Alert Section

Hysbysiad Preifatrwydd


Mae’r polisi hwn yn egluro sut mae’r wybodaeth a gasglwn amdanoch yn cael ei defnyddio, a’ch hawliau mewn perthynas â’r wybodaeth honno.

Mae gwybodaeth bersonol a gesglir gennych er mwyn cofrestru digwyddiad yn ofynnol gan y gyfraith.   Y brif ddeddfwriaeth sy’n llywodraethu'r casgliad o wybodaeth gofrestru yw Deddf Cofrestru Genedigaethau a Marwolaethau 1953, Deddf Briodas 1949 a Deddf Partneriaeth Sifil 2004. Efallai y bydd rhwymedigaeth gyfreithiol arnoch, drwy'r deddfau hyn, a darnau eraill o ddeddfwriaeth, i ddarparu darnau penodol o wybodaeth.  Os ydych yn methu â darparu gwybodaeth ofynnol i ni, efallai y bydd yn rhaid i chi, ymhlith pethau eraill, dalu dirwy, neu efallai na fyddwn yn gallu darparu'r gwasanaeth rydych yn ymgeisio amdano, fel priodas neu bartneriaeth sifil.

Gellir casglu gwybodaeth bersonol gennych hefyd os ydych yn gwneud cais i’r swyddfa hon, er enghraifft, ar gyfer tystysgrif neu i wirio gwybodaeth a gynhwysir yng nghofnod y gofrestr.

Bydd yr wybodaeth a roddwch yn cael ei dal a’i phrosesu gan swyddogion cofrestru ar gyfer y rhanbarth cofrestru hwn.  
Y Cofrestrydd Arolygol yw’r rheolydd data ar gyfer cofrestriadau genedigaethau, priodasau a marwolaeth, a gellir cysylltu â’r Cofrestrydd ar noelle.baston@flintshire.gov.uk neu 01352 703333.

Yr awdurdod lleol yw’r rheolydd data ar gyfer cofrestriadau partneriaethau sifil, a gellir cysylltu â noelle.baston@flintshire.gov.uk neu 01352 703333.

Y Cofrestrydd Cyffredinol ar gyfer Cymru a Lloegr yw'r rheolydd data ar y cyd ar gyfer cofrestriadau priodasau, marwolaethau a phartneriaethau sifil, a gellir cysylltu â nhw ar y manylion canlynol: General Register Office, Trafalgar Road, Southport, PR8 2HH.

Y Swyddog Diogelu Data yw Noelle Baston, y Cofrestrydd Arolygol

Bydd copi o unrhyw gofnod ar y gofrestr yn cael ei roi gan y swyddfa hon yn unol â’r gyfraith i unrhyw ymgeisydd, ar yr amod eu bod yn rhoi digon o wybodaeth i adnabod y cofnod dan sylw a thalu’r ffi addas. Gellir ond cyhoeddi’r copi ar ffurf copi ardystiedig ar bapur (“tystysgrif”). Gellir hefyd gwneud cais am dystysgrif i’r Swyddfa Gofrestru Gyffredinol. 
Mae mynegeion ar gyfer digwyddiadau a gofrestrir yn y swyddfa hon ar gael yn gyhoeddus, er mwyn helpu aelodau o'r cyhoedd i nodi'r cofnod cofrestru y gallant fod ei angen.   Mae mynegeion ar gael mewn fformat ar law, ac ar northwalesbmd.org.uk 

Bydd copi o’r gwasanaeth a gesglir gan swyddog cofrestru hefyd yn cael ei anfon at Gofrestrydd Cyffredinol Cymru a Lloegr, fel y gellir cynnal cofnod canolog o'r holl gofrestriadau. 

Gellir rhannu gwybodaeth gofrestru a gedwir yn y swyddfa hon gyda sefydliadau eraill wrth gynnal ein swyddogaethau, neu i alluogi eraill i berfformio rhai nhw.  

Byddwn ond yn rhannu gwybodaeth lle mae sail gyfreithiol dros wneud hynny am y rhesymau canlynol:

  1. Dibenion ystadegol neu ymchwil
  2. Dibenion gweinyddol gan gyrff swyddogol e.e. sicrhau bod eu cofnodion yn gyfredol er mwyn darparu gwasanaethau i’r cyhoedd
  3. Atal neu ganfod twyll, dibenion mewnfudo a phasbort 

Mae modd dod o hyd i ragor o wybodaeth am ddata a gedwir gan y gwasanaeth cofrestru a rhestr lawn o sefydliadau y rhennir y data cofrestru gyda nhw, y diben a’r sail gyfreithiol dros rannu’r data ar Y Swyddfa Gofrestru, Plas Llwynegrin, Yr Wyddgrug, Sir y Fflint, CH7 6NR.  Fel arall, bydd staff yn y swyddfa hon yn gallu rhoi’r wybodaeth.

Mae gennych yr hawl i ofyn am fynediad at y wybodaeth bersonol sydd gennym amdanoch, i gael gwybod am gasgliad a'r defnydd o'ch gwybodaeth bersonol, i gywiro gwybodaeth anghywir (lle mae'r gyfraith yn caniatáu hynny), ac i ofyn i ni gyfyngu ar brosesu eich gwybodaeth bersonol. Mewn amgylchiadau penodol, mae gennych yr hawl i wrthod prosesu eich gwybodaeth bersonol.  Ni fydd eich gwybodaeth yn destun penderfyniadau awtomataidd.

Mae gwybodaeth gofrestru’n cael ei chadw am gyfnod amhenodol fel sy’n ofynnol gan y gyfraith. 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon am gasglu, defnyddio neu ddatgelu eich gwybodaeth bersonol, cysylltwch â Noelle Baston, Cofrestrydd Arolygol, yn noelle.baston@flintshire.gov.uk

Mae gennych yr hawl i gwyno i’r Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth am y ffordd rydym yn trin eich gwybodaeth bersonol. Mae manylion ynghylch sut y gallwch wneud hyn i’w cael ar https://ico.org.uk/