Alert Section

Cyngor Cyn Gwneud Cais Cynllunio


Sylwch na allwn brosesu ceisiadau papur, cyflwynwch trwy'r porth neu'r blychau e-bost isod.

Os oes gennych ymholiad ceisiwch ei gyflwyno trwy e-bost yn uniongyrchol i'r swyddog. Os nad ydych yn adnabod cyfeiriad e-bost y swyddog defnyddiwch y cyfeiriad canlynol:

  • Ar gyfer materion cynllunio e-bost planningadmin@flintshire.gov.uk
  • Ar gyfer rheoliadau adeiladu e-bostiwch bcadmin@flintshire.gov.uk 
  • Ar gyfer e-bost datblygu priffyrdd highwaysdc@flintshire.gov.uk 

Manteision defnyddio ein gwasanaeth cynghori cyn cyflwyno cais cynllunio.

Mae darparu cyngor anffurfiol ac adeiladol i helpu i ffurfio a datblygu cynigion datblygu yn rhan bwysig o’n gwasanaeth.  Gall helpu i ffurfio cynlluniau’n bositif cyn i ormod o amser ac arian gael ei fuddsoddi.  Gall hefyd ein helpu i nodi’n gynnar unrhyw gynlluniau y mae’n swyddogion cynllunio yn credu sy’n anhebygol o gael caniatâd cynllunio.  Drwy gynnig gwasanaeth cynghori cyn cyflwyno cais, ein nod yw:-

  • Nodi polisïau mabwysiedig/newydd sy’n berthnasol i gynigion datblygu.
  • Nodi canllawiau cynllunio perthnasol ac ystyriaethau eraill.
  • Nodi ymgyngoreion allanol, grwpiau a phreswylwyr y dylech o bosibl ymgysylltu â nhw.
  • Cadarnhau dogfennau a gwybodaeth y bydd angen eu cyflwyno hefyd.
  • Rhoi syniad o’r cyfraniadau ariannol tebygol (os o gwbl) a fydd yn ofynnol.
  • Rhoi syniad, lle bo hynny’n bosibl, a yw’r swyddogion yn meddwl fod y cynnig yn debygol o cael cymeradwyaeth ffafriol yng ngoleuni polisïau ac ystyriaethau pwysig eraill.
  • Os yw cynllun yn cael ei ystyried yn annerbyniol, darparu arweiniad ynglŷn â beth y dylid ei wneud i fynd i’r afael â phryderon.
  • Rhoi syniad o’r dulliau penderfynu a’r terfynau amser tebygol.

O 1 Gorffennaf 2015 ymlaen codir tâl am ddarparu cyngor cyn cyflwyno cais.  

Canllaw ynglŷn â chyngor cyn gwneud cais cynllunio

Cais am Gyngor Cynllunio Cyn Gwneud Cais

Ffioedd 2023