Alert Section

Hysbysiadau Cosb Benodedig Addysg


Oherwydd absenoldeb o’r ysgol heb ganiatâd

Mae presenoldeb a chyflawniad yn mynd law yn llaw

Os 90% yw presenoldeb myfyriwr ar ddiwedd y flwyddyn ysgol bydd wedi colli pedair wythnos lawn o ysgol.

Os 90% yw ei bresenoldeb bob blwyddyn am 5 mlynedd yn yr ysgol uwchradd, bydd wedi colli hanner blwyddyn ysgol.

  • Golau Coch - O dan 92% - Colli mwy na 3 wythnos o addysg - Colli cyfran sylweddol iawn o addysg sy’n debygol o gael effaith niweidiol ar Gyflawniad a Chyfleoedd Bywyd eich plentyn.
  • Golau Amber - O dan 95% - Colli mwy na phythefnos o addysg - Yn absennol o’r ystafell ddosbarth am hyd at dair wythnos a cholli cryn dipyn o addysg.
  • Golau Gwyrdd - 100% - Heb golli unrhyw wersi yn ystod y tymor - Yn bresennol ym mhob gwers, ym mhob gweithgaredd ac ym mhob cyfnod cymdeithasol.

Pan fo modd dylid trefnu apwyntiadau meddygol a deintyddol y tu allan i oriau ysgol.

Y Gyfraith

Mae Deddf Addysg 1996 yn ei gwneud yn ofynnol i rieni sicrhau bod eu plant oedran ysgol gorfodol yn cael addysg amser llawn effeithlon.

Mae’r gyfraith yn dweud bod Rhieni/ Gofalwyr y mae eu plant o oedran ysgol gorfodol yn absennol o’r ysgol heb reswm da yn cyflawni trosedd.

Gall yr Awdurdod Addysg Lleol roi hysbysiad cosb benodedig am absenoldeb heb awdurdod.

Gellir rhoi hysbysiad cosb benodedig i fyfyriwr sydd wedi bod yn absennol 20 gwaith heb awdurdod. Os bydd myfyriwr yn hwyr yn gyson, bydd hyn yn cyfrif fel achosion o absenoldeb heb ganiatâd.

Os caiff ei thalu o fewn 28 diwrnod, £60 fydd y ddirwy. Os caiff ei thalu ar ôl 28 diwrnod, ond o fewn 42 diwrnod, £120 fydd y ddirwy. Os na chaiff y ddirwy ei thalu’n llawn erbyn diwrnod 43, gellir cymryd camau cyfreithiol yn eich erbyn.

Er y byddwch yn rhoi rheswm dros yr absenoldeb, o bosibl, mae angen i chi ddeall mai’r ysgol sy’n penderfynu a gaiff yr absenoldeb ei gofnodi fel absenoldeb â chaniatâd ynteu absenoldeb heb ganiatâd.

Os bydd unrhyw broblemau, cysylltwch â’r ysgol ar unwaith.

Ffeithiau Presenoldeb

Os yw presenoldeb eich plentyn yn yr ysgol yn 100% bydd yn gallu gwneud y gorau o’r holl gyfleoedd sydd ar gael - Mae plant sydd â phresenoldeb da iawn yn fwy tebygol o ennill 5 TGAU neu ragor gyda graddau A* i C neu gymwysterau cyfwerth.

presenoldeb o 91.1% = colli 17 diwrnod o’r ysgol mewn un flwyddyn - Mae colli 17 diwrnod mewn blwyddyn hefyd yn golygu gostwng 1 gradd TGAU (ar gyfartaledd).

Mae plant â phresenoldeb gwael yn llai tebygol o ennill 5 TGAU gyda graddau A* - C - presenoldeb o 82.1% = colli 34 diwrnod o’r ysgol mewn un flwyddyn.

Bydd presenoldeb gwael yn cael effaith ddifrifol ar addysg, moeseg gwaith a chyfleoedd bywyd.

Gwyliau

Mae cyfanswm o 175 o ddiwrnodau nad ydynt yn ddiwrnodau ysgol mewn blwyddyn. Mae hyn yn rhoi cyfle i deuluoedd:

  • Dreulio amser gyda’i gilydd
  • Mynd ar ymweliadau teuluol a iwrnodau allan
  • Mynd ar wyliau
  • Mynd i siopa
  • Mynychu apwyntiadau rheolaidd

Ni roddir caniatâd i fyfyrwyr fod yn absennol oni bai fod amgylchiadau eithriadol.

Y Pennaeth sy’n penderfynu a ddylid caniatáu absenoldeb o’r fath.

Mae cymryd gwyliau yn ystod y tymor yn cael effaith ddifrifol ar bresenoldeb eich plentyn ac, yn ei dro, ar ei gyflawniad.

Os ewch ar wyliau heb ganiatâd, mae’n bosibl y cewch Hysbysiad Cosb Benodedig.

Rhowch flaenoriaeth i bresenoldeb. Os oes unrhyw broblemau, cysylltwch â’r ysgol ar unwaith.

Talu

Bydd y trefniadau talu wedi’u nodi ar yr hysbysiad cosb ac ar wefan Cyngor Sir y Fflint.

Os na chaiff yr hysbysiad cosb ei dalu, cewch eich erlyn o dan Adran 444 o Ddeddf Addysg 1996.

Ceir mwy o fanylion yng Nghod Ymddygiad Lleol Cyngor Sir y Fflint.

Os ydych yn ofni nad yw eich plentyn wedi mynychu’r ysgol, ffoniwch yr ysgol ar unwaith.

Os oes gennych UNRHYW bryderon am bresenoldeb, mae croeso i chi gysylltu â’r ysgol neu’r Swyddog Lles Addysg ar gyfer eich ysgol.

Mae manylion y Swyddog Lles Addysg ar gyfer eich ysgol ar gael yn y dderbynfa.

Cod Ymddygiad

Canllawiau ar gyfer hysbysiadau cosb am golli’r ysgol yn rheolaidd - Llywodraeth Cymru

Offerynnau Statudol Cymru

Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, cysylltwch â’ch Pennaeth neu

Wasanaeth Lles Addysg,
Cyngor Sir y Fflint,
Neuadd y Sir,
Yr Wyddgrug
CH7 6ND

Ffon: 01352 704137
Ebost: education.welfare.service.referrals@flintshire.gov.uk

Am fwy o wybodaeth am y gwasanaeth hwn cyflwynwch ymholiad.