Prydau Ysgol Am Ddim Cyffredinol i Ddisgyblion Cynradd (UPFSM) - Mae Llywodraeth Cymru yn anelu at sicrhau fod pob plentyn sy’n mynychu ysgolion cynradd yng Nghymru yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim o dan y cynllun prydau ysgol am ddim cyffredinol mewn ysgolion cynradd (UPFSM) erbyn 2024, waeth beth fo lefel incwm y cartref. Ni fydd unrhyw ffurflenni i’w llenwi. Nid yw derbyn prydau ysgol am ddim o dan y cynllun UPFSM yn golygu bod gan deuluoedd hawl awtomatig i dderbyn budd-daliadau eraill megis grantiau gwisg ysgol.
Prydau Ysgol Am Ddim (eFSM) - Mae rhai teuluoedd sy’n bodloni meini prawf penodol, er enghraifft y rhai ar incwm is neu’n cael budd-daliadau penodol, yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim (e-FSM).
Ar ôl gwneud cais llwyddiannus am eFSM yna mae teuluoedd yn gymwys i gael budd-daliadau eraill ar gyfer cost hanfodion ysgol megis grantiau gwisg ysgol (GAD).
Er y bydd UPFSM yn cael ei gyflwyno ym Medi 2022, a bydd grwpiau blwyddyn cymwys yn cael prydau ysgol am ddim, dylai teuluoedd sy’n gymwys ar gyfer eFSM barhau i ddefnyddio’r broses ymgeisio eFSM i sicrhau nad ydynt yn colli unrhyw fudd-daliadau eraill.
I gael mwy o wybodaeth am eFSM a grantiau gwisg ysgol ewch i:
https://www.siryfflint.gov.uk/cy/Resident/Council-Tax/Free-School-Meals-and-Uniform-Grants.aspx
Yn ogystal â theuluoedd, gall ysgolion hefyd elwa o eFSM. Ar gyfer bob plentyn sy’n gwneud cais ac yn cael eFSM, gall eu hysgol hefyd gael arian i dalu am hanfodion ysgol er budd y dysgwyr.