Cynlluniau Chwarae Haf Sir y Fflint
Hwrê, mae hi’n haf!
Bydd Cynlluniau Chwarae’r Haf Sir y Fflint yn cael eu darparu mewn partneriaeth â chynghorau tref a chymuned lleol a Llywodraeth Cymru.
Mae mwyafrif ein tîm yn staff sydd yn dychwelyd o gynllun chwarae 2021. Maent wedi cael gwiriad manylach y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a byddant wedi cwblhau rhaglen hyfforddiant llawn a chynhwysfawr. Mae’r hyfforddiant yn cynnwys Rheoli Risg; Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle; Cymorth Cyntaf; Amddiffyn Plant; Diogelu ac Ymwybyddiaeth o Anableddau.
Bydd yr holl weithgareddau a gemau yn cael eu trefnu mewn cydymffurfiaeth â Chanllawiau Llywodraeth Cymru ar gyfer darparu cynlluniau chwarae mynediad agored yn ddiogel.
Rhoddwyd ystyriaeth i’r gofod sydd ar gael a chymarebau staff a phlant ar y safle. Bydd asesiad risg llawn o bob gofod chwarae a’r holl weithgareddau posibl wedi’u cyflawni gan y tîm Datblygu Chwarae cyn yr haf.
Bydd rhieni a gofalwyr yn gallu cofrestru ar-lein o 1 Gorffennaf ymlaen. Bydd cofrestru ymlaen llaw yn orfodol ar gyfer bob safle. Ar ôl cwblhau’r broses gofrestru, byddwch yn derbyn e-bost yn cadarnhau a fydd yn cynnwys rhagor o fanylion.
Cofrestru Ar-lein
DYDDIADAU: Dydd Iau 21 Gorffennaf - dydd Mercher 31 Awst (yn ystod yr wythnos)
HYD: Gall nifer yr wythnosau ar safleoedd amrywio o 3, 4, 5 neu wythnos yn dibynnu ar leoliad, mae’r rhain wedi’u nodi mewn cromfachau ger pob safle. Bydd rhestr safleoedd 2022 hefyd yn nodi os yw safleoedd yn cyflwyno darpariaeth yn y bore (10:30am - 12:30pm) neu yn y prynhawn (2 - 4pm)
Rhestr Safleoedd – rhestr safleoedd ar gael yma
DIM COST: Mae’r holl sesiynau am ddim.
OEDRAN: 5 – 12 OED – POB SAFLEHEBLAW 5-11 OED – QUAYPLAY, CEI CONNAH, CENTRAL PARK YN UNIG
CYNLLUN CYFEILLIO: 5 - 17 OED
Bydd y sesiynau chwarae’n cael eu darparu gan Dîm Datblygu Chwarae Sir y Fflint.
Cysylltwch â:
- cynllunchwaraesyff@siryfflint.go.uk neu 01352 704154 (Cymraeg)
- FCCsummerplayschemes@flintshire.gov.uk neu 01352 704155 (Saesneg)
Cynllun Cyfeillio Sir y Fflint – mwy o wybodaeth
Mae Cynllun Cyfeillio Sir y Fflint yn darparu cefnogaeth ar gyfer Plant gydag Anableddau i fynychu eu safle cynllun chwarae lleol. Fel y blynyddoedd blaenorol, bydd Cynllun Cyfeillio Sir y Fflint yn rhan annatod o gynllun chwarae'r haf yn rhoi cefnogaeth 1–1 i blant ag anableddau. Bydd angen i Rieni a Gofalwyr plant sy'n mynychu'r Cynllun Cyfeillio lenwi eu cofrestriad safle ar-lein a llenwi ffurflen atgyfeirio ychwanegol.
Cysylltwch â:
- cynllunchwaraesyff@siryfflint.go.uk neu 01352 704154 (Cymraeg)
- FCCsummerplayschemes@flintshire.gov.uk neu 01352 704155 (Saesneg)