Darganfyddwch sut rydym yn addo cefnogi, amddiffyn a grymuso pob plentyn yn ein gofal.
Mae pob plentyn a pherson ifanc yn ein gofal yn haeddu’r un gefnogaeth, a chyfleoedd y byddai unrhyw riant da yn eu darparu.
Yng Nghyngor Sir y Fflint, rydym yn cymryd ein cyfrifoldeb fel rhieni corfforaethol o ddifrif. Mae hyn yn golygu cydweithio ar draws yr holl wasanaethau, i sicrhau bod plant sy’n derbyn gofal, a’r rhai sy’n gadael gofal, yn ddiogel, yn cael eu meithrin a’u grymuso i ffynnu.

Pam Siarter – Beth yw ei phwrpas?
Mae ein Siarter Rhianta Corfforaethol yn nodi’r addewidion a’r cyfrifoldebau yr ydym yn ymrwymo iddynt gyda’n gilydd. Mae’n fwy na pholisi - mae’n addewid y byddwn yn sicrhau bod plant a phobl ifanc wrth wraidd popeth a wnawn.
Mae’r siarter yn amlinellu sut y byddwn yn:
- Darparu sefydlogrwydd, gofal ac anogaeth
- Cefnogi cyfleoedd addysgol, hyfforddiant a chyflogaeth
- Hyrwyddo iechyd, lles a pherthnasoedd cadarnhaol
- Helpu pobl ifanc i baratoi i fod yn annibynnol ac yn oedolion
- Gwrando ar eu lleisiau a gweithredu mewn ymateb i’w safbwyntiau
Trwy fynd i’r afael â’r egwyddorion hyn, rydym yn ceisio creu cymuned lle bo pob plentyn yn ein gofal yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, eu parchu a’u cefnogi i gyflawni eu llawn botensial.
Mae modd archwilio manylion llawn ein hymrwymiadau yn llyfrynnau’r Siarter Rhianta Corfforaethol, sydd ar gael yn y dolenni cyswllt isod.
Lawrlwythwch y Siarter Rhianta Corfforaethol
Lawrlwythwch y Siarter Rhianta Corfforaethol ar gyfer Plant a Phobl Ifanc