Alert Section

Amddiffyn Plant


Dylai unrhyw un sydd â phryderon neu amheuon am blentyn yn Sir y Fflint yn cael ei niweidio gysylltu â’r 

Gweithiwr Cymdeithasol ar Ddyletswydd, y Tîm Dyletswydd ac Asesu, Gwasanaethau Cymdeithasol i Blant, Swyddfeydd y Sir, Stryd y Capel, Y Fflint, CH6 5BD. 

Rhif Ffôn: 01352 701000

Os hoffech chi gysylltu y tu allan i oriau swyddfa, ffoniwch y Gweithiwr Cymdeithasol ar Ddyletswydd ar: 0345 053 3116.

Byddwn yn trafod eich pryderon gyda chi ac yn gofyn am gymaint o wybodaeth â phosibl.  Byddwn yn ymchwilio i’ch pryderon ac, os bydd angen, yn gwneud cynllun i amddiffyn y plentyn.  Gall hyn gynnwys ychwanegu enw’r plentyn i’r Gofrestr Amddiffyn Plant. Byddwn yn parchu eich hawl i gyfrinachedd. 

Mae Cyngor Sir y Fflint yn gyfrifol am arwain a chydlynu gwasanaethau amddiffyn plant yn y sir. Rydym yn gweithio’n agos gydag ysgolion, Heddlu Gogledd Cymru, asiantaethau iechyd, doctoriaid, ymwelwyr iechyd ac asiantaethau eraill.

Gellir anfon ymholiadau ar e-bost ChildProtectionReferral@flintshire.gov.uk  Byddwch yn ymwybodol bod y blwch derbyn yn cael ei fonitro yn ystod dyddiau’r wythnos, yn ystod oriau swyddfa yn unig.