Alert Section

Gyrfa yng Ngwasanaeth Preswyl Plant

  • Ydych chi eisiau gwneud gwahaniaeth ym mywydau plant a phobl ifanc?
  • Ydych chi’n dosturiol ac eisiau helpu?
  • Ydych chi'n edrych i wneud gwahaniaeth go iawn?

Ymunwch â’n tîm ymroddedig o fewn y Gwasanaeth Preswyl Plant, sy’n darparu gofal 24/7 a chefnogaeth mewn amgylchedd clyd a chartrefol. Mae ein hymagwedd therapiwtig a gofalgar yn ein helpu i ddeall a chefnogi pobl ifanc yn y ffordd orau bosib.

Dechreuwch eich gyrfa

Mae cefnogi pobl ifanc a’u teuluoedd yn brif flaenoriaeth i ni. Dyna pam ein bod wedi datblygu model ailuno unigryw yng Nghymru, yn defnyddio Therapi Amlsystemig, Trawsnewid Integredig i Deuluoedd a’r Model Triniaeth Integredig, ynghyd â Therapi Ymddygiad Dialectig. Mae’r rhain yn sicrhau y gallwn ddarparu’r gefnogaeth orau bosib i bobl ifanc a’u teuluoedd.

Yn ein gwasanaeth, rydym yn defnyddio amrywiaeth o fodelau gofal i ddiwallu anghenion unigol pob person ifanc. Rydym yn defnyddio Ymarfer Datblygiadol Deuol a’r dull PACE (Natur Chwareus, Derbyn, Chwilfrydedd, ac Empathi) ar draws ein gwasanaeth. Mae’r dulliau hyn, ochr yn ochr ag ymarferion sy’n seiliedig ar drawma, yn ein helpu i ddarparu cefnogaeth gref a helpu pobl ifanc i oresgyn eu heriau.

Natur chwareus

Derbyn

Chwilfrydedd

Empathi

Sut beth yw gweithio ym maes gofal preswyl plant yn Sir y Fflint?

Yn Sir y Fflint, rydym yn frwdfrydig am y bobl ifanc rydym yn eu cefnogi ac rydym yr un mor ymrwymedig i’n gweithlu. Rydym yn credu mewn arweinyddiaeth dosturiol ac yn gwerthfawrogi pob aelod o’r tîm fel rhan allweddol o’n gwasanaeth.

Mae eich lles yn bwysig i ni.

Rydym yn credu yn eich twf a’ch llwyddiant! Mae ein gwasanaeth yn cynnig rhaglenni hyfforddi cynhwysfawr i wella eich sgiliau a chefnogi eich datblygiad gyrfa. 

Gyda rolau a chyfrifoldebau amrywiol, bydd gennych ddigon o gyfleoedd i wella a ffynnu yn ein tîm.

Stori Rhiannon

Stori Michaela

Stori Tony

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn dysgu, datblygu eich sgiliau, a gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau plant a phobl ifanc, hoffem glywed gennych chi. Ymunwch â ni a byddwch yn rhan o dîm sydd wir yn malio.

Gweld y swyddi gwag

Gwnewch wahaniaeth go iawn yn Sir y Fflint. Dewch yn Weithiwr gofal preswyl i blant. Ewch i gofalwn.cymru am fwy o wybodaeth.