Mae amrywiaeth o ffynonellau data yn llywio gwaith Sir y Fflint Ifanc a'r broses o wneud penderfyniadau.
 
Mae crynodeb o rai enghreifftiau o'r ffynonellau data isod:
Arolwg 3 Mater
Caiff yr ‘arolwg 3 mater’ ei gydlynu gan Gyngor yr Ifanc. Gwahoddir pobl ifanc 11-18 oed ledled Sir y Fflint i rannu eu tri phwnc pwysicaf y maent yn teimlo y mae angen eu harchwilio ymhellach ar gyfer pobl ifanc. Gellir gweld y ‘3 mater’ a nodwyd ar gyfer 2025-2026 isod, ynghyd â’r tair blaenoriaeth a nodwyd ym mis Ebrill 2024 ar gyfer 2024-2025.
‘3 mater’ 2025-2026
‘3 mater’ 2025-2026
| Rhif | Mater | 
| 1 | 
Ymddygiad Gwrthgymdeithasol a Gweithgarwch Troseddol (Ymladd, bygwth, gyrru'n beryglus, fandaliaeth, troseddau cyllyll. Ofn gadael cartref) | 
| 2 | 
Defnyddio sylweddau (Canabis, E-sigaréts, Alcohol. Arogl cryf iawn y tu allan) | 
| 3 | 
Diffyg mannau a rennir / adloniant (Gorfod ymgynnull mewn mannau nad ydyn nhw'n teimlo'n gartrefol, bod y tu allan pan nad yw'n teimlo'n ddiogel) | 
‘3 Maters’ 2024-2025
‘3 Maters’ 2024-2025
| Rhif | Mater | 
| 1 | 
Iechyd Meddwl a Lles  | 
| 2 | 
Ysgol ac Addysg  | 
| 3 | 
Y Gymuned a Diogelwch | 
Gellir gweld crynodeb o'r gwaith y mae Sir y Fflint Ifanc wedi bod yn rhan ohono yn ystod 2024-2025 drwy ddilyn y dolenni isod:
Adroddiad Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion
Mae'r Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion yn bartneriaeth polisi-arfer-ymchwil rhwng Llywodraeth Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru, a Phrifysgol Caerdydd, a sefydlwyd yn 2013. Mae’r Rhwydwaith yn cydlynu arolwg iechyd a lles a gwblheir bob dwy flynedd gan ddisgyblion ysgolion uwchradd ledled Cymru. Mae'r data a gesglir yn genedlaethol, yn rhanbarthol ac yn lleol yn helpu i lunio polisi ac arfer. Mae ysgolion ac awdurdodau lleol yn cael adroddiadau data i alluogi iechyd a lles, monitro a chynllunio camau gweithredu.
Adroddiad Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion
Cyfleoedd Chwarae Digonol
Mae'r arolwg hwn yn helpu awdurdodau lleol i ddarparu digon o gyfleoedd chwarae i blant yn eu hardal.
Cyfleoedd Chwarae Digonol