Alert Section

Priodasau


Mae dydd eich priodas yn arbennig i chi ac i Wasanaeth Cofrestru Sir y Fflint. Mae’n bleser gennym roi gwybodaeth a chanllawiau i chi am briodi yn Sir y Fflint, ac i helpu i sicrhau y bydd dydd eich priodas mor arbennig a chofiadwy â phosibl.

I drafod gofynion eich diwrnod arbennig chi, trefnwch apwyntiad gyda’r Cofrestrydd Arolygol ar 01352 703333.

Newyddion Diweddaraf 13/11/18: Llwyddiant yn y Diwrnod Agored Priodasau cyntaf   
Mwy o llunio yma

Ystafell Seremonïau Neuadd Llwynegrin, Y Swyddfa Gofrestru, Yr Wyddgrug.   

Llwynegrin Hall Ceremony Room / Ystafell Seremonïau Neuadd Llwynegrin

A allaf briodi neu ffurfio partneriaeth sifil?

Gallwch briodi neu ffurfio partneriaeth sifil yng Nghymru neu Loegr os ydych chi:

  • yn 16 oed neu’n hŷn
    (o 27 Chwefror 2023, bydd yr oedran yn codi i 18. Mae hyn yn golygu o'r dyddiad hwnnw ni fydd unigolyn o dan 18 oed yn gallu priodi neu ymrwymo i bartneriaeth sifil o dan unrhyw amgylchiadau, gan gynnwys gyda chaniatâd rhiant neu ganiatâd barnwrol).
  • ddim eisoes yn briod nac mewn partneriaeth sifil
  • ddim yn perthyn yn agos

Gall cyplau o’r un rhyw drosi partneriaeth sifil i briodas yng Nghymru neu Loegr. 

Os ydych chi’n iau na 18 oed ac am briodi neu ffurfio partneriaeth sifil ar neu cyn dydd Sul 26 Chwefror 2023.
Bydd arnoch chi angen caniatâd gan eich rhieni neu warcheidwaid.

Os ydych chi o dan 18 oed ac am briodi neu ffurfio partneriaeth sifil ar ôl dydd Sul 26 Chwefror 2023.
Rhaid i chi aros nes bydd y ddau unigolyn yn 18 oed.

Os ydych chi neu'ch partner o'r tu allan i'r DU
Mae’r rheolau’n wahanol os oes arnoch chi eisiau priodi neu ffurfio partneriaeth sifil yn yr Alban, Gogledd Iwerddon neu dramor. Mae’n rhaid i chi ymgeisio am fisa er mwyn priodi neu ffurfio partneriaeth sifil yn y DU os:

  • nad ydych chi’n ddinesydd Prydeinig neu Wyddelig
  • nad oes gennych chi ganiatâd amhenodol i aros ym Mhrydain

Am ragor o wybodaeth mewn perthynas â phriodi neu ffurfio partneriaeth sifil, ymwelwch â gwefan GOV.UK.  

Seremonïau Sifil

Seremoni a gaiff ei chynnal gan y Cofrestrydd Arolygol a’r Cofrestrydd yw priodas sifil.

Gellir cynnal y seremoni yn y Swyddfa Gofrestru neu mewn unrhyw adeilad yng Nghymru neu Loegr sydd wedi’i gymeradwyo, ni waeth lle’r ydych yn byw.

Rhaid i chi fod yn 16 oed o leiaf ac, os ydych o dan 18 oed, bydd angen i chi gael caniatâd eich rhiant/rhieni neu’ch gwarcheidwad cyn y cewch chi briodi*.

*(O 27 Chwefror 2023, bydd yr oedran yn codi i 18. Mae hyn yn golygu o'r dyddiad hwnnw ni fydd unigolyn o dan 18 oed yn gallu priodi neu ymrwymo i bartneriaeth sifil o dan unrhyw amgylchiadau, gan gynnwys gyda chaniatâd rhiant neu ganiatâd barnwrol).

Mae modd cynnal eich priodas mewn amrywiaeth o leoliadau yn ôl eich anghenion. Rydym yn siŵr o gael hyd i’r lle perffaith i chi gyfnewid eich addunedau.

Rydym yn cymryd gofal arbennig wrth drefnu seremonïau sifil yn Sir y Fflint, gan roi sylw arbennig i’r manylion lleiaf. Gallwch ychwanegu at y seremoni drwy drefnu darlleniadau neu gerddi i wneud eich seremoni’n unigryw ac yn bersonol. 

Gallwn gynnig seremoni Gymraeg, Saesneg neu ddwyieithog i chi, a gallwch ychwanegu darlleniadau a cherddoriaeth.

Trefniadau paratoadol

Rhaid cyflwyno hysbysiad priodas yn eich Swyddfa Gofrestru leol.

Ar ôl penderfynu pryd a ble rydych am briodi, os ydych yn byw yn Sir y Fflint, dylech gysylltu â Swyddfa Gofrestru Sir y Fflint i drefnu i chi a’ch cymar gyflwyno Hysbysiad Priodas.  Rhaid i chi fod yn byw yn yr ardal am 7 diwrnod o leiaf cyn cyflwyno Hysbysiad. Os ydych yn byw mewn gwahanol ardaloedd, bydd yn rhaid i’r ddau ohonoch gyflwyno hysbysiad yn eich ardaloedd eich hunain. Rhaid cynnal y briodas cyn pen 12 mis ar ôl cyflwyno’r hysbysiad ac ar ôl cyfnod clir o 28 diwrnod / 16 diwrnod cyn 2 Fawrth 2015.

Y dogfennau sydd eu hangen wrth gyflwyno Hysbysiad Priodas

  • Prawf adnabod a chenedligrwydd (eich pasbort fyddai orau).  Os nad oes gennych basport cyfredol dilys, dylech ddangos eich tystysgrif geni.  Ers 1 Ionawr 1983 mae'ch cenedligrwydd yn dibynnu ar genedligrwydd eich rhieni. Os cawsoch eich geni cyn y dyddiad hwnnw, dylech adangos eich pasbort neu'ch tystysgrif geni.  Os cawsoch eich geni ar ôl y dyddiad hwnnw dylech ddangos eich pasbort neu'ch tystysgrif geni llawn ynghyd â thystiolaeth o genegligrwydd un o'ch rhieni (eu tystysgrif geni neu basport)
  • Prawf o’ch cyfeiriad
  • Os ydych wedi ysgaru, eich Archddyfarniad Absoliwt sy’n dangos stamp gwreiddiol y llys
  • Os ydych yn weddw, Tystysgrif Marwolaeth eich cyn briod
  • Os ydych wedi newid eich enw’n ffurfiol, eich Gweithred Newid Enw neu’ch dogfen Datganiad Statudol
  • Os nad ydych yn Brydeiniwr ac yn destun rheolaeth fewnfudo bydd angen i'r ddau ohonoch roi rhybudd o'ch priodas mewn Swyddfa Gofrestru Ddynodedig.  Cysylltwch â Gofrestru Sir y Fflint am fwy o wybodaeth
  • Os nad ydych yn Brydeiniwr ac yn destun rheolaeth fewnfudo bydd angen i'r ddau ohonoch roi rhybudd o'ch priodas mewn Swyddfa Gofrestru Ddynodedig.  Cysylltwch â Gofrestru Sir y Fflint am fwy o wybodaeth
  • Y tâl cyfredol
  • Bydd angen i chi drefnu i ddau berson fod yn bresennol i dystio i’ch priodas (y Gwas a’r Forwyn efallai).  Rhaid i’r ddau fod dros 16 oed a rhaid iddynt fedru deall yr hyn sy’n mynd ymlaen yn iawn.  Bydd angen i’r ddau dyst roi eu henwau a’u cyfeiriad i’r Cofrestrydd.

Seremonïau Crefyddol

Eglwys Loegr a’r Eglwys yng Nghymru
Os hoffech briodi yn y naill eglwys neu’r llall, bydd angen i chi neu’ch partner fod yn byw ym mhlwyf yr eglwys, neu’n addoli’n rheolaidd.  Os gall y ficer eich priodi, bydd yn trefnu i gyhoeddi’r Gostegion neu i gyhoeddi Trwydded Gyffredin.  Bydd y ficer hefyd yn cofrestru’r briodas ac ni fydd angen cysylltu â’r Swyddfa Gofrestru leol.

Mannau addoli eraill
Rhaid i’r eglwys neu’r adeilad crefyddol dan sylw fod yn yr ardal gofrestru ble’r ydych chi neu’ch partner yn byw, neu os bydd oddi allan i’r ardal hon, byddwch chi neu’ch partner yn addoli yno’n rheolaidd.  Gweinidog / Offeiriad y lleoliad fydd yn cynnal y gwasanaeth, ond weithiau bydd angen i’r Cofrestrydd gofrestru’r briodas.

I drefnu seremoni yn un o’r lleoliadau uchod, cysylltwch â’r Gweinidog priodol, a’r Swyddfa Gofrestru os bydd angen.

Ffioedd

Mae ffioedd priodi’n amrywio’n ôl y gwasanaeth a ddarperir, lleoliad y seremoni ac a yw’n cael ei chynnal ar un o ddyddiau’r wythnos, ar benwythnos ynteu ar Ŵyl Banc.  I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch ein tabl ffioedd.

Oes raid i ni fyw yn Sir y Fflint i briodi yno?

Cyhyd â bod y ddau ohonoch yn 16 oed* neu drosedd ac yn rhydd i briodi, gallwch drefnu i gynnal y seremoni yn Sir y Fflint.  

Rhaid i’r ddau ohonoch fod yn byw yn ardal gofrestru Sir y Fflint am o leiaf 7 diwrnod cyn cyflwyno hysbysiad i’r Swyddfa Gofrestru.  

Rhaid cyflwyno hysbysiad priodas yn yr ardal gofrestru lle’r ydych yn byw.  Os yw’r ddau ohonoch yn byw yn yr un ardal gofrestru, caiff y ddau ohonoch gyflwyno hysbysiad yn yr un swyddfa.  Os ydych yn byw mewn gwahanol ardaloedd cofrestru, mae’n rhaid i’r ddau ohonoch gyflwyno hysbysiad ar wahân yn eich Swyddfa Gofrestru leol.

*(O 27 Chwefror 2023, bydd yr oedran yn codi i 18. Mae hyn yn golygu o'r dyddiad hwnnw ni fydd unigolyn o dan 18 oed yn gallu priodi neu ymrwymo i bartneriaeth sifil o dan unrhyw amgylchiadau, gan gynnwys gyda chaniatâd rhiant neu ganiatâd barnwrol).

Oes raid i ni gyrraedd y seremoni gyda’n gilydd?

Dim ond os ydych yn dymuno gwneud hynny. Chi piau’r dewis.  Cysylltwch â ni i drafod eich anghenion.

All rhywun fy nghyflwyno i’m priodfab / partner?

Gallwch gynnwys hyn fel rhan o’r seremoni. Cysylltwch â ni i drafod eich anghenion.

Pa mor hir yw’r seremoni fel arfer?

Fel arfer, bydd y seremoni’n para hanner awr, gan ddibynnu a ydych am gynnwys cerddi neu ddarlleniadau yn y seremoni.  Cysylltwch â’r Cofrestrydd i gael rhagor o fanylion.

A gaiff y gwesteion daflu reis neu gonffeti?

Cewch daflu conffeti’r tu allan i’r Swyddfa Gofrestru.  Os ydych yn priodi mewn lleoliad a gymeradwywyd, bydd angen i chi drafod hyn gyda rheolwr y lleoliad.

Ble gawn ni dynnu lluniau?

Mae cyfoeth o leoliadau gwerth chweil i dynnu llun yn Sir y Fflint ar ôl y seremoni.  Mae llawer o atyniadau lleol a fyddai’n creu cefndir delfrydol ar gyfer eich albwm lluniau.  Mae gardd o flaen adeilad Swyddfa Gofrestru Sir y Fflint sy’n ddelfrydol ar gyfer tynnu llun grwpiau.

Fedrwn ni dynnu llun â chamera yn ystod y seremoni?

Bydd y cofrestrydd yn siarad gyda’ch ffotograffydd i ddweud pryd y caiff dynnu llun yn ystod y seremoni.

Pa mor fuan ddylwn i gysylltu â’r Swyddfa Gofrestru?

Drwy gysylltu’n fuan â’r Cofrestrydd, cewch ddigon o amser i baratoi ac i drafod y dyddiadau sydd ar gael ar gyfer eich seremoni.  Byddwch hefyd yn gallu trafod yr hyn sydd ar gael i wneud eich diwrnod arbennig yn un bythgofiadwy.

Ni chewch gyflwyno Hysbysiad Priodas fwy na 12 mis cyn eich priodas.

I gael rhagor o ganllawiau a gwybodaeth, ffoniwch Swyddfa Gofrestru Sir y Fflint ar 01352 703333.