Alert Section

Archebu cynnyrch mislif am ddim i'r cartref

Os ydych yn 8-18 oed ac yn mynychu ysgol yn Sir y Fflint, cwblhewch y ffurflen gan ddilyn y ffurflen.

Pobl Ifanc

Yn Sir y Fflint, mae pob ysgol Gynradd ac Uwchradd yn derbyn cyfran o’r cyllid hwn i gefnogi eu dysgwyr. Gall pob ysgol wario eu cyllid ychydig yn wahanol, ond mae ganddynt oll yr un amcan o ddarparu cynnyrch mislif am ddim i’w dosbarthu yn y ffordd fwyaf ymarferol ac urddasol â phosibl.

Cynnyrch mislif y gellir eu hailddefnyddio yn syth i’ch drws!

Fel Cyngor, rydym wedi ymrwymo i fod yn Garbon Niwtral erbyn 2030 felly rydym eisiau gallu eich cefnogi chi i ddefnyddio cynnyrch y gellir eu hailddefnyddio ac sy’n gyfeillgar i’r amgylchedd. Trwy’r ffurflen archebu isod, gallwch ddewis pecyn cynnyrch y gellir eu hailddefnyddio er mwyn rheoli eich mislif.

Os ydych yn 8-18 oed ac yn mynychu ysgol yn Sir y Fflint, cwblhewch y ffurflen gan ddilyn y ddolen (neu gofynnwch i riant/gofalwr gwblhau’r ffurflen i chi). 

Gwasanaeth Archebu i’r Cartref ar gyfer Cynnyrch Mislif y gellir eu Hailddefnyddio

Am ragor o wybodaeth ynghylch cynnyrch mislif y gellir eu hailddefnyddio