Alert Section

Model Cyfranogi Sir y Fflint Ifanc

Mae Sir y Fflint Ifanc yn fodel llais ar gyfer pobl ifanc, lle caiff materion sy'n cael eu codi gan bobl ifanc eu rhoi gerbron rhai sy'n gwneud penderfyniadau a gall pobl ifanc roi adborth ar fentrau presennol a newydd ar draws y Cyngor.

Bydd Cyngor yr Ifanc Sir y Fflint a thri chynrychiolydd (11 - 18 oed) o Gyngor Ysgol pob ysgol uwchradd yn Sir y Fflint yn cyfrannu at Sir y Fflint Ifanc.  Cefnogir y fforwm gan Swyddogion y Gwasanaeth Ieuenctid a Swyddogion Ysgolion sy'n Hyrwyddo Iechyd.

Sir y Fflint Ifanc
Cyngor yr Ifanc

Gwahoddir 2 gynrychiolydd i gyfarfodydd ffurfiol.

Cynghorau Ysgolion Uwchradd

Gwahoddir 3 gynrychiolydd i gyfarfodydd ffurfiol.

Y daith i gyrraedd heddiw

Mae Cyngor yr Ifanc wedi cael ei sefydlu ers blynyddoedd lawer dan oruchwyliaeth y Gwasanaeth Ieuenctid. Mae'r tîm yn siarad â gwahanol grwpiau o bobl ifanc rhwng 11 a 25 oed sydd am i'w llais gael ei glywed ac yn siarad â’r sawl sy’n gwneud penderfyniadau.

Mae gan ysgolion uwchradd fodel Cyngor Ysgol neu Senedd sy'n arwain ar lais y disgybl, a grwpiau llais y dysgwr eraill ym mhob lleoliad ysgol. Drwy Ysgolion Iach Sir y Fflint yn cynnal gwaith llais y dysgwr ar ddarpariaeth Bwyd a Diod a meysydd eraill lle bydd cynrychiolwyr o bob ysgol yn bresennol, ymddengys fod cyfle i gryfhau llais pobl ifanc a siarad â’r sawl sy’n gwneud penderfyniadau yn fwy rheolaidd.

I gryfhau llais pobl ifanc yn Sir y Fflint, cafodd model ei dreialu yn ystod haf 2024 ble bu Cyngor yr Ifanc a Chynghorau Ysgol yn cydweithio i arwain ar lais pobl ifanc ar draws Sir y Fflint.

Ym mis Mehefin 2024, gwahoddwyd dau ddysgwr o bob Cyngor Ysgol Uwchradd a chynrychiolwyr o Gyngor yr Ifanc i Neuadd y Sir, i archwilio’r canfyddiadau allweddol o Ymgynghoriad y Gwanwyn ‘3 Mater’ pobl ifanc. Yna, cawsant y dasg o gynnal ymgynghoriad o fewn eu hysgolion a lleoliadau cymunedol ar:

  • Iechyd Meddwl a Lles
  • Ysgol ac Addysg
  • Y Gymuned - Amwynderau a Diogelwch

Cadeiriodd y Cynghorydd Mared Eastwood gyfarfod dilynol ym mis Gorffennaf 2024 gyda'r dysgwyr i adolygu'r canfyddiadau gyda swyddogion dirprwyedig o'r awdurdod lleol. Rhannwyd eu hymatebion, eu mentrau, a gwybodaeth berthnasol arall ynghylch y materion a amlinellwyd yn yr adroddiadau.

Mae mwy o wybodaeth am y cynllun peilot ar gael drwy ddilyn y dolenni:

Yn nhymor yr hydref 2024, cynhaliwyd lansiad swyddogol Sir y Fflint Ifanc. Parhaodd y rhaglen waith ar gyfer 2024-2025 i ganolbwyntio ar y '3 mater'. Mae mwy o wybodaeth am y rhaglen waith ar gyfer 2024-2025 ar gael drwy ddilyn y dolenni isod: