd Cyngor Sir y Fflint a’r bwrdd iechyd lleol (BIPBC), ac unrhyw hysbysiad sy’n benodol i raglen.


Categorïau Data Personol rydym yn eu Casglu

Mae’r mathau o ddata personol y gallwn gasglu a’i brosesu, yn dibynnu ar y gwasanaeth a ddarperir, yn cynnwys:

  • Gwybodaeth Bersonol: Enw, dyddiad geni (rhiant/rhieni a phlentyn, neu ddyddiad geni disgwyliedig plentyn), cyfeiriad, rhif GIG, rhyw, brodyr a chwiorydd, a manylion tebyg.
  • Manylion Cyswllt: Rhifau ffôn, cyfeiriadau e-bost.
  • Gwybodaeth Ddemograffig: Ethnigrwydd, iaith y cartref, dewisiadau iaith, cenedligrwydd.
  • Anghenion Meddygol a Chefnogaeth: Gwybodaeth am iechyd ac unrhyw anghenion cefnogaeth ychwanegol ar eich cyfer chi a’ch plentyn/plant, gan gynnwys manylion o unrhyw anableddau.
  • Gwybodaeth am Ddiogelu: Data a dderbynnir gan, ac a rannwyd gydag asiantaethau eraill mewn perthynas â diogelu.
  • Gwasanaeth a Ddefnyddir: Gwybodaeth ar wasanaethau rydych wedi eu defnyddio drwy Wasanaeth y Blynyddoedd Cynnar a Theuluoedd Sir y Fflint.

Ffynonellau o Ddata Personol

Mae eich data yn cael ei ddarparu i’r Gwasanaeth yn y ffyrdd canlynol:

  • Wedi’i gasglu’n uniongyrchol gennych chi, pan rydych chi’n cwblhau cofrestriad ar-lein ar bapur, datgan diddordeb neu ffurflen gais am gefnogaeth, neu a ddarperir gan ofalwr neu weithiwr proffesiynol i’w cwblhau ar eich rhan. 
  • Wedi’i gasglu’n uniongyrchol gennych chi, yn ystod apwyntiadau cyn geni neu gydag ymwelydd iechyd.
  • Gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr fel rhan o’n partneriaeth ar gyfer cefnogaeth barhaus i deuluoedd.
  • Gan awdurdod lleol arall er mwyn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau e.e. y cynnig gofal plant 3-4 oed. 

Pwrpas Prosesu Data

Mae’n rhaid i ni brosesu eich data gan gydymffurfio gyda Deddf Diogelu Data y DU 2018 a GDPR y DU, sy’n nodi fod angen i ni gael sail gyfreithiol eglur ar gyfer prosesu eich data. Mae prosesu eich data yn disgyn dan seiliau cyfreithiol Buddiant Dilys a Thasg Gyhoeddus.  Yn ychwanegol at hynny, mae gennym ofyniad cyfreithiol i ddarparu gwybodaeth sy’n berthnasol i raglen ar gyfer Llywodraeth Cymru fel noddwyr rhaglen, gan fod hyn yn angenrheidiol at ddibenion cydymffurfio gyda meini prawf ariannu a osodwyd gan Lywodraeth Cymru. Bydd eich data’n cyfrannu at waith ymchwil a dadansoddiad sy’n nodi penderfyniadau polisi lleol, rhanbarthol a chenedlaethol er budd y cyhoedd.

Bydd eich gwybodaeth yn cael ei chadw mewn cronfeydd data diogel perthnasol, ac yn cael ei defnyddio i gynnig gwasanaethau perthnasol ar gyfer y rhiant a’r plentyn/plant, ar oedran / cyfnod perthnasol eu bywyd. Gall y gwasanaeth a gynhigir gynnwys darpariaeth gwybodaeth ac atgyfeiriad i wasanaethau eraill, gwasanaethau iechyd gan gynnwys ymweliad iechyd, gwybodaeth am fagu plant, cyngor a chefnogaeth gan gynnwys rhaglenni, cefnogaeth i deuluoedd yn y cartref, cefnogaeth iaith a lleferydd, cefnogaeth gyda datblygiad plentyn a gofal plant a ariennir, yn dibynnu ar y plentyn a’r meini prawf ariannu.

