Alert Section

Archwiliad Cyhoeddus y Cynllun Datblygu Lleol – Hysbysiad Preifatrwydd


Mae Cyngor Sir y Fflint yn casglu data personol yn rhan o’i ddyletswydd statudol o dan Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004. Mae’n rhaid i’r Cyngor ganiatáu i sylwadau cyhoeddus gael eu cyflwyno i’r Arolygiaeth Gynllunio yn rhan o Archwiliad Cyhoeddus y Cynllun Datblygu Lleol. Bydd y datganiadau cyhoeddus yn cael eu cyhoeddi ar wefan yr Archwiliad.. Bydd pob datganiad cyhoeddus yn cael ei gyhoeddi’n llawn, serch hynny bydd yr holl fanylion cyswllt yn cael eu tynnu o olwg y cyhoedd.

Ni fydd eich data personol yn cael ei rannu gydag unrhyw drydydd parti a bydd yn cael ei gadw hyd nes bod y Cyngor wedi mabwysiadu’r Cynllun Datblygu Lleol, ac yna bydd eich data personol yn cael ei ddileu.

Mae rhagor o wybodaeth am eich hawliau a sut i gwyno os ydych chi’n teimlo nad ydi Cyngor Sir y Fflint wedi trin eich data personol yn gywir ar gael drwy glicio ar y ddolen isod:

https://www.siryfflint.gov.uk/cy/Resident/Contact-Us/Privacy-Notice.aspx