Alert Section

Warant i Bobl Ifanc

Ym mis Tachwedd 2021, roedd Llywodraeth Cymru wedi datgelu Gwarant i Bobl Ifanc – ymrwymiad y byddai pawb dan 25 oed yng Nghymru yn cael cynnig cefnogaeth i gael lle mewn addysg neu hyfforddiant, dod o hyd i swydd neu ddod yn hunangyflogedig.

Cafodd yr ymrwymiad ei wneud mewn ymateb i’r pandemig, er mwyn lleihau effeithiau COVID a rhoi cymorth i bobl ifanc i ddilyn eu nodau gyrfa.

Cymru’n Gweithio yw’r porth i’r Warant i Bobl Ifanc a’r ffordd y bydd pobl ifanc yn gallu cael gafael ar y gefnogaeth sydd ar gael. Bydd yn adeiladu ar ei fodel cryf a llwyddiannus sydd eisoes ar waith o ddarparu cyfarwyddyd gyrfa a chymorth cyfeirio

Darllenwch am y Warant i Bobl Ifanc ar wefan Cymru’n Gweithio