Ysgolion cyfrwng Cymraeg
Pam dewis Cymraeg?
Mae’n siŵr o fod yn un o’r penderfyniadau anoddaf y byddwch erioed yn ei wneud – felly pam dewis Cymraeg? Mae nifer o fanteision, ond peidiwch â chymryd ein gair ni’n unig, gwyliwch y fideos hyn i weld yr hyn sydd gan rieni a disgyblion eraill ei ddweud.
Beth bynnag iaith yr ydych yn siarad gartref, gall addysg cyfrwng Cymraeg gynnig cyfleoedd, profiadau a sgiliau ychwanegol i’ch plentyn.
Mae ysgolion Cymraeg yn brofiadol iawn o ran cefnogi'r disgybl a’r rhieni. Bydd athro/athrawes eich plentyn yn hapus i'ch helpu gyda gwaith cartref eich plentyn, a bydd gwaith cartref yn cael ei anfon adref yn ddwyieithog. Mae ymchwil yn awgrymu bod delio â'u gwaith mewn dwy iaith yn helpu plant i ddeall y pwnc maent yn ei astudio a gall arwain at ddysgwyr mwy annibynnol.
Yn wahanol i’r gred gyffredinol, mae addysg cyfrwng Cymraeg yn cael effaith gadarnhaol ar Saesneg y disgybl a’r nod syml yw galluogi plant i ddod yn gwbl rhugl a hyderus yn Saesneg a Chymraeg.
Os ydych angen mwy o wybodaeth, ewch i https://cymraeg.gov.wales/learning/schools/?lang=cy.
Mae llawer o fanteision o fod yn ddwyieithog. Mae’n ddefnyddiol iawn fel sgil yn y gweithle, mae’r gallu i siarad Cymraeg yn sgil hanfodol neu ddymunol ar gyfer nifer cynyddol o swyddi.
Mae mwy o alw heddiw nac erioed am sgiliau dwyieithog mewn amrywiaeth o feysydd megis iechyd, addysg, hamdden, gofal plant, manwerthu a gwasanaethau cyhoeddus.
Gall siarad Cymraeg gynorthwyo eich plant i adeiladu dealltwriaeth o'u cymuned ehangach a'u lle o fewn y gymuned.
Mae Cymraeg yn darparu mynediad i blant at ddiwylliant – gan gynnwys llenyddiaeth, cerddoriaeth, cyfryngau digidol, a nifer o bethau eraill – nad ydynt ar gael iddynt fel arall.
Ar gyfer rhai pobl, mae dewis addysg cyfrwng Cymraeg yn seiliedig ar brofiadau personol: maent yn adnabod pobl sy'n ddwyieithog neu sydd â phlant dwyieithog, ac felly eisiau sicrhau bod eu plant nhw yn gallu bod yn rhan o’r gymuned Gymraeg, wrth fod yn gwbl gartrefol yn y Saesneg hefyd.