Alert Section

Bywyd yn Sir y Fflint

Y 'porth' i ogledd Cymru

Mae Sir y Fflint mewn lleoliad dethol, ac mae’n cynnig rhywbeth at ddant pawb.

Mae cysylltiadau ffyrdd a rheilffyrdd gwych yn golygu mynediad hawdd i Gymru a gweddill y DU.

Mae ansawdd bywyd da yn Sir y Fflint oherwydd prisiau eiddo cystadleuol, cyfleusterau hamdden ac addysg o’r radd flaenaf, ynghyd â chefn gwlad hygyrch a llwybrau cerdded arfordirol.

Mae canol trefi Sir y Fflint yn cynnwys masnachwyr annibynnol a siopau’r stryd fawr, yn ogystal â marchnadoedd stryd bywiog a gwyliau arbenigol.

Mae cefn gwlad Sir y Fflint yn dirlun o amrywiaeth anhygoel, gyda digon i’w ddarganfod.

• Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy
• Traeth arbennig Talacre, sydd wedi ennill gwobrau
• Henebion a chestyll
• Glannau afonydd tawel, coetiroedd hynafol, dyffrynnoedd coediog a thir fferm tonnog
• Arfordir sy’n gyfoeth o fywyd gwyllt, Afon Dyfrdwy a’i haber
• Mae dinas hanesyddol Caer Pharc Cenedlaethol Eryri hefyd o fewn tafliad carreg

Darganfyddwch fwy am Sir y Fflint ac ardal Gogledd Ddwyrain Cymru drwy ymweld â:  
www.cometo.wales neu 
www.northeastwales.wales

Flintshire F logo

Amdanom Ni

Mae Sir y Fflint,  fel yr awdurdod lleol mwyaf yng Ngogledd Cymru, yn Gyngor sy’n perfformio’n dda gydag enw da am arloesi mewn ystod eang o wasanaethau cyhoeddus. 

Rydym yn falch o’n gallu i amddiffyn a gwerthfawrogi gwasanaethau yn y gymuned ac wedi parhau i wneud hyn yn ystod cyfnod o galedi parhaus. 

Rydym ni’n flaengar, yn gadarnhaol ynghylch potensial, wedi datblygu ein harbenigedd yn barhaus ac wedi ymddwyn gydag angerdd a gwytnwch i gyflawni ein llwyddiant.

Darganfod mwy 
Marleyfield in construction 540 x 294
Talacre Beach Sculpture 540 x 294

Ynglŷn â'r Rôl

Mae Sir y Fflint yn gyngor unedol arweiniol yng Nghymru. Mae gennym enw da rhagorol ym meysydd tai cymdeithasol, datblygu cymunedol a lles.

Mae gennym gyfle cyffrous i arwain a datblygu ein portffolio Lle a Thwf a’i wasanaethau gyda deiliad presennol y swydd yn ymddeol..

Darganfod mwy 
Welsh Dragon