Alert Section

Dinasyddiaeth


O dan Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002, rhaid i bawb sy’n 18 oed neu drosodd sy’n gwneud cais llwyddiannus i frodori neu gofrestru fel dinesydd Prydeinig, dyngu llw a gwneud adduned dinasyddiaeth mewn seremoni dinasyddiaeth.

Yn ystod y seremoni bydd darpar ddinasyddion yn tyngu llw neu’n gwneud cadarnhau eu teyrngarwch i’w Fawrhydi’r Brenin ac yn tyngu llw o deyrngarwch i’r Deyrnas Unedig. Wedi hyn, caiff tystysgrifau eu cyflwyno.

Yn Sir y Fflint,  Cyngor Sir y Fflint sy’n darparu seremonïau dinasyddiaeth a dyma’r trefniadau ar hyn o bryd:

Pan fydd ymgeiswyr yn cael eu llythyr cymeradwyaeth gan y Swyddfa Gartref cânt eu cynghori i gysylltu â Swyddfa Gofrestru Sir y Fflint i gael manylion y seremoni nesaf.

Rhif ffôn y Swyddfa Gofrestru yw 01352 703333 neu ebost registrars@flintshire.gov.uk

Mae angen i ymgeiswyr fynd i seremoni cyn pen 3 mis ar ôl cael cymeradwyaeth neu mae’n bosibl y bydd angen iddynt wneud cais newydd.

Pan fyddwch yn ddinesydd Prydeinig, bydd gennych hawl i fyw’n barhaol yn y Deyrnas Unedig. Bydd gennych hawl i gael pasbort Prydeinig ac i bleidleisio mewn etholiadau.

Y seremoni dinasyddiaeth yw’r cam olaf yn y broses o fod yn ddinesydd Prydeinig. Mae’r Cyngor yn gyfrifol am drefnu seremonïau i ymgeiswyr sy’n byw yn Sir y Fflint neu sy’n gwneud cais i gynnal y seremoni yn Sir y Fflint.

Ffordd o ddathlu pwysigrwydd y statws cyfreithiol newydd hwn yw’r seremoni. Cewch eich tystysgrif a chewch eich croesawu i’r gymuned.

Sut i wneud cais

Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn ddinesydd Prydeinig, ffoniwch Asiantaeth Ffiniau a Mewnfudo’r Swyddfa Gartref ar 0845 010 5200 rhwng 9.00am a 9.00pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener neu ewch i wefan y Swyddfa Gartref (ffesnstr newydd).  

Rhaid i’r rhai sy’n gwneud cais am ddinasyddiaeth Brydeinig basio “Prawf Byw yn y DU” cyn y cânt fod yn ddinesydd. 

Cewch ragor o wybodaeth ar y tudalennau ar y we, Knowledge of Language and "Life in the UK Test" (ffesnestr newydd).  Cyflwynwyd proses o ennill dinasyddiaeth (neu ddinasyddiaeth weithgar) yn 2010.

Ble y caiff y seremoni ei chynnal?

Caiff y seremoni ei chynnal yn y Swyddfa Gofrestru, Plas Llwynegrin, yr Wyddgrug.  Ffôn: 01352 703333 neu ebost: Registrars@flintshire.gov.uk  Mae’r seremoni’n cynnwys araith gan Gadeirydd Cyngor Sir y Fflint i groesawu pawb, cyn i’r ymgeiswyr dyngu llw neu gadarnhau eu teyrngarwch i’w i’w Mawrhydi’r Brenin  ac yn tyngu llw o deyrngarwch i’r Deyrnas Unedig.  Yna bydd y Cadeirydd yn cyflwyno tystysgrifau dinasyddiaeth i bob ymgeisydd, ynghyd â medal goffa a phecyn gwybodaeth sy’n cynnwys gwybodaeth am wneud cais am basbort i'r Deyrnas Unedig a ffurflen gofrestru etholiadol i gofrestru i bleidleisio.  

Pwy all ddod i’r seremoni?

Gall unrhyw un sy’n byw oddi allan i Sir y Fflint ofyn am gael cynnal eu seremoni ddinasyddiaeth yn Sir y Fflint. I wneud hyn, y cyfan y mae angen i chi ei wneud yw nodi ‘Sir y Fflint’ fel y man lle’r ydych am gael seremoni ar ffurflen gais y Swyddfa Gartref.

Gall ymgeiswyr wahodd gwesteion i’w seremoni a chael cyfle i dynnu llun yn ystod y seremoni ac wedyn.

Seremonïau preifat

Mae modd trefnu seremoni breifat am dâl o £100.  Ffoniwch Swyddfa Gofrestru Sir y Fflint ar 01352 703333 neu e-bost Registrars@flintshire.gov.uk i gael rhagor o fanylion.