Alert Section

Ymgynghoriad Strategaeth Cynnwys Cwsmeriaid


Ydych chi’n byw yn un o gartrefi Cyngor Sir y Fflint?  

Ydych chi’n denant i’r Cyngor (hefyd yn cael ei alw’n Ddeiliad Contract)?

Os felly, darllenwch ymlaen gan yr hoffem ni glywed gennych chi.

Mae gwrando ar ein cwsmeriaid a rhoi cyfle iddynt gymryd rhan yn elfen hanfodol o wella ein gwasanaethau. Rydym eisiau i chi ddweud wrthym sut hoffech chi gael gwybodaeth a chael eich cynnwys.

Rydym ni wrthi’n datblygu ein Strategaeth Gyfranogi ar hyn o bryd. Bydd hon yn nodi pa gyfleoedd fydd ar gael i denantiaid gyfranogi a chyfrannu yn eu Gwasanaeth Tai nhw, a chael dweud eu dweud am yr hyn sy’n bwysig iddynt.

Rydym wedi gosod ein nodau a’n hamcanion drafft o beth yr hoffem ei wneud a sut rydym eisiau cyflawni hyn, gan weithio gyda’n tenantiaid ar hyd y ffordd. Er mwyn datblygu hyn i gyd ymhellach hoffem gael eich barn.  

Beth yw eich barn am ein nodau a’n hamcanion allweddol?

Beth ydych yn credu y dylem gynnwys tenantiaid ynddo a sut ydych yn meddwl y dylem wneud hyn?

Helpwch ni trwy gymryd ychydig o funudau i ateb ychydig o gwestiynau yn ein harolwg byr (dolen isod).

Byddwn yn cymryd ystyriaeth o’r holl sylwadau a safbwyntiau wrth ddatblygu ein Strategaeth a’n Cynllun Gweithredu terfynol a fydd yn cael eu cyhoeddi yma ar ein gwefan dros y misoedd i ddod.

Ar ddiwedd yr arolwg, bydd cyfle i chi gymryd rhan mewn arolygon yn y dyfodol i helpu i wella gwasanaethau’r Cyngor, rydym bob amser yn edrych am bobl sydd eisiau rhannu eu hadborth gyda ni.

Y dyddiad cau ar gyfer yr arolwg hwn oedd Dydd Mawrth 30ain Ebrill 2024.

Cwblhewch yr arolwg