Alert Section

Mabwysiadu


Mae mabwysiadu yn ymrwymiad gydol oes ac mae ein plant angen teuluoedd parhaol, sefydlog a gofalgar. Mae llawer o’n plant wedi cael cychwyn heriol ac maent yn haeddu cyfle i fyw plentyndod hapus a bodlon''. Er mwyn mabwysiadu mae rhaid i chi fod dros 21 mlwydd oed, ond nid oes terfyn oedran uchaf, yn byw bywyd sefydlog gyda rhwydwaith cefnogol cryf o deulu a ffrindiau a’r gallu feithrin. Gallwch fod yn sengl, yn briod, mewn partneriaid sifil neu yn byw gyda phartner, a does dim rhaid i chi fod yn berchen ar eich cartref eich hun.

Mae Gwasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru yn bartneriaeth rhwng timau mabwysiadu’r awdurdod lleol yn Wrecsam, Sir y Fflint, Sir Ddinbych, Conwy, Gwynedd ac Ynys Môn.Nod y Gwasanaeth yw gwneud y broses fabwysiadu yn fwy effeithlon ac effeithiol drwy ehangu’r ffynhonnell o fabwysiadwyr ar gyfer y plant yng Ngogledd Cymru.

Am fwy o wybodaeth ewch i 'Gwasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru' neu ffoniwch 0800 085 0774.