Alert Section

Marwolaethau


Rydym yn sylweddoli bod marwolaeth un o’ch anwyliaid yn gyfnod anodd ac emosiynol.  O gofio hyn, ein nod yw sicrhau bod y profiad o gofrestru marwolaeth mor syml â phosibl.

Rhaid cofrestru pob marwolaeth gyda’r Cofrestrydd Marwolaethau a Genedigaethau yn yr ardal lle bu’r person farw. Dylent gofrestru cyn pen 5 diwrnod oni bai bod crwner yn ymchwilio i amgylchiadau’r farwolaeth. 

Beth y mae angen i mi ei wneud yn gyntaf?

Bydd meddyg yn darparu tystysgrif feddygol yn nodi’r rheswm dros y farwolaeth. 

Os bu farw’r person yn Sir y Fflint, ac oes yw’r dystysgrif hon gennych chi, bydd angen i chi ffonio’r Swyddfa Gofrestru ar 01352 703333 i drefnu apwyntiad i gofrestru’r farwolaeth.

Os yw’r crwner wedi cael ei hysbysu o’r farwolaeth, bydd angen ffurflen ychwanegol, gan y crwner, ar y Cofrestrydd. Bydd y crwner yn anfon hon yn syth i’r Swyddfa Gofrestru.

Pwy all gofrestru marwolaeth?

  • Perthynas fyddai orau
  • Rhywun a oedd yn bresennol pan fu farw’r person fyddai orau
  • Rhywun sy’n byw yn y tŷ lle bu farw’r person.

Os nad oes teulu, gellir ehangu’r meini prawf i gynnwys:

  • Rhywun sy’n trefnu’r angladd gyda’r trefnydd angladdau
  • Rhywun cyfrifol o’r ysbyty neu’r cartref lle bu farw’r person.

Beth y mae angen i mi ddod gyda mi?

  • Tystysgrif feddygol gan feddyg yn nodi’r rheswm dros y farwolaeth (os yw’r crwner wedi’i hysbysu o’r farwolaeth, bydd yn anfon y ffurflen hon yn syth at y Cofrestrydd)
  • Os ydynt ar gael – tystysgrifau geni, marwolaeth, priodas neu bartneriaeth sifil, sy’n cadarnhau’r manylion i’w cofnodi ar y gofrestr farwolaeth
  • Dull o dalu am gopïau o’r dystysgrif marwolaeth (h.y. arian, cerdyn credyd/debyg neu siec gyda cherdyn gwarantu siec).

Beth fydd yn digwydd pan fyddaf yn gweld y Cofrestrydd?

Bydd y Cofrestrydd yn gofyn i chi gadarnhau’r wybodaeth a ganlyn:

  • Dyddiad a lleoliad y farwolaeth
  • Yr enw llawn roedd yr ymadawedig yn ei ddefnyddio pan fu farw
  • Manylion unrhyw enwau eraill y gelwid yr ymadawedig
  • Dyddiad a man geni’r ymadawedig
  • Galwedigaeth yr ymadawedig ac a oedd wedi ymddeol
  • Cyfeiriad a chod post cartref presennol yr ymadawedig
  • Os oedd yr ymadawedig yn briod/mewn partneriaeth sifil neu’n weddw, enw llawn a galwedigaeth ei g/chymar
  • Enw llawn a chyfeiriad y person sy’n rhoi’r wybodaeth a’i b/perthynas â’r ymadawedig.

