Alert Section

Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu

Mae’r blynyddoedd cynnar mewn bywyd, yn cynnwys beichiogrwydd a genedigaeth, yn gyfnod arwyddocaol yn nhwf unigolyn. Mae’r hyn sy’n digwydd yn y blynyddoedd cynnar yn cael effaith fawr ar eich plentyn. Twf allweddol yw iaith gynnar, sy’n helpu plant i reoli emosiynau a chyfathrebu teimladau, meithrin a chynnal perthnasoedd, a dysgu darllen ac ysgrifennu. Gall 8–10% o blant gael anawsterau gydag iaith gynnar, ac efallai na fydd pob rhiant yn gwybod sut i gefnogi eu plentyn orau. Mae’r wybodaeth yma wedi helpu llawer o rieni – gobeithio y bydd yn ddefnyddiol i chi.

Gemau i Annog Cyfathrebu Cynnar

Dyma ambell gêm hwyliog i annog cyfathrebu cynnar.

'Beth sydd yn y sach?'

Mae defnyddio sach deimlo’n ffordd wych o annog rhoi sylw i rywbeth. Defnyddiwch gas gobennydd neu sach a’i llenwi gyda theganau ac eitemau a gweld beth maent yn ei dynnu allan. Siaradwch am yr hyn welwch chi.

Canu rhigymau

Mae caneuon symudiadau syml yn ffordd wych o ennyn sylw eich plentyn e.e. ‘Olwynion ar y Bws’, ‘Clap, Clap, 1, 2, 3’, ‘Adeiladu Tŷ Bach’.

Gemau ‘ar eich marciau, barod, ewch’

Anogwch eich plentyn i aros nes i chi ddweud “ewch” cyn bob tro a chynyddwch yr amser mae’n rhaid i’r plentyn aros cyn dweud “ewch”. Defnyddiwch swigod, rowlio car/pêl rhyngoch chi neu adeiladu tŵr/pentyrru cwpanau a’u cnocio i lawr.

Rhannu llyfrau difyr

Rhannwch lyfrau difyr gyda’ch plentyn e.e. llyfrau gyda llabedi, pethau mae ganddynt ddiddordeb ynddynt, albymau lluniau’r teulu. Dangoswch i’r plentyn bod gennych chi ddiddordeb hefyd a siaradwch am beth welwch chi yn y lluniau. Rhowch amser i’ch plentyn gymryd rhan a mwynhau’r llyfr gyda chi – peidiwch â phoeni am ddarllen y geiriau.

Gweithgareddau cerddorol

Mae gweithgareddau cerddorol yn ffordd hwyliog o annog gwrando. Defnyddiwch offeryn cerdd e.e. drwm, tambwrîn, ac ati, gan annog y plentyn i symud a dawnsio. Gofynnwch i’r plentyn aros yn llonydd fel delw neu eistedd i lawr pan fyddwch chi’n stopio chwarae.

Rhoi cyfleoedd i wrando

Rhowch gyfleoedd i’ch plentyn wrando e.e. ewch ar daith gerdded wrando gyda’ch gilydd a gweld faint o synau all eich plentyn eu clywed e.e. ci’n cyfarth, adar yn trydar neu geir yn gyrru heibio.

BookTrust Cymru

BookTrust Cymru Logo

Gweld tudalen hafan BookTrust Cymru.

Cymerwch olwg ar y wybodaeth a’r adnoddau sydd gan BookTrust Cymru:

Dechrau Da yng Nghymru

Mae gan bob blentyn yng Nghymru hawl i ddau becyn Dechrau Da arbennig cyn maent yn 3 oed.

Mae mwy o wybodaeth a gweithgareddau, rhigymau a storïau Dechrau Da hwyliog i’w gweld yma.

Amser Gartref BookTrust Cymru

Yn cynnwys straeon i’w mwynhau, rhigymau a chaneuon i’w rhannu, a gemau a gweithgareddau llawn hwyl gan awduron, darlunwyr a storïwyr gwych o Gymru.

Amser Rhigwm Mawr Cymru

Amser Rhigwm Mawr Cymru yw ein dathliad blynyddol o rannu rhigymau, cerddi a chaneuon.

Mae’n hwyl llawn odlau i bawb, gyda llawer o fideos hwyliog ac unigryw o rigymau a chaneuon na welwch chi’n unman arall.

Fideos llawn gwybodaeth gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Cymerwch olwg ar y fideos yma sydd wedi’u creu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy am lythrennedd, lleferydd, iaith a chyfathrebu plant.

Cyfathrebu Cynnar

Defnyddio Dymi