Alert Section

Darpariaethau Cymunedol a Chlybiau Pontio

Darpariaethau Cymunedol

Cyflwynir ein Darpariaethau Cymunedol yn ystod yr wythnos mewn nifer o ardaloedd ledled Sir y Fflint ar gyfer plant 5-15 mlwydd oed, fel arfer rhwng 4:00yp a 5:30yp.

Lle ydym ni?

  • Dydd Llun – Holway, Meadowbank
  • Dydd Mawrth – Mostyn, Ysgol Bryn Pennant (3:30pm – 5:00pm) / Bwcle, Maes Chwarae Nant Mawr
  • Dydd Mercher – Penyffordd, Maes Chwarae (Treffynnon)

Beth i’w ddisgwyl…

  • Mae ein darpariaethau’n caniatáu i blant gael cyfleoedd chwarae cyfartal yn yr awyr agored.
  • Mae gan blant yr hawl i gael cyfleoedd i chwarae â chymhelliant greddfol, lle mae ganddynt y rhyddid i ddewis a lle maent yn arwain y chwarae eu hunain – fel y nodir yn Egwyddorion Gwaith Chwarae ac Erthygl 31 Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn.
  • Amgylchedd diogel a chynhwysol i ennill sgiliau newydd, magu hyder a ffynnu gyda chreadigrwydd.

Nodau ac Amcanion

  • I blant brofi ystod o gyfleoedd chwarae, gan ddefnyddio mannau yn yr awyr agored gydag amrywiaeth o adnoddau chwarae.
  • Gwella gwytnwch a chefnogi lles emosiynol trwy weithgarwch corfforol a rhyngweithio cymdeithasol.
  • Meithrin perthnasoedd cadarnhaol gyda’r plant a’r teuluoedd yn ein cymunedau, gyda chytgord cadarn fel tîm.

Gweithgareddau

  • Chwarae dan arweiniad y plentyn
  • Chwarae rhannau rhydd
  • Celf a chrefft
  • Gemau chwaraeon
  • Gwneud breichledi paracord
  • Adeiladau cuddfan

Gwneud cais am Ddarpariaethau Cymunedol

Clybiau Pontio

Darperir ein Clybiau Pontio yn ystod yr wythnos mewn clybiau ieuenctid yn Sir y Fflint, ar gyfer plant 9-13 mlwydd oed yn bennaf, rhwng 4:00yp a 5:30yp.

Lle ydym ni?

  • Dydd Llun – Maes Glas (Canolfan Gymunedol Maes Glas, Maes Glas)
  • Dydd Mawrth – Sealand (Darpariaeth Awyr Agored – Canolfan Ieuenctid Sealand, Garden City)
  • Dydd Iau – Coed-llai (Clwb Ieuenctid Coed-llai, Ysgol Derwenfa)

Beth i’w ddisgwyl…

  • Mae ein clybiau’n caniatáu i blant gael cyfleoedd chwarae cyfartal mewn lleoliad clwb ieuenctid.
  • Cyfle i gymdeithasu a gwneud ffrindiau newydd.
  • Amgylchedd diogel a chynhwysol i ennill sgiliau newydd, magu hyder a ffynnu gyda chreadigrwydd.
  • Lle i ddysgu trwy bynciau addysgol a chwareus, trwy ddiwrnodau ymwybyddiaeth a dathliadau byd-eang.

Nodau ac Amcanion

  • Cefnogi plant sy’n pontio o’r Ysgol Gynradd i’r Ysgol Uwchradd.
  • Grymuso plant a phobl ifanc drwy weithgareddau chwarae, gan ddefnyddio man diogel i gymdeithasu.
  • Helpu i ddatblygu hyder a dysgu rolau a chyfrifoldebau newydd i blant.

Gweithgareddau

  • Pŵl
  • Chwarae rhannau rhydd
  • Celf a chrefft
  • Disgo tawel
  • Gwneud breichledi paracord
  • Gêm Osgoi’r Bêl
  • Heriau mewn grŵp

Gwneud cais am Glybiau Pontio