Bydd angen y wybodaeth gyfrinachol a ganlyn hefyd ar gyfer ystadegau’r llywodraeth:

  • A oedd yr ymadawedig yn sengl, yn briod, yn weddw, wedi ysgaru,  yn bartner sifil, wedi colli partner sifil neu’n gyn bartner sifil?
  • A yw’r priod/partner sifil yn dal yn fyw? Os felly, beth yw ei d(d)yddiad geni?
  • Am ba hyd fu’n ymadawedig yn yr ysbyty neu mewn sefydliad arall cyn y bu farw?
  • A oedd yr ymadawedig yn iau na 75 oed?
  • Ym mha ddiwydiant oedd yr ymadawedig yn gweithio a beth oedd ei swydd?
  • A oedd yn cael pensiwn  o un o gronfeydd y llywodraeth? Mae hyn yn cynnwys y gwasanaeth sifil, athrawon, y lluoedd arfog a gweddwon rhyfel. Nid yw’n cynnwys pensiwn y wladwriaeth neu gredyd pensiwn
  • Rhif GIG yr ymadawedig oddi ar ei g/cherdyn meddygol (os yw ar gael).

Ar ôl cofrestru’r farwolaeth, bydd angen i chi lofnodi’r cofnod.  Mae’n bwysig bod y wybodaeth a nodir yn gywir gan y gall unrhyw gamgymeriadau y ceir hyd iddynt ar ôl cofrestru arwain at oedi, anhwylustod neu ofid.

Yna, bydd y Cofrestrydd yn rhoi’r ffurflenni a ganlyn i chi:

  • Ffurflen werdd i’w rhoi i’r trefnydd angladdau. Os yw’r farwolaeth wedi’i chyfeirio at y crwner, ac os oes amlosgiad yn cael ei drefnu, bydd y crwner yn anfon ffurflen gyfatebol at eich trefnydd angladdau.
  • Ffurflen BD8 wen i’w llenwi a’i hanfon gennych chi at yr Adran Gwaith a Phensiynau i atal taliadau pensiwn a budd-daliadau. Bydd hon hefyd yn gyfrwng i hysbysu’r Adran Gwaith a Phensiynau bod amgylchiadau unrhyw briod/partner sifil sy’n dal yn fyw wedi newid.

Oes raid i mi dalu ffi?

Nac oes. Mae’r gwasanaeth ar gael am ddim. Fodd bynnag, mae modd prynu copïau ardystiedig o’r cofnod marwolaeth (y dystysgrif marwolaeth) am dâl bychan.

Bydd angen i chi ddangos tystysgrif geni pan fyddwch yn gweinyddu ystâd yr ymadawedig (e.e. wrth ddeilio â’r banc, cymdeithasau adeiladu a chwmnïau yswiriant). 

Rwyf am gofrestru’r farwolaeth ond nid wyf yn byw yn Sir y Fflint

Os digwyddodd y farwolaeth yn Sir y Fflint, ac os nad ydych chi’n byw yn Sir y Fflint, mae’n bosibl rhoi manylion i unrhyw Gofrestrydd yng Nghymru neu Loegr.  ‘Cofrestru drwy ddatganiad’ yw hyn. Bydd yn rhaid i chi fynd i Swyddfa Gofrestru lle bydd y Cofrestrydd yn cofnodi’r wybodaeth ac yn ei hanfon i Swyddfa Gofrestru Sir y Fflint.

Gallwch hefyd archebu tystysgrifau marwolaeth. Codir tâl am y rhain a bydd angen talu â siec gan ddangos cerdyn gwarantu siec neu archeb bost pan fyddwch yn rhoi’r datganiad. Bydd y Cofrestrydd yn anfon y datganiad a’r taliad i Swyddfa Gofrestru Sir y Fflint.

Ar ôl cofrestru’r farwolaeth yn Swyddfa Gofrestru Sir y Fflint, cewch y dogfennau a ganlyn:

  • Unrhyw gopïau ardystiedig o’r cofnod marwolaeth y byddwch wedi’u harchebu ac wedi talu amdanynt
  • Ffurflen werdd i’w rhoi i’r trefnydd angladdau. Bydd y crwner yn anfon y ffurflen gyfatebol (os bydd angen cynnal post mortem)
  • Ffurflen BD8 wen, i chi ei llenwi a’i hanfon i’r Adran Gwaith a Phensiynau i roi manylion unrhyw fudd-dal neu bensiwn.

