Alert Section

Gyrru'n ddiogel ar gefn beic modur


Cyngor i yrwyr beiciau modur a cherbydau eraill

Gyrwyr beiciau modur yw 21% o’r rhai sy’n marw ar ein ffyrdd. Gofalwch eich bod yn gyrru’n ddiogel drwy ddilyn y cyngor a ganlyn gan Directgov (ffenestr newydd).

Gweithdai gyrru beic modur

Diolch i arian gan Grŵp Diogelwch Gogledd Cymru, mae gweithdai Bikesafe yn cael eu cynnig, am ddim, i bobl gogledd Cymru - cyhyd ag y bydd llefydd, ac arian, ar gael. Cwrs ar gyfer gyrwyr beiciau modur, sydd wedi pasio’u prawf gyrru beic modur, yw hwn yn bennaf.  

Riders can book onto either a 2 day motorcycle "Road Management Skills" course (worth £100), which involves both an indoor session and a practical riding assessment/demonstration or a free Bikesafe workshop and First Bike on Scene course.

Gall gyrwyr neilltuo lle naill ai ar gwrs “Sgiliau Rheoli Ffyrdd” (gwerth £100) dros gyfnod o ddeuddydd, sy’n cynnwys sesiwn dan do ac asesiad/arddangosfa gyrru beic modur neu weithdy Bikesafe a chwrs Y Beic Cyntaf i Gyrraedd Damwain.

Yn ystod y sesiwn hon, cewch gyfarwyddyd ar sut i roi cymorth cyntaf pan fydd damwain beic modur. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Bikesafe – Heddlu Gogledd Cymru (ffenestr newydd)  (i neilltuwch le ar-lein), ffoniwch 01492 804155 neu anfonwch e-bost  at psdbikesafe@nthwales.pnn.police.uk (bydd yn creu e-bost).

Uwch sgiliau beicio modur

Os oes gennych ddiddordeb datblygu’r sgiliau gyrru beic modur, gallwch ymuno â grwp North Wales Advanced Motorcyclists (ffenestr newydd).

Neu, efallai yr hoffech ystyried gynllun Gwell Beiciwr yr Asiantaeth Safonau Gyrru (ffenestr newydd).

Parcio beiciau modur

Cyfyngiadau Oddi ar y Stryd

Wrth barcio mewn Maes Parcio Talu ac Arddangos rhaid i'r gyrrwr barcio mewn bae a thalu’r ffi berthnasol a dylai’r beiciwr ddal ei afael ar y tocyn Talu ac Arddangos os nad oes modd arddangos y tocyn Talu ac Arddangos ar y beic modur.

Disgwylir bod y beiciwr yn cydymffurfio â'r holl amodau fel y cawsant eu nodi ar y peiriant Talu ac Arddangos a sicrhau bod y cerbyd wedi ei barcio’n gyfan gwbl o fewn bae swyddogol wedi ei farcio, gan y byddai methu â chadw at y rheoliadau hyn yn arwain at gyhoeddi Rhybudd Talu Cosb.  

Nid oes parcio diogel ar gyfer beiciau modur, fodd bynnag, mae gennym ddau fae wedi eu marcio’n benodol i ddarparu ar gyfer beiciau modur yn unig (mae'r rhain wedi eu lleoli ym Maes Parcio Stryd Newydd, Yr Wyddgrug).  Er bod camerâu cylch caeedig i’w cael yn rhai o'n meysydd parcio nid ydynt yn cael eu neilltuo ar gyfer rhannau penodol a bydd y camerâu’n cael ei symud o bell yn ôl disgresiwn y swyddfa

Cyfyngiadau Ar y Stryd

Disgwylir hefyd bod y beiciwr yn cadw at y terfynau amser a osodwyd mewn baeau aros cyfyngedig.

Rhaid sicrhau fod pob beic modur yn cael eu parcio yn unol â'r cyfyngiadau sydd mewn grym, ac nad ydynt yn cael eu parcio ar y palmentydd gan achosi rhwystr.

Nid oes caniatâd i barcio beiciau modur mewn parth cerddwyr yn ystod yr oriau rhagnodedig, rhaid i bob beiciwr gadw at y Gorchmynion Rheoli Traffig fel y’u marciwyd ac fel y’u harwyddwyd yn briodol lle bo angen ar y safle.

Dolenni defnyddiol eraill

Cymru ar y Beic – Gwefan am feicio’n ddiogel yng Nghymru sy’n cael ei hysgrifennu a’i rheoli gan feicwyr proffesiynol ar gyfer beicwyr proffesiynol.

BikeSafe – Ei nod yw annog a dysgu gyrwyr beiciau modur mewn amgylchedd diogel a phroffesiynol heb unrhyw wrthdaro.

Rheolau’r Ffordd Fawr – Rheolau i feicwyr modur, gofynion trwydded beic modur, gyrru mewn tywydd garw a mwy.