Unwaith mae eich plentyn yn rhan o Wasanaeth y Blynyddoedd Cynnar a Theuluoedd Sir y Fflint, bydd gwybodaeth angenrheidiol ar gyfer gweinyddu’r gwasanaeth/rhaglen yn cael ei chasglu, megis data am bresenoldeb, trefniadau gofal plant, unrhyw ymyraethau, asesiadau ac adroddiadau mewn perthynas â’r plentyn a’r teulu.

Bydd gwybodaeth berthnasol yn cael ei rhannu rhwng partneriaid darparwyr gwasanaeth/rhaglen, pan fo’n angenrheidiol darparu cefnogaeth i’r plentyn a’r teulu. Mae’r rhain yn cynnwys BIPBC, Cyngor Sir y Fflint, lleoliadau gofal plant, sefydliadau perthnasol sydd wedi’u contractio gan CSFf, ac ysgolion perthnasol. Gall hyn gynnwys cyfarfodydd Beth sy’n Bwysig, cyfarfodydd Panel e.e. Panel Dirprwyo Cyllid y Blynyddoedd Cynnar, a Chyfarfodydd Panel Safoni Cyn Ysgol, a chyfarfodydd Pontio Gofal Plant, lle estynnir gwahoddiad i weithwyr proffesiynol ehangach sy’n berthnasol i’r teulu.

Os credir, ar unrhyw gam o’r broses honno, bod plentyn neu oedolyn mewn perygl, bydd Gweithdrefnau Diogelu Cymru’n cael eu dilyn, a all arwain at ymchwiliad ac asesiad ffurfiol. Gall hyn gynnwys sawl asiantaeth megis yr heddlu, iechyd neu addysg yn cael mynediad i’ch gwybodaeth. 


Sut Rydym Ni’n Defnyddio Eich Data

Defnyddir y data a gasglwn at y dibenion canlynol:

  • I Gysylltu â Chi: I’ch hysbysu am wasanaethau a ddarperir gan Wasanaeth y Blynyddoedd Cynnar a Theuluoedd.
  • I Gynnig Cefnogaeth Briodol: Rydym yn rhannu gwybodaeth ysgrifenedig ac ar lafar gyda staff iechyd BIPBC, gwasanaethau dan gontract a darparwyr gofal plant i ddarparu gwasanaethau sydd eu hangen arnoch chi a’ch plentyn/plant. 
  • Gweinyddu: anfon gwahoddiadau gwasanaethau allan ar yr oedran / cam perthnasol
  • Gwella Gwasanaeth: Asesu a gwella ansawdd y gwasanaethau a ddarperir gennym.
  • Monitro Datblygiad: Olrhain a chefnogi datblygiad eich plentyn.
  • Atgyfeiriadau at Wasanaethau Eraill: Eich cyfeirio chi a’ch plentyn/plant at wasanaethau neu sefydliadau perthnasol eraill. Byddwn yn gofyn am eich caniatâd ar gyfer atgyfeiriadau ac eithrio bod gofyn cyfreithiol i ni weithredu fel arall i’ch diogelu chi neu eich plentyn/plant.
  • Trefniadau Gofal Plant: Cynorthwyo wrth drefnu gofal plant gyda lleoliadau cofrestredig.

Pwy fydd yn cael mynediad at eich gwybodaeth?

Prif ddefnyddiwr eich gwybodaeth yw Gwasanaeth y Blynyddoedd Cynnar a Theuluoedd Sir y Fflint Serch hynny, oherwydd natur y gwasanaeth/rhaglen, gall eich gwybodaeth gael ei rhannu gyda meysydd gwasanaeth eraill yng Nghyngor Sir y Fflint a sefydliadau partner eraill er mwyn diwallu anghenion eich teulu heb orfod ailadrodd eich hanes neu ddarparu manylion i wahanol weithwyr proffesiynol, a all gynnwys:

  • Lleoliadau gofal plant i estyn gwahoddiad i deuluoedd i gofrestru ar gyfer gofal plant, yn dibynnu ar yr angen
  • Y tîm Iaith a Lleferydd er mwyn cefnogi ymyraethau iaith a lleferydd yn y cartref, grŵp, lleoliad gofal plant neu ysgol
  • Y tîm Cefnogi’r Teulu er mwyn cynnig cefnogaeth grŵp neu yn y cartref
  • Y tîm Datblygiad y Plentyn er mwyn cynnig cefnogaeth grŵp neu yn y cartref

Mae’r holl wybodaeth a dderbynnir yn cael ei mewnbynnu ar y system berthnasol, a gall hyn gynnwys: cronfa ddata’r Gwasanaeth; cronfa ddata Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Sir y Fflint a chronfeydd data eraill a ddefnyddir gan y Gwasanaeth, ac a gofnodwyd fel ased gwybodaeth, ynghyd â’i ddiben cyfreithiol, a bydd yn cael ei rannu fel y bo’n berthnasol gyda thimau eraill yn y maes Addysg gan gynnwys Hawl Bore Oes, Derbyniadau i Ysgolion, y Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol, Seicolegydd Addysg, er mwyn cefnogi cyfnod pontio plentyn i Addysg Gynnar / yr ysgol gynradd.


Manylion o unrhyw weithgareddau rhannu eich gwybodaeth gyda sefydliadau eraill

Efallai bydd manylion am blentyn unigol a gwybodaeth am y teulu yn cael eu rhannu gyda phartneriaid darparu er mwyn sicrhau bod teuluoedd yn cael cynnig Gwasanaethau'r Blynyddoedd Cynnar perthnasol, gan gynnwys:

  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ar gyfer gwasanaethau megis bydwreigiaeth, y tîm o ymwelwyr iechyd, therapi iaith a lleferydd, Tîm y Blynyddoedd Cynnar, a thimau eraill i gefnogi negeseuon iechyd y cyhoedd ac ymyraethau.
  • Lleoliadau gofal plant ac addysg ar gyfer darparu gwasanaethau gofal plant
  • Ysgolion, er mwyn cefnogi’r cyfnod pontio rhwng y feithrinfa a/neu’r ysgol
  • Llywodraeth Cymru, er mwyn cydymffurfio gyda meini prawf ariannu (fel y disgrifiwyd uchod)
  • Cyrff rheoleiddio, h.y. Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC)
  • Gwasanaethau Cludiant

Os ydych chi, neu eich plentyn yn derbyn gwasanaethau neu raglen Dechrau’n Deg, o 1 Ebrill 2025, bydd ychydig o’r wybodaeth sydd gennym amdanoch yn cael ei rhannu gyda’r corff ariannu, Llywodraeth Cymru / Banc Data SAIL (sy’n gweithio ar ran Llywodraeth Cymru) ar gyfer cynnal gwaith ymchwil, gwerthusiad, a dadansoddiad ystadegol er mwyn gwella cefnogaeth Dechrau’n Deg a ddarperir i bobl Cymru. Os hoffech chi ragor o wybodaeth ar beth sy’n digwydd gyda’r wybodaeth a throsglwyddir i Lywodraeth Cymru, gweler eu Hysbysiad Preifatrwydd, sydd ar gael yma Hysbysiad Preifatrwydd Llywodraeth Cymru.


Sail Gyfreithiol ar Gyfer Prosesu Data

Mae prosesu eich data’n angenrheidiol o ran perfformio contract gyda chi, darpariaeth gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth Gwasanaeth y Blynyddoedd Cynnar a Theuluoedd yn bennaf, sydd angen eich gwybodaeth bersonol. 

Yn ychwanegol at hynny, mae rhwymedigaeth tasg gyhoeddus i brosesu eich gwybodaeth yn unol â’r isod:

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, sy’n nodi saith nod lles i ddangos y math o Gymru yr hoffem ei gweld ac mae’n rhoi dyletswydd gyfreithiol ar awdurdodau cyhoeddus i weithio tuag at gyflawni’r nodau hyn, sy’n cynnwys:

  • Cymru lewyrchus
  • Cymru iachach
  • Cymru sy’n fwy cyfartal

Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, sy’n rhoi dyletswydd lles ar y sawl sy’n destun i’r Ddeddf er mwyn hybu lles -

  • a) y bobl sydd angen gofal, a
  • b) gofalwyr sydd angen cymorth

Er mwyn i’r gweithgareddau prosesu data personol fod yn gyfreithiol dan Reoliadau Diogelu Data Cyffredinol 2016, mae’n rhaid i amod dilys o Erthygl 6 y Rheoliadau gael ei nodi, sy’n cael ei amlinellu isod:

  • 1 (e) mae prosesu yn angenrheidiol ar gyfer cynnal tasg a ymgymerwyd er budd y cyhoedd neu wrth ymarfer awdurdod swyddogol a roddwyd i’r rheolydd;

Mae deddfwriaeth Diogelu Data’n darparu diogelwch ychwanegol ar gyfer dosbarthiadau penodol o wybodaeth, a elwir yn ‘ddata personol categori arbennig’. Os yw unrhyw wybodaeth yn disgyn o fewn diffiniad data personol categori arbennig, yna bydd rhaid nodi amod ychwanegol o Erthygl 9 y Rheoliadau, fel yr amlinellir isod:

  • 2 (g) mae prosesu yn angenrheidiol am resymau sylweddol yn ymwneud â lles y cyhoedd, ar sail cyfraith ddomestig a fydd yn gymesur â’r amcan a geisir, bydd yn parchu hanfod yr hawl i ddiogelu data a darparu mesurau addas a phenodol i ddiogelu'r hawliau sylfaenol a budd testun y data;

Gan ein bod yn dibynnu ar yr amod buddiant cyhoeddus sylweddol yn Erthygl 9(2)(g), mae’n rhaid i ni nodi un o’r 23 amod buddiant cyhoeddus sylweddol penodol fel y nodir yn Rhan 2 Atodlen 1 Deddf Diogelu Data 2018, fel yr amlinellir isod:

  • 6 (1) Mae’n rhaid bodloni’r amod hwn os yw’r prosesu’n —
    • (a) angenrheidiol at y dibenion a restrwyd yn is-baragraff (2), ac yn
    • (b) angenrheidiol am resymau o fudd cyhoeddus sylweddol.
  •  (2) Y dibenion hynny yw —
    • (a) arfer swyddogaeth a roddwyd ar unigolyn drwy ddeddfiad neu reol gyfreithiol;
    • (b) arfer swyddogaeth y Goron, Gweinidog y Goron neu adran yn y llywodraeth

Sail gyfreithiol ar gyfer lluniau a fideos

Os ydym ni’n gofyn i ddefnyddio lluniau neu fideos o’ch plentyn mewn deunydd hyrwyddo, byddwn yn gofyn am eich caniatâd i wneud hynny, ac at y dibenion hynny, rydym yn dibynnu ar sail gyfreithiol ‘Caniatâd’ ar gyfer gweithgareddau prosesu o Erthygl 6 y Rheoliadau fel yr isod:

  • 1 (a) os yw gwrthrych y data wedi rhoi caniatâd i’r data personol gael ei brosesu am un neu fwy o bwrpasau penodol;

Pa mor hir fyddwn ni’n cadw eich gwybodaeth (Cyfnod Cadw)?

Mae gofyn i Gyngor Sir y Fflint gadw eich data personol am hyd at 10 mlynedd yn dilyn cwblhau gwasanaethau at ddibenion ariannu, cyfreithiol, archwilio a chydymffurfiaeth.


Eich Hawliau

Mae hawl gennych i:

  • gael gweld copi o’r data personol yr ydym yn ei gadw amdanoch chi.
  • wneud cais i gywiro neu ddiweddaru eich data personol.
  • wneud cais i ddileu neu gyfyngu ar eich data (mewn amgylchiadau penodol).
  • wrthwynebu i’ch data gael ei brosesu (mewn amgylchiadau penodol).

I gael rhagor o wybodaeth am eich hawliau a sut mae Cyngor Sir y Fflint yn prosesu eich data personol, ewch i’n gwefan.


Gweithdrefn Gwyno

Os ydych chi’n anhapus gyda’r ffordd mae Gwasanaethau’r Blynyddoedd Cynnar a Theuluoedd yn prosesu eich data, neu wedi trin eich cais / gwybodaeth, mae gennych hawl i gwyno. Cysylltwch â Thîm Gwybodaeth Busnes y Blynyddoedd Cynnar yn gyntaf ar eyfsbusinessintel@flintshire.gov.uk

Os nad ydych yn fodlon gyda sut rydym wedi trin eich cwyn neu wedi prosesu eich data personol, gallwch gwyno i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth drwy ymweld â’u gwefan neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0303 123 1113.


Gwybodaeth Ychwanegol

Dylid darllen yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn ar y cyd gyda hysbysiadau preifatrwydd Cyngor Sir y Fflint, BIPBC, a Llywodraeth Cymru. Gweler dolenni i’r hysbysiadau hyn isod, at eich gwybodaeth. Os nad oes modd i chi ddefnyddio’r rhyngrwyd, gofynnwch i aelod o dîm Gwasanaethau’r Blynyddoedd Cynnar a Theuluoedd Sir y Fflint am gopi caled.