Alert Section

Apeliadau i Geisiadau Cynllunio


Apeliadau ceisiadau cynllunio - cyngor

Ceir gwybodaeth bellach gan gynnwys cyngor a chanllaw am apeliadau cynllunio ar wefan Arolygiaeth Cynllunio.  Mae'r wybodaeth yn cynnwys cyngor am p'un a ddylid apelio, sut i gyflwyno apêl, pwy fydd yn gysylltiedig a pha mor hir fydd yn ei gymryd.  Fe'ch cynghorir i ddarllen y wybodaeth hon cyn cyflwyno apêl.

Gellir gwneud apeliadau yn erbyn gwrthod caniatâd neu amod ynghlwm wrth ganiatâd.  Dim ond yr ymgeisydd all gyflwyno apêl.  Rhaid cyflwyno apêl o fewn 6 mis i gyhoeddi hysbysiad y penderfyniad.

Gall apelio fod yn ddrud a mynd â llawer o amser i'r Cyngor a'r ymgeisydd.  Felly mae Cyngor Sir y Fflint yn annog ymgeiswyr yn daer i drafod penderfyniad y Cyngor gyda swyddogion cynllunio cyn apelio, i ystyried a allai cais diwygiedig oresgyn gwrthwynebiadau'r Cyngor (hyd yn oed pan fydd apêl wedi'i chyflwyno).  Mae'r Arolygiaeth hefyd yn cefnogi gwneud hyn, gan ei bod yn ystyried mai dim ond os daw hi i'r pen y dylid ystyried apeliadau cynllunio.

Os ydych am drafod y drefn apelio neu a oes unrhyw gyfle i oresgyn y gwrthwynebiad (e.e. trwy gyflwyno cynnig diwygiedig), cysylltwch â Rheoli Datblygu neu'r Swyddog Achos a ddeliodd â'r cais - mae ei enw a'i rif ffôn ar y nodyn sy'n cydnabod cael eich cais. Gellir apelio yn erbyn gwrthod caniatâd neu amod sy'n gysylltiedig â chaniatâd. 

Apeliadau gorfodi - cyngor
Ceir gwybodaeth am sut i apelio yn erbyn hysbysiad gorfodi a sut y gall y rheiny sydd â diddordeb gymryd rhan mewn Apeliadau Gorfodi ar gwefan Arolygiaeth Cynllunio.

Bydd manylion y broses hon yn dod gyda'r hysbysiad pan fydd yn cael ei gyflwyno.  Os gwneir apêl, mae amodau unrhyw hysbysiad yn ddi-rym tan fydd penderfyniad wedi'i roi.  Nid oes hawl i apelio o ran Hysbysiad Torri Amod.