Rhwydwaith Ysgolion Cymru sy'n Hyrwyddo Iechyd a Lles
Mae Rhwydwaith Ysgolion Cymru sy’n Hyrwyddo Iechyd a Lles wedi bod yn cefnogi ysgolion i fewnosod dull ysgol gyfan mewn perthynas ag iechyd a lles ers diwedd y naw degau. Mae bron pob ysgol yng Nghymru wedi cymryd rhan yn, ac yn parhau i fod yn rhan o’r rhaglen, a alwyd yn y gorffennol yn Rhwydwaith Cynlluniau Ysgolion Iach Cymru.
Nod y cynllun yw cynnig cefnogaeth ar gyfer gwella ysgolion drwy sefydlu hinsawdd ysgolion iach, lle mae iechyd a lles gwell yn cael ei adlewyrchu mewn safonau addysgol uwch, a lle mae pob aelod o’r gymuned yn cael ei werthfawrogi a’i gefnogi yn eu datblygiad. Mae hyrwyddo iechyd mewn ysgolion yn gyfuniad o addysg iechyd o fewn y cwricwlwm, a phob cam gweithredu arall y mae’r ysgol yn ei gymryd i amddiffyn a gwella iechyd pawb ynddi. Mae’r gymuned ehangach yn cael ei chynnwys yn y gwaith cynllunio, gweithredu, gwerthuso a dathlu.
Mae Ysgolion Cymru sy’n Hyrwyddo Iechyd a Lles yn ddull cydweithredol o weithio rhwng Iechyd ac Addysg, sy’n cydnabod bod buddion ar y cyd i iechyd a chyraeddiadau pob ifanc, i’w hennill drwy weithio mewn partneriaeth. Mae’r tîm lleol yn gweithio’n uniongyrchol gydag ysgolion, gan ddefnyddio pecynnau, safonau a chanllawiau cenedlaethol.
Mae’r rhaglen wedi cael ailstrwythuriad cenedlaethol i gyd-fynd â Chwricwlwm i Gymru. Mae Rhwydwaith Ysgolion Cymru sy’n Hyrwyddo Iechyd a Lles wedi ymrwymo i gefnogi ac annog twf a gweithrediad Cwricwlwm i Gymru mewn ysgolion, yn ychwanegol ar sicrhau bod blaenoriaethau iechyd cenedlaethol yn cael eu hystyried ym mywyd dyddiol pob ysgol ar gyfer disgyblion, staff a’r gymuned ehangach. Bydd hyn yn gwneud y mwyaf o’r posibilrwydd o gael dull ysgol gyfan o weithio tuag at wella iechyd a lles a lleihau anghydraddoldeb a chanlyniadau addysgol.
Pam dod yn Ysgol sy’n Hyrwyddo Iechyd a Lles?
Mae Penaethiaid ac athrawon eisiau codi safonau mewn ysgolion, ond byddai rhai yn cwestiynu beth sydd gan ysgol iach ei wneud gyda chodi safonau addysg. Mae ysgol iach yn ysgol hapus. Mae ysgol effeithiol yn ysgol iach. Mae’n hyrwyddo iechyd corfforol, meddyliol ac emosiynol, nid yn unig drwy ddarparu hawl i wybodaeth am ffactorau sy’n dylanwadu ar iechyd, ond hefyd yn darparu sgiliau ac agweddau i ddisgyblion fel y gallant wneud penderfyniadau gwybodus.
Mae cymryd rhan yn y cynllun yn cynnwys cefnogaeth gan dîm yr awdurdod lleol yn gyfnewid am ymrwymiad yr ysgol i ganolbwyntio ar feysydd i’w gwella, sydd wedi cael eu nodi drwy gyfres o isafswm o safonau craidd. Mae’r tîm yn cefnogi ysgolion wrth gynllunio a darparu rhaglen effeithiol o addysg iechyd, ac o ganlyniad yn gwella ansawdd y dysgu ac addysgu, a hefyd yn gwella perthnasau rhwng yr ysgol, ei ddisgyblion, rhieni, staff, llywodraethwyr ac asiantaethau allanol.
I gael rhagor o wybodaeth:
Dilynwch ni ar
Cysylltwch â ni ysgolioniach@siryfflint.gov.uk