Dychwelyd i'r Ysgol – Cwestiynau Cyffredin
Diweddariad am y trefniadau ar gyfer presenoldeb cyfyngedig o’r 22 Chwefror 2021Bydd ysgolion cynradd yn cynnig darpariaeth addysg ar y safle i:
• ddysgwyr yn y Cyfnod Sylfaen
• dysgwyr diamddiffyn ym mlynyddoedd 3-6
• plant i weithwyr allweddol ym mlynyddoedd 3-6
Bydd peth hyblygrwydd ynglŷn â hyn yn ystod yr wythnos gyntaf, gyda phob Dysgwr Cyfnod Sylfaen yn dod yn ôl i dderbyn addysg erbyn 26ain Chwefror. Mae ysgolion unigol wedi cyfathrebu gyda rhieni ynglŷn â hyn.
Bydd ysgolion uwchradd yn parhau i ddarparu mynediad i ddarpariaeth addysg ar y safle ym mhob blwyddyn ysgol i:
• ddysgwyr diamddiffyn
• plant i weithwyr allweddol
• dysgwyr sy’n gwneud arholiadau neu asesiadau hanfodol
Bydd pob dysgwr arall yn dal i gymryd rhan mewn dysgu o bell.
Mae ein hysgol gynradd arbennig, Ysgol Pen Coch, wedi bod yn cynnig cyfuniad i’r HOLL ddysgwyr o wythnos o ddysgu wyneb yn wyneb ac yna wythnos yn dysgu o’r cartref ar sail rota ers mis Ionawr. Bydd hyn yn parhau ar gyfer wythnos 22-26ain Chwefror i gwblhau’r cylch olaf.
O’r 1af Mawrth bydd pob dysgwr Cyfnod Sylfaen yn dychwelyd i Ysgol Pen Coch llawn amser. Bydd y trefniadau rota yn parhau ar gyfer dysgwyr ym mlynyddoedd 3-6.
Bydd ein hysgol uwchradd arbennig, Ysgol Maes Hyfryd yn parhau gyda’i threfniant presennol o ddarparu dysgu cyfunol sef wythnos o ddysgu wyneb yn wyneb ac yna wythnos yn dysgu o gartref yn ôl trefn rota.
Bydd ein Huned Cyfeirio Disgyblion, Plas Derwen yn parhau gyda’i threfniadau presennol i bob disgybl.
Yn ystod yr amser hwn bydd cyfyngiadau lefel rhybudd 4 Llywodraeth Cymru yn parhau. Y tu allan i’r ysgol bydd yn bwysig fod staff, plant a’u teuluoedd yn dal i aros adref gymaint â phosibl ac yn cyfyngu ar eu cyswllt gydag eraill.
Nid oes raid i blant ysgol gynradd wisgo gorchudd wyneb i’r ysgol nac ar gludiant ysgol.
Dylai plant uwchradd sy’n cael mynediad at ddysgu wyneb yn wyneb o dan y meini prawf a amlinellir uchod, wisgo gorchudd wyneb ar gludiant i'r ysgol ac mewn unrhyw le ar dir yr ysgol lle na ellir cadw pellter cymdeithasol. Ni ddylai dysgwyr oedran uwchradd wisgo gorchudd wyneb wrth redeg o gwmpas neu chwarae gemau egnïol.
Dylai ymwelwyr â’r ysgol wisgo gorchudd wyneb, gan gynnwys rhieni a gofalwyr sy’n nôl a danfon dysgwyr, a dylent gadw pellter cymdeithasol wrth aros am eu plant.
Efallai y bydd rhai ysgolion a lleoliadau’n teimlo ei bod yn briodol llacio’r polisi gwisg ysgol pan fydd dim ond rhai categorïau o ddysgwyr yn bresennol yn yr ysgol a thra mae siopau gwisg ysgol a siopau dillad cyffredinol yn gorfod cau o dan lefel rhybudd 4. Penderfyniad i ysgolion unigol fydd hyn.
Rydym yn annog disgyblion i ddod â’u poteli dŵr eu hunain gyda nhw i’r ysgol. Bydd ysgolion unigol wedi ystyried y ffordd fwyaf diogel o roi dŵr i ddisgyblion os ydyn nhw’n anghofio dod â’u potel eu hunain, neu os ydyn nhw angen ail lenwi eu potel.
Dylai disgyblion barhau i gyfyngu ar yr eitemau maen nhw’n eu cludo o’u cartref. Gellir dod ag eitemau megis beiros a phensiliau ond chaniateir eu rhannu ag eraill. Bydd ysgolion yn sicrhau fod adnoddau eraill ar gyfer yr ystafell ddosbarth yn cael eu glanhau’n aml.
Bydd ysgolion yn parhau i gofnodi presenoldeb ar y gofrestr ac yn cwestiynu absenoldeb dysgwyr y disgwylir iddynt fod yn yr ysgol, ond pan fydd rhiant/gofalwr yn dymuno i’w blentyn fod yn absennol, mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i ysgolion awdurdodi absenoldeb yn ystod y cyfnod hwn. Ni chosbir absenoldeb.
Ydy, i’r disgyblion sydd â’r hawl i dderbyn cludiant am ddim. Bydd pob ffordd o gludo i'r ysgol gynradd yn gweithredu o ddydd Llun 22ain Chwefror.
Bydd, mae arlwyo NEWydd yn gallu cynnig gwasanaeth prydau bwyd llawn i bob ysgol fel y gall rhieni brynu pryd ysgol i’w plant os ydyn nhw’n dewis neu roi pecyn cinio iddynt.
Bydd teuluoedd dysgwyr y Cyfnod Sylfaen yn derbyn taliad uniongyrchol ar gyfer yr wythnos 22ain-26ain Chwefror er mwyn talu am y cyfnod cam wrth gam o ddychwelyd i’r ysgol dros yr wythnos honno. Ond, bydd pryd ysgol am ddim hefyd ar gael i unrhyw ddysgwr Cyfnod Sylfaen sy’n bresennol yn yr ysgol ac felly does dim angen i rieni ddarparu pecyn cinio o’u taliad uniongyrchol.
O ddydd Gwener 26ain Chwefror bydd pob taliad ar gyfer dysgwyr Cyfnod Sylfaen yn dod i ben. O ddydd Llun 1af Mawrth bydd pob darpariaeth ar gyfer prydau bwyd i ddysgwyr y Cyfnod Sylfaen yn digwydd yn yr ysgol.
Bydd y taliadau uniongyrchol i blant mewn grwpiau oedran eraill sydd a’r hawl i dderbyn prydau ysgol am ddim yn parhau.
Oes. Gall rhieni sydd fel arfer yn defnyddio cyfuniad o ysgol rhan amser a gofal plant i’w galluogi i barhau â’u trefniadau gwaith, ddal i gael mynediad at y gwasanaethau hyn. Bydd angen i rieni gadarnhau eu gofynion gofal plant gyda’u darparwr arferol a rhoi gwybod i’r ysgol. Bydd hyn yn galluogi ysgolion a lleoliadau gofal plant i gydweithio er mwyn lleihau nifer y swigod cyswllt y bydd y plant yn rhan ohonynt er mwyn lleihau lledaeniad y firws.
Ni ddylai dysgwyr sy’n hunan-ynysu fynychu’r ysgol.
Cynghorir dysgwyr sy’n hynod glinigol ddiamddiffyn hefyd i beidio â dod i’r ysgol.
Dylai ysgolion roi gwybod i’r ysgol am y rheswm pam mae’r plentyn yn absennol fel y gellir cadw’r cofrestrau’n gywir.