Alert Section

Gwasanaeth Olrhain Cysylltiadau Gogledd Cymru


 

North Wales Contact Tracing Service (TTP) logo

Ymgeisio yma

Ymunwch â’r rheng flaen rithwir fel rhan o Wasanaeth Olrhain Cysylltiadau Gogledd Cymru

Mae Cyngor Sir y Fflint, fel y cyflogwr arweiniol ar gyfer Gwasanaeth newydd Olrhain Cysylltiadau Gogledd Cymru, ar hyn o bryd yn recriwtio timau olrhain i gael eu halinio â bob un o chwe chyngor Gogledd Cymru. 

Ynglŷn â Phrofi, Olrhain, Diogelu 

Mae olrhain cyswllt yn ddull profedig o reoli afiechydon heintus rhag lledaenu. 

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno Profi, Olrhain, Diogelu.  Caiff ei weithredu gan Iechyd Cyhoeddus Cymru mewn partneriaeth â Byrddau Iechyd a Chynghorau lleol ar draws Cymru, gyda’i nod o gyfyngu ar ledaeniad yr haint, olrhain y feirws a diogelu ein cymunedau. 

Mae’n gweithio drwy:

  • Brofi pobl sydd â symptomau, tra byddan nhw, a’u haelwydydd, yn hunan-ynysu
  • Olrhain pobl sydd wedi bod mewn cysylltiad agos â rhywun sydd wedi cael canlyniad positif, a gofyn iddynt hunan-ynysu
  • Diogelu’r gymuned drwy leihau lledaeniad COVID-19, yn enwedig y rhai mwyaf diamddiffyn
  • Caniatáu pobl (a’u haelwydydd) sy’n cael canlyniad negyddol ac â symptomau nad ydynt o ganlyniad i’r coronafeirws, i ddychwelyd i’w trefnau arferol 

Am fwy o wybodaeth am Brofi, Olrhain, Diogelu, ewch i https://llyw.cymru/olrhain-cysylltiadau-eich-cwestiynau

Beth yw Gwasanaeth Olrhain Gogledd Cymru?

Mae pob cyngor Gogledd Cymru’n gweithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i ddarparu gwasanaeth olrhain cyswllt ar draws Gogledd Cymru.

Bydd timau olrhain cyswllt, a gyflogir gan Gyngor Sir y Fflint, yn cael eu halinio â bob un o chwe chyngor Gogledd Cymru.  Er bydd timau’n gyffredinol yn cysylltu ag achosion sy’n lleol i ardal y Cyngor y cawsant eu halinio â hi, byddant hefyd yn darparu gwasanaeth ar gyfer rhanbarth Gogledd Cymru i gyd, yn ôl y gofyn, er enghraifft pan fo achosion o COVID-19, neu’r achosion hynny’n cynyddu.

Timau Olrhain Cyswllt

Rydym yn bwriadu recriwtio amrywiaeth o bobl i gyflawni rolau:

  • Olrheinwyr Cyswllt - £23,541 - £25,991
  • Ymgynghorwyr Cyswllt - £19,312 - £20,502

Fel aelod o’r tîm olrhain cyswllt, byddwch yn:

  • cynnal cyfweliad cychwynnol o achosion positif o COVID-19 a/neu gysylltiadau dros y ffôn
  • nodi a mynd ar drywydd cysylltiadau a darparu cyngor iechyd cyhoeddus (lle bo’n briodol)
  • sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei chofnodi’n brydlon ac yn gywir o’r cyfweliadau hynny, drwy ddefnyddio’r systemau a ddarperir

 Hoffem glywed gennych os ydych yn:

  • frwdfrydig, yn gadarnhaol a gyda dull agos-atoch
  • brwdfrydig dros ragori ar ddisgwyliadau cwsmeriaid a darparu profiad cwsmeriaid eithriadol
  • cyfathrebwr gwych, yn ysgrifenedig ac ar lafar
  • gallu gwneud sawl peth ar yr un pryd, blaenoriaethu a rheoli amser yn effeithiol
  • hyfedr wrth ddefnyddio Microsoft Office, Word ac Excel
  • gallu i ddeall a dilyn gweithdrefnau a sgriptiau gweithredu safonol

Yn gyfnewid am hyn, gallwn gynnig patrwm gweithio hyblyg i chi, sy’n gweddu i’ch anghenion unigol orau, gan gynnwys:

  • gweithio gyda’r hwyr ac ar benwythnosau
  • dewis o naill ai gytundeb cyfnod penodol tan 30 Mehefin 2021, neu shifftiau ad-hoc hyblyg 
  • cyfarpar addas, hyfforddiant, sesiynau derbyn a deunyddiau cyflwyno

Fel rhan o'n hymrwymiad i ddatblygu gweithlu dwyieithog, croesewir ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n medru dangos eu gallu i weithio drwy gyfrwng y Gymraeg a Saesneg ynghyd â'r rheini sydd â sgiliau iaith ychwanegol. Mae sgiliau'r Gymraeg yn hanfodol i'r rheini sy'n gweithio gyda chydweithwyr yn Ynys Môn a Gwynedd.

Os hoffech ymuno â’r rheng flaen rithwir a chwarae eich rhan yn trechu’r pandemig, ymgeisiwch nawr!

I weld y Swydd-ddisgrifiadau, Manylion am yr Unigolyn a Thelerau ac Amodau, cliciwch yma.