Mae’r trefniadau hyn hefyd yn berthnasol os ydych yn byw yn Sir y Fflint ond yn gorfod cofrestru yn rhywle arall yng Nghymru neu Lloegr ac yn methu teithio i’r ardal lle bu farw’r ymadawedig.  

Os oes unrhyw ansicrwydd ynglŷn â ble y dylech gofrestru, ffoniwch y Swyddfa Gofrestru ar 01352 703333 i gael cyngor.

Y crwner

Os bydd y farwolaeth yn digwydd o dan yr amgylchiadau a ganlyn, caiff ei chyfeirio at y crwner:

  • Mae’r farwolaeth yn sydyn ac yn annisgwyl
  • Mae’r farwolaeth yn gysylltiedig â diwydiant
  • Nid yw’r rheswm dros y farwolaeth yn glir
  • Mae’r amgylchiadau’n amheus
  • Damwain, trais, hunanladdiad, esgeulustod yn ystod/ar ôl llawdriniaeth arweiniodd at y farwolaeth
  • Pan mae meddyg wedi egluro na all ddarparu tystysgrif marwolaeth neu pan nad oedd meddyg wedi bod yn gweld yr ymadawedig yn ystod salwch olaf yr ymadawedig.

Marwolaeth yr hysbysir y crwner amdani

Bydd y crwner yn ymchwilio i amgylchiadau’r farwolaeth ac yn gwneud un o’r canlynol:

  • Rhoi tystysgrif i’r Cofrestrydd i ganiatáu i’r farwolaeth gael ei chofrestru
  • Trefnu post mortem ac, ar ôl hynny, bydd modd rhoi tystysgrif i’r Cofrestrydd yn nodi’r rheswm dros y farwolaeth i ganiatáu i’r farwolaeth gael ei chofrestru
  • Trefnu post mortem a chynnal cwest. Bydd y crwner yn trefnu i’r farwolaeth gael ei chofrestru ar ôl cynnal y cwest.

Cymorth i’r rhai sy’n galaru

Profedigaeth yw un o’r profiadau mwyaf trawmatig mewn bywyd. Mae’n gyfnod o drallod personol enfawr i berthnasau a ffrindiau. Isod, ceir gwybodaeth i helpu’r rhai sy’n ceisio ymdopi â marwolaeth.

  • Cruse Bereavement Care Cymru
    Corff sy’n cynnig gwybodaeth a chyngor i unrhyw un sydd wedi cael profedigaeth. Mae Cruse yn rhoi cymorth a gwasanaeth cwnsela, mewn grŵp neu un i un. 
  • The Child Bereavement Charity
    Mae’r Child Bereavement Charity (CBC) yn rhoi cymorth arbenigol, gwybodaeth a hyfforddiant i’r rhai sydd wedi colli baban neu blentyn, neu pan fydd plentyn yn colli rhywun agos.
  • The Compassionate Friends (UK)   
    Corff elusennol yw’r Compassionate Friends (UK) sy’n galluogi rhieni a’u teuluoedd i gynnig dealltwriaeth, cymorth ac anogaeth i eraill sydd wedi colli plentyn neu blant. Maent hefyd yn cynnig cymorth, cyngor a gwybodaeth i berthnasau, ffrindiau a gweithwyr proffesiynol eraill sy’n helpu’r teulu.
  • The Miscarriage Association
    Gall colli plentyn yn y groth fod yn brofiad unig a brawychus sy’n peri gofid enbyd i rai. Mae’r Miscarriage Association yn cynnig cymorth a gwybodaeth i bawb sydd wedi cael y profiad hwn.

Marwolaethau plant dan 18

Mae colli plentyn yn brofiad hynod o boenus.   Rydym eisiau cynnig cymorth ymarferol a thrugarog i deuluoedd sy’n galaru.  

Mae amrywiaeth o gymorth ar gael gan gynnwys ffioedd claddu ac amlosgi ar gyfer plant dan 18 a chyfraniad o £500 tuag at gostau angladd a chostau cysylltiedig eraill.

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael i gefnogi teuluoedd sy’n galaru ar wefan Llywodraeth Cymru.