Gwirfoddoli
Mae miloedd o bobl ar draws Sir y Fflint yn rhoi o’u hamser hamdden i helpu i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl eraill. Mae gennym lawer o gyfleoedd gwirfoddoli gwahanol ar gael yng Nghyngor Sir y Fflint. Mae’r amrywiaeth o bethau y gall pobl eu gwneud i gefnogi eu cymunedau lleol yn ddi-ben draw bron.
Ceir buddiannau personol gwych o fod yn wirfoddolwr. Mae pobl sy’n gwirfoddoli yn cael synnwyr o fodlonrwydd eu bod wedi helpu i gefnogi o fewn y gymuned. Mae rhai cyfleoedd gwirfoddoli yn galluogi pobl i fanteisio ar ddysgu sgiliau newydd, mynychu hyfforddiant gwahanol a gwella cyflogadwyedd yn y dyfodol.
Beth bynnag yw’ch rheswm dros wirfoddoli mae manteision lu i chi ac i’ch cymuned. Gallwn eich cynorthwyo i gyrraedd eich nodau personol.
Mae gwirfoddoli’n darparu’r profiad a’r cymwysterau y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt, mae’n dangos eich bod yn ymroddedig a'ch bod yn gyflogadwy.
Byddwch yn derbyn hyfforddiant i’ch paratoi ar gyfer Gwirfoddoli ac i wneud y mwyaf o’ch gweithgareddau.
Ni ddylech fod ar eich colled, ble fo’n bosib byddwn yn ad-dalu costau a gytunwyd arnynt megis teithio a pharcio ceir.
- Hyfforddiant ymsefydlu llawn i'ch rôl o fewn y gwasanaeth
- Cefnogaeth ac adborth rheolaidd gan oruchwyliwr
- Disgrifiad ysgrifenedig o’ch gweithgareddau gwirfoddoli
- Cydnabyddiaeth o rolau a chyfrifoldebau gwahanol gwirfoddolwyr a gweithwyr sy’n derbyn tâl
- Cyfleoedd hyfforddiant parhaol.
Tra byddwch yn cymryd rhan yn y Gweithgareddau Gwirfoddoli, disgwylir i chi fod yn llysgennad i Gyngor Sir y Fflint. Bydd eich gweithgareddau gwirfoddoli yn ychwanegu gwerth at y gwasanaethau yr ydym yn eu cynnig i bobl Sir y Fflint.
O safbwynt eich gweithgareddau gwirfoddoli rhaid i chi:
• Fod yn ddibynadwy, yn ymrwymedig ac yn broffesiynol
• Gweithredu yn gyfrinachol ac yn gynnil
• Cofleidio cydraddoldeb a gwerthoedd amrywiaeth
• Bod â dyletswydd gofal i ddiogelu a hyrwyddo lles yr holl bobl y byddwch yn delio â hwy
• Cadw at yr holl ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch a diogelu data.
Os ydych yn ateb i hysbysebu penodol am wirfoddolwr, gallwch gwblhau’r Ffurflen Gais Wirfoddoli a’i bostio at y Rheolwr sy’n recriwtio. Bydd cyfeiriad e-bost i’w ganfod ar yr hysbyseb.
Os ydych am roi eich enw ymlaen ar gyfer unrhyw gyfleoedd gwirfoddoli yn gyffredinol, gallwch gofrestru gyda Chyngor Gwirfoddoli Lleol Sir y Fflint (FLVC) drwy anfon e-bost atynt info@flvc.org.uk neu ffonio 01352 744000. Byddant wedyn yn cadw eich manylion ar ffeil ac yn cydweddu’ch sgiliau gydag unrhyw gyfleoedd gwirfoddoli sydd ar gael.