uPVC

Yn sgil y tymheredd uchel yr wythnos hon, fe fydd tenantiaid yn cael problemau yn cau ffenestri a drysau UPVC.
Ar dymheredd o 40c, gall fframiau ehangu hyd at 2.4cm. Mae hyn yn elfen cwbl naturiol o’r deunydd ac nid oes angen poeni amdano, ond bydd yn achosi problemau ac anawsterau dros dro tra’n agor a chau ffenestri a drysau. Pan fydd y tymheredd yn gostwng, fe fydd yr UPVC yn dychwelyd i’w ffurf wreiddiol.
Wedi dweud hynny, os ydych chi’n cael problemau, gallwch hefyd oeri’r drysau/ffenestri UPVC drwy chwistrellu’r tu allan gyda dŵr, neu ddefnyddio cadach oer a thamp arno. Fe fydd hyn yn helpu’r deunydd i fynd yn ôl i lawr i’w faint fel ei fod o fewn ei baramedrau gweithio arferol unwaith eto.