Alert Section

Bywyd Teuluol a Bod yn Rhiant

Mae arddulliau a sgiliau magu plant yn rhoi’r cyfle gorau i’n plant mewn bywyd, a’u helpu i fod yn fwy gwydn ac ymdopi â phwysau a heriau bywyd mewn modd cadarnhaol. Drwy ddulliau magu plant da, gallwn helpu ein plant i ddatblygu eu sgiliau, ond sut?  Gallwch ddod o hyd i lawer o wybodaeth ar y dudalen hon, o wybodaeth am gyrsiau ar-lein a gweithgareddau cymunedol, i wirfoddoli a helpu rhieni eraill.  

Bywyd Teuluol a Bod yn Rhiant

Magu Plant. Rhowch amser iddo.

Magu Plant. Menter Llywodraeth Cymru sy’n darparu cyngor ymarferol ac arbenigol rhad ac am ddim ar gyfer unrhyw heriau mewn perthynas â magu plant yw Rhowch amser iddo.

Magu Plant. Rhowch amser iddo.

Parenting. Give it time. Welsh

Pob Plentyn Cymru

‘Mae gan bob plentyn yng Nghymru’r hawl i’r dechrau gorau posibl mewn bywyd ac i gefnogi hyn, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi lansio Pob Plentyn Cymru.

Mae’r wefan hon yn llawn syniadau i sicrhau bywyd iach a hapus i’ch plentyn.'

Pob Plentyn Cymru

Siarad gyda Fi

Mae ‘Siarad gyda fi’, ymgyrch diweddaraf Llywodraeth Cymru, wedi’i ddylunio i gefnogi rhieni gydag awgrymiadau, cyngor ac adnoddau defnyddiol i gael eu plant (rhwng 0-5 oed) i siarad. 

Siarad gyda Fi

Talk with me

Hwb Dechrau Gorau - Cyn Cenhedlu, Beichiogrwydd, Blynyddoedd Cynnar a Theulu

Mae’r Hwb Dechrau Gorau yn rhoi gwybodaeth, cyngor a chymorth defnyddiol i chi a’ch teulu – o gynllunio eich beichiogrwydd hyd at flynyddoedd cynnar eich babi a’r tu hwnt.

Hwb Dechrau Gorau

Cyrsiau a grwpiau i rieni

Gweler isod restr o gyrsiau a grwpiau sydd ar gael gan Dîm Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant Sir y Fflint. 

Gweler isod restr o gyrsiau a grwpiau sydd ar gael gan Dîm Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant Sir y Fflint

Gallwch fynegi diddordeb yn y cyrsiau hyn isod.  Hyn a hyn o lefydd sydd ar gael, felly nid oes modd gwarantu lle i chi. 

Cofrestru eich diddordeb

Grymuso Rhieni Grymuso Cymunedau (EPEC)

Mae Grymuso Rhieni Grymuso Cymunedau (EPEC) yn brosiect cymunedol sy’n darparu grwpiau magu plant dan arweiniad rhieni lleol, a elwir yn Arweinwyr Grwpiau Rhieni. Mae’r rhieni sy’n arwain y grwpiau hyn wedi cymryd rhan mewn grŵp EPEC neu grŵp magu plant arall eu hunain ac wedi cwblhau’r hyfforddiant Arweinydd Grwpiau Rhieni EPEC.

Mae grwpiau EPEC yn cynnwys sgiliau ymchwil ac ymarferol i helpu teuluoedd a’u plant.  Drwy ein grwpiau, mae rhieni’n dysgu ystod o sgiliau magu plant cadarnhaol, derbyn cefnogaeth i ddeall teimladau plant, dysgu am gyfathrebu rhwng rhieni a phlant a meithrin perthnasoedd gwell a mwy cadarn o fewn y teulu. 

Grymuso Rhieni Grymuso Cymunedau

Grymuso Rhieni Grymuso Cymunedau

Rhaglenni Dull Solihull

  • Cyrsiau ar-lein i rieni a darpar rieni
  • Am ddim i rieni, neiniau a theidiau a gofalwyr yng Ngogledd Cymru - nodwch y cod NWSOL am ostyngiad o 100%!
  • Cyn geni i 19 oed, mynediad oes
  • Ymwelwch â gwefan inourplace
  • Llenwch y manylion i greu cyfrif.

Dull Solihull

Solihull Programmes cy

OnePlusOne

Gall rhaglenni OnePlusOne eich helpu gyda chyngor a chefnogaeth i gryfhau eich perthnasoedd a rheoli achosion o wrthdaro’n well

OnePlusOne

Hyfforddiant tŷ bach