Alert Section

Caniatâd Draenio Tir


Os ydych chi’n bwriadu gwneud gwaith mewn cwrs dŵr neu gerllaw, mae’n bosibl y bydd angen caniatâd draenio tir arnoch gan Gyngor Sir y Fflint. Mae’r gwaith hwn yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, adeiladu unrhyw strwythur (hyd yn oed un dros dro), gwaith tirlunio gan gynnwys plannu wrth ymyl cwrs dŵr cyffredin (o fewn 8 metr) a gwyro unrhyw gwrs dŵr.

Hyd yn oed os oes gennych chi ganiatâd cynllunio neu gydsyniad arall, mae’n bosib y bydd angen caniatâd gennym ni ar gyfer gwaith ar gyrsiau dŵr cyffredin neu gerllaw.

Dan Ddeddf Draenio Tir 1991, Adran 23, mae angen caniatâd gan Gyngor Sir y Fflint fel Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol ar gyfer codi neu addasu unrhyw argae melin, ceuffos, cored neu rwystr tebyg i lif cwrs dŵr cyffredin.

Mae’r rheoliad yn cynnwys 2 elfen:

  • rhoi caniatâd am unrhyw newidiadau i gyrsiau dŵr cyffredin a allai atal neu newid llif unrhyw gwrs dŵr cyffredin
  • camau gorfodi i unioni gwaith anghyfreithlon a allai fod yn andwyol i gwrs dŵr

Mae Cwrs Dŵr Cyffredin yn cynnwys unrhyw gwrs dŵr nad yw’n cael ei ystyried yn brif afon. Mae hyn yn cynnwys nentydd, ffosydd, draeniau, cwteri, ceuffosydd (rhannau â phibellau), cloddiau, llifddorau, carthffosydd (heblaw am garthffosydd cyhoeddus) a sianeli lle mae dŵr yn llifo drwyddynt. Mae’n werth nodi nad yw cwrs dŵr gyda’r gair ‘afon’ yn ei enw yn golygu ei bod yn brif afon bob tro.

Ar gyfer gwaith ar brif afonydd, Cyfoeth Naturiol Cymru yw’r awdurdod sy’n rhoi caniatâd. Gallwch ddarganfod ble mae’r prif afonydd trwy ddefnyddio Map Llifogydd Cyfoeth Naturiol Cymru.

Pa waith sydd angen cael caniatâd ar ei gyfer ar gwrs dŵr cyffredin?

Mae angen caniatâd cwrs dŵr cyffredin ar gyfer:

  • Unrhyw waith a fydd yn newid llif y dŵr yn uniongyrchol
  • Unrhyw waith ceuffosydd (adeiladu ceuffosydd newydd, newid ceuffosydd presennol)

Argymhellir eich bod yn cysylltu â ni trwy e-bost FloodRiskManagement@siryfflint.gov.uk i drafod eich cynnig i ganfod pa ganiatâd sydd ei angen.

Sylwch: Bydd angen caniatâd ar wahân ar gyfer gwaith ar gyfer strwythurau dros dro a strwythurau parhaol.

Pryd fydd angen i mi wneud cais am ganiatâd?

Bydd angen i chi wneud cais am ganiatâd o leiaf 2 fis cyn dechrau unrhyw waith. Os na chyflenwir y dogfennau angenrheidiol sydd eu hangen arnom i wneud penderfyniad, bydd angen i ni ymestyn y terfynau amser nes ein bod wedi gweld a chymeradwyo’r holl wybodaeth berthnasol.

Os yw’r gwaith eisoes wedi dechrau neu wedi’i gwblhau heb ganiatâd cwrs dŵr cyffredin, gallai Cyngor Sir y Fflint ofyn i chi wneud gwaith i ddychwelyd y cwrs dŵr i’w gyflwr gwreiddiol yn unol â’r ddeddf draenio tir.

Sut i wneud cais am ganiatâd draenio tir

Cyn llenwi'r ffurflen gais fe’ch argymhellir i gysylltu â ni i dderbyn cyngor ar eich cynnig. I wneud cais am ganiatâd draenio tir, lawrlwythwch a chwblhewch y ffurflen dan y teitl ‘Ffurflen Gais Caniatâd Cwrs Dŵr Cyffredin’ a welir yn yr adran dogfennau defnyddiol. Unwaith y bydd cais a thaliad llawn wedi’u cyflwyno, mae’r gyfraith yn rhoi 2 fis o ddyddiad pa bynnag un o’r canlynol a dderbynnir olaf: (1) Cais llawn neu (2) Dyddiad taliad. 

Gallwch anfon ffurflen wedi’i chwblhau, yr holl ddogfennau ychwanegol sy’n ofynnol a chael manylion taliadau trwy e-bostio floodriskmanagement@flintshire.gov.uk

Beth yw’r ffioedd ar gyfer cael caniatâd?

Y ffi ar gyfer caniatâd draenio tir yw £50 am bob strwythur neu ddarn o waith. Gellir cael manylion yn y nodiadau cyfarwyddyd ar y ffurflen gais. Os ydych yn ansicr faint o strwythurau y bydd eich cynlluniau yn eu cynnwys, cysylltwch â ni i gadarnhau’r taliadau a manylion pellach.

Eich cyfrifoldebau wrth weithio gyda chaniatâd draenio tir

Pan fyddwch yn cael caniatâd, mae’n rhaid i chi ddilyn y pwyntiau a’r amodau (h.y. amseriad) a nodir yn y caniatâd.

Gorfodaeth ar waith sydd heb gael caniatâd

Bydd gofyn i unrhyw waith a wneir heb ganiatâd gael ei dynnu i lawr a bydd angen dychwelyd y cwrs dŵr yn ôl i’w gyflwr gwreiddiol, nid oes gweithdrefn ar gyfer cymeradwyaeth ôl-weithredol.