Alert Section

Ynglŷn â'r Rôl

Prif Swyddog, Lle a Thwf 

Cyngor Sir y Fflint

Mae Sir y Fflint yn gyngor unedol blaenllaw yng Nghymru a'r mwyaf yng Ngogledd Cymru.  Rydym yn Gyngor blaengar sydd wedi ymrwymo i adfywio cynaliadwy, a thwf economaidd.

Mae gennym gyfle gwych i ddylanwadu ar yr amgylchedd adeiledig a naturiol, cefnogi cymunedau a busnesau i ffynnu a sicrhau bod Sir y Fflint yn parhau i fod yn lleoliad gwych i fyw a gweithio ynddo.  

Gydag ymddeoliad deiliad presennol y swydd yn fuan, rydym yn chwilio am arweinydd strategol gyda sgiliau pobl rhagorol a hanes o arwain newid diwylliannol, rheolaeth ariannol gadarn a sicrhau llywodraethu effeithiol.   Fe fyddwch yn gyfathrebwr effeithiol gyda phrofiad o waith cydweithredol a phartneriaeth, o fewn sefydliad mawr a chymhleth. 

Yn rhan o uwch dîm agos ac effeithiol, fe fyddwch yn helpu i ddatblygu ffocws corfforaethol cryf a diwylliant corfforaethol  cydlynol ar draws yr awdurdod.  Yn gyfrifol am yrru cynllunio, adfywio, twf economaidd a chynaliadwyedd.

Os ydych chi’n arweinydd cryf, gweladwy ac ysbrydoledig sydd ag angerdd dros ddarparu gwasanaethau i gefnogi pobl yn Sir y Fflint, fe garem ni glywed gennych chi.

Dyddiad cau: 26 Mai 2025

Cyflog: £96,665 i £108,642

Am sgwrs anffurfiol cysylltwch â Sharon Carney ar 01792 002129

I weld y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person cliciwch yma

I weld telerau ac amodau'r swydd cliciwch yma

Ymgeisiwch

Sut i Ymgeisio

1. Ceisiadau
Gofynnir i ymgeiswyr gwblhau ffurflen gais safonol y Cyngor. Gellir defnyddio taflenni ychwanegol o ran manylion eich profiad gwaith. Ni dderbynnir CVs.


2. Geirdaon
Rhaid i’r geirdaon sydd ar eich ffurflen gais fod ar gael i gysylltu cyn y cyfweliad terfynol. Dylai geirdaon hefyd allu gwneud sylwadau o brofiad uniongyrchol o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd hon ac wedi gweithio gyda chi yn ystod y tair mlynedd diwethaf o’ch cyflogaeth. 


3. Dyddiad Cau
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 17:00 26 Mai 2025.


4. Amserlen
Llunnir y rhestr fer 27 Mai 2025, a chaiff yr ymgeiswyr eu hysbysu o'r penderfyniad erbyn 4pm 27 Mai 2025. Bydd cam cyntaf y cyfweliadau yn cael eu cynnal 30 Mai 2025.  Mae'r cam olaf yn cynnwys Cyfweliad Aelodau Panel (ac asesiad) a chaiff ei gynnal 16 Mehefin 2025


5. Y Broses Ddethol
Bydd y broses ddethol fel a ganlyn:
(a) Bydd eich ffurflen gais wedi'i gwblhau yn cael ei ystyried gan y Prif Weithredwr a'r Rheolwr Corfforaethol, Pobl a Datblygu Cyfundrefnol, a fydd yn paratoi rhestr fer o’r ymgeiswyr ar gyfer cam cyntaf y cyfweliad.  Mae’n bwysig bod eich cais yn mynd i’r afael yn llawn â’r gofynion yn y Manylion am yr Unigolyn gan y bydd y rhestr fer yn seiliedig ar y meini prawf.
(b) Bydd yr ymgeiswyr sydd ar y rhestr fer yn cael eu gwahodd i fynychu cam cyntaf y cyfweliad gyda’r Prif Weithredwr a’r Rheolwr Corfforaethol, Pobl a Datblygu Cyfundrefnol. Bydd y cyfweliad hwn yn cael eu gynnal dros y we.
(c) Yn dilyn cam cyntaf y cyfweliad, bydd y Prif Weithredwr a’r Rheolwr Corfforaethol, Pobl a Datblygu Cyfundrefnol yn gwneud argymhellion o ran pa ymgeiswyr a ddylai barhau i’r camau terfynol gyda Phanel o Aelodau Etholedig.  Bydd yr aelodau yn penderfynu, pa ymgeiswyr, os oes rhai, i barhau i'r cam terfynol.
(d) Bydd cam terfynol y cyfweliad gyda'r Panel Aelodau yn cael ei gynnal 16 Mehefin 2025. Bydd angen i'r ymgeiswyr a ddewisir ar gyfer y cam terfynol, baratoi a chyflwyno cyflwyniad 10 munud ar ddechrau'r cyfweliad. Bydd rhagor o fanylion yn cael eu darparu cyn yr Asesiad Terfynol.


Os hoffech drafod unrhyw agwedd ar eich cais neu os oes gennych ymholiadau nad ydynt yn cael sylw yn y wybodaeth ar y wefan hon, cysylltwch â'n Tîm Ymateb Uwch Reolwyr ar 01792 002129.

Flintshire F logo

Amdanon Ni

Mae Sir y Fflint,  fel yr awdurdod lleol mwyaf yng Ngogledd Cymru, yn Gyngor sy’n perfformio’n dda gydag enw da am arloesi mewn ystod eang o wasanaethau cyhoeddus.

Rydym yn falch o’n gallu i amddiffyn a gwerthfawrogi gwasanaethau yn y gymuned ac wedi parhau i wneud hyn yn ystod cyfnod o galedi parhaus.

Rydym ni’n flaengar, yn gadarnhaol ynghylch potensial, wedi datblygu ein harbenigedd yn barhaus ac wedi ymddwyn gydag angerdd a gwytnwch i gyflawni ein llwyddiant.

Darganfod mwy 
Marleyfield in construction 540 x 294
Welsh Dragon

Bywyd yn Sir y Fflint

Y 'porth' i Ogledd Cymru.

Mewn lleoliad delfrydol, mae gan Sir y Fflint rhywbeth i’w gynnig i bawb.

Darganfod mwy 
Beach 540 